Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae’r Welsh Classical Dictionary yn cynnwys erthyglau bywgraffyddol a hanesyddol am Gymry a Brythoniaid hyd at y flwyddyn 1000 OC sy'n cael eu henwi mewn llawysgrifau hanesyddol cynnar o Gymru. Mae hefyd yn cynnwys rhai erthyglau ar enwau lleoedd a chymeriadau mytholegol a chwedlonol.
Ganwyd P.C. Bartrum yn Hampstead, gogledd Llundain ym 1907. Fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton, ac yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, lle bu'n astudio Perthynoledd. Ar ôl hyfforddi fel tirfesurydd yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, gweithiodd fel meteorolegydd tan ei ymddeoliad yn 1955.
Honnir i’w ddiddordeb mewn achyddiaeth ddeillio o’i awydd ‘i roi trefn ar bethau’, a cychwynnodd drwy ymchwilio i’w goeden deuluol. Er nad oedd ganddo unrhyw gysylltiadau â Chymru, dysgodd ddarllen Cymraeg a datblygodd ddiddordeb oes mewn hanes ac achau uchelwyr Cymreig yr oesoedd canol, gan ddatblygu’n ‘brif ysgolhaig achau canoloesol Cymru’. Ym 1974 cyhoeddodd gyfres o 8 cyfrol dan y teitl 'Welsh Genealogies AD 300-1400, a chyhoeddodd 18 cyfrol bellach o’r enw Welsh Genealogies AD1400-1500 ym 1983. Parhaodd i ychwanegu a chywiro'r cyhoeddiadau hyn, a chyflwynodd y llawysgrifau diwygiedig yma i Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a wnaeth ddigido’r casgliad. Bu P.C. Bartrum farw yn 2008 yn 100 oed.
Cyhoeddwyd A Welsh Classical Dictionary, people in History and Legend up to about A.D. 1000, gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1993. Yn ei gyflwyniad mae P.C. Bartrum yn cyfeirio at y gyfrol fel 'cyfres o nodiadau wedi eu trefnu yn nhrefn yr wyddor o dan enwau personol ac ychydig o enwau lleoedd' sy'n 'ganlyniad blynyddoedd lawer o weithio yn y maes hanes cynnar Cymru , chwedlau a gweithiau ffuglennol, ac sydd i ryw raddau’n gogwyddo tuag at bynciau a oedd o ddiddordeb personol' iddo, gan ‘dueddu tuag at achyddiaeth ac at ddatblygiad syniadau hanesyddol'. Mae wedi ceisio 'rhoi amlinelliad o hanfodion chwedloniaeth a gweithiau ffuglennol, gan geisio adrodd y straeon heb gynnig sylwadau, dehongliad neu ddyfalu.'