Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyhoeddwyd Micrographia gan Robert Hooke yn 1665.
Roedd Hooke yn gweithio yn y Gymdeithas Frenhinol fel pennaeth arbrofion ac roedd ei ddiddordebau gwyddonol yn eang. Hwyrach mai ei gyfraniad pwysicaf i’r byd gwyddonol oedd ei ddeddf elastigrwydd, sef Hooke's Law, sy’n datgan fod estyniad 'sbring' (neu weiren) a achosir gan rym cymhwysol yn gymesur i'r grym hwnnw. Gwnaeth lawer o ddarganfyddiadau dylanwadol ac arloesol eraill hefyd. Er enghraifft, dyfeisiodd y microsgop cyfansawdd ac fe'i defnyddiodd yn ei arbrofion yng nghyfarfodydd y Gymdeithas Frenhinol. Edrychodd Hooke drwy ei ficrosgop ar bryfed, planhigion a phlu adar. Dangoswyd y rhain yn fanwl iawn yn Micrographia. Defnyddiodd Hooke y llyfr i gynnig ffordd newydd i astudio gwyddoniaeth, sef arsylwi’n ofalus a chofnodi'r canlyniadau. Daeth hyn yn ganllaw i'r dull gwyddonol o weithio.
Mae'r llyfr yn cynnwys nifer o ddarluniau trawiadol plât-copr, er enghraifft y chwannen sydd yn agor i bedair gwaith maint y llyfr. Disgrifiodd Hooke y chwannen fel creadur:
‘adorn'd with a curiously polish'd suite of sable Armour, neatly jointed.’
Roedd Micrographia yn un o lyfrau mwyaf llwyddiannus y ddydd, a chafodd ganmoliaeth gan Samuel Pepys, a arhosodd i fyny tan ddau o'r gloch y bore i’w ddarllen. Dywedodd mai dyma’r llyfr clyfraf a ddarllenodd erioed!
Delwedd enwog arall yn y llyfr yw ei astudiaeth o gorc o dan ficrosgop. Er nad oedd yn ymwybodol o hynny, mae’n debyg mai ef oedd y cyntaf i ddarganfod strwythur celloedd planhigion. Disgrifiodd y deunydd fel a ganlyn: “ ... gallwn weld yn eglur iawn ei fod yn rhydyllog iawn, fel diliau mêl, ond bo’r meindyllau’n afreolaidd ... dyma'r meindyllau neu gelloedd meicroscopial cyntaf i mi eu gweld erioed, ac efallai’r cyntaf i’w gweld erioed, gan na wneuthum erioed gyfarfod ag unrhywun a wnaeth sôn amdanynt o'r blaen ...”
Ysgrifennodd Hooke ei theori ar hylosgiad ('combustion') yn Micrographia, gan dybio bod y broses o losgi’n cael ei chynnal gan ddeunydd a fyddai’n cymysgu ag aer. Gellid dadansoddi damcaniaeth Hooke fel rhagflaenydd i'r ddamcaniaeth fodern o hylosgiad; cred rhai y byddai Hooke hyd yn oed wedi darganfod Ocsigen pe bai wedi parhau â'i arbrofion.
Darbwyllwyd Hooke gan y lluniau o ffosiliau o dan ficrosgop i gredu nad oeddynt yn tarddu o gerrig, ond o greaduriaid a oedd yn byw ar y ddaear ganrifoedd ynghynt.
Roedd yn ddamcaniaeth newydd a awgrymwyd mewn cyfnod pan na ddeallwyd bod y ddaear mor hen ag yr oedd, a bod gwahanol greaduriaid wedi byw arni ar wahanol gyfnodau. Dyma esiampl arall o weledigaeth a syniadaeth bellgyrhaeddol Hooke.
Er bod y llyfr yn fwyaf adnabyddus am ei ddarganfyddiadau drwy ddefnyddio microsgop, mae Micrographia hefyd yn disgrifio planedau pell ac yn trafod hanfod tonnau golau. Gellir ystyried gwaith Hooke ar ddisgyrchiant a seryddiaeth yn rhagarwain ar waith Newton, a aeth ymlaen i ddatblygu deddfau Mecaneg Glasurol a disgyrchiant.