Mae'r pamffled hwn, a gyhoeddwyd gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1773, yn trafod achos Dr Thomas Bowles (1695-1773). Roedd yn offeiriad di-Gymraeg a apwyntiwyd yn rheithor plwyf Trefdraeth ar Ynys Môn yn 1766, digwyddiad a achosodd ddadlau yng Nghymru ac o fewn yr Eglwys Anglicanaidd.
Yn y cyfnod hwn roedd plwyfi yng Nghymru yn dal i fod o dan awdurdod canolog Archesgob Caergaint. Byddent yn parhau o dan y drefn hon nes datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn 1920.
Cefndir sefyllfa Dr Thomas Bowles
Er bod llawer o'r esgobion yn yr esgobaethau Cymreig yn ddi-Gymraeg, yr oedd mwyafrif yr offeiriadon a rheithorion yn y plwyfi gwledig yn gallu gwneud eu dyletswyddau drwy'r Gymraeg.
Roedd cryn ddadlau, felly, pan gafodd offeiriad di-Gymraeg fywoliaeth yn un o'r ardaloedd Cymreicaf yng Nghymru. Pan wnaed Dr Thomas Bowles yn rheithor Trefdraeth a Llangwyfan pump yn unig o'i 500 o blwyfolion a fedrai'r Saesneg. Yr oedd gan y rheithorion blaenorol gryn barch yn yr ardal: roeddynt yn unigolion gweithgar a brwd a allai wasanaethu yn y Gymraeg.
Daeth Bowles yn fuan yn amhoblogaidd gyda'i blwyfolion. Nid oedd yn gallu cyfathrebu yn y Gymraeg ac roedd ei wasanaethau uniaith Saesneg yn annealladwy i fwyafrif y gynulleidfa. Daeth yn amlwg hefyd nad oedd, chwaith, yn bwriadu dysgu Cymraeg.
Cryfhaodd yr ymgyrch i'w ddisodli. Arweiniwyd yr ymgyrch hwn gan ddau warden eglwys, Richard Williams o Dreddafydd Ucha (m.1783) a Hugh Williams o Garreg Ceiliog. Cefnogwyd yr ymgyrch gan John Thomas (1736-69), prifathro Ysgol Ramadeg Biwmares. Roedd gan John Thomas gyfeillion pwerus ymysg elît y Cymry Cymraeg, a derbyniodd gefnogaeth i'w ymgyrch gan Gymdeithas y Cymmrodorion.
O ganlyniad i bwysau gan ei wraig a'i gyfeillion a oedd yn gynyddol ymwybodol o elyniaeth gynyddol tuag ato, dechreuodd Bowles gymryd rhai gwasanaethau yn y Gymraeg. Er hyn roedd y gwasanaethau hyn yn aml mor annealladwy â'i wasanaethau Saesneg.
Yr achos yn erbyn Dr Thomas Bowles
Arweiniodd yr holl helynt at ddwyn achos gerbron Llys y Bwâu ym Mai 1770. Llys y Bwâu oedd prif lys eglwysig talaith Caergaint ac roedd ganddo awdurdod eang dros faterion yn ymwneud ag ymddygiad clerigwyr.
Seiliwyd yr achos yn erbyn Bowles ar Ddeddf Cyfieithu'r Beibl, 1563, a Deddf Unffurfiaeth 1662. Datganodd y rhain y dylid cynnal gwasanaethau drwy'r Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg.
Datganodd nifer o dystion nad oedd Bowles yn gallu cymryd gwasanaethau yn y Gymraeg ac nid oedd felly'n gymwys i gyflawni ei ddyletswyddau'n ddigonol. Daeth yn amlwg hefyd bod Bowles wedi ceisio camarwain y llys drwy dwyllo'i wardeiniaid eglwys i arwyddo datganiadau yn dweud ei fod yn gallu gwneud ei ddyletswyddau yn y Gymraeg.
Dyfarnodd y barnwr, Dr George Hay, bod apwyntiad Bowles wedi bod yn gamgymeriad a oedd yn torri cyfraith ganon a chyfraith statud, ond gan bod Bowles eisoes wedi ei apwyntio i'r fywoliaeth ac wedi bod yn gwasanaethu am nifer o flynyddoedd, a'i fod o leiaf wedi ceisio cymryd rhai gwasanaethau yn y Gymraeg, ni allai ddyfarnu dedfryd o ddifreinio. Er hyn, mynegodd ei anghymeradwyaeth o ymddygiad Bowles a gwrthododd dalu ei gostau.
Darllen pellach
- Geraint H. Jenkins, '"Horrid unintelligible jargon": the case of Dr. Thomas Bowles'. Yn Welsh History Review 15 (1990-1991), t.494-523.
- Geraint H. Jenkins, 'Fresh light on the character of Dr Thomas Bowles'. Yn Anglesey Antiquarian Society and Field Club Transactions (1991), t.67-75.
- Eryn M. White, 'Yr Eglwys Sefydliedig, Anghydffurfiaeth a'r Iaith Gymraeg c.1660-1811' yn Geraint H. Jenkins (gol.), Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb: yr iaith Gymraeg cyn y Chwyldro Diwydiannol (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997).
Darganfod & Dysgu
- Arddangosfeydd arlein
- Europeana Rise of Literacy
- Illingworth
- David Lloyd George
- Calendr Cymru a'r Byd
- Llawysgrifau
- Archifau
- Deunydd print
- Yny lhyvyr hwnn
- Vindiciae Contra Tyrannos
- Y Drych Cristianogawl
- Testament Newydd William Salesbury
- Beibl Cymraeg 1588
- Monsterous Fish
- Micrographia
- Almanaciau Cymraeg
- Gweithiau Print William Williams, Pantycelyn
- The case of Dr Thomas Bowles
- Adroddiad Gwallter Mechain i'r Bwrdd Amaeth
- Llyfrau Gleision 1847
- A Welsh Classical Dictionary
- Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Darluniau
- Mapiau
- Ffotograffau
- Dylan Thomas
- Addysg