Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Yn gyffredinol adwaenir William Williams, Pantycelyn fel prif emynydd Cymru. Ond yr oedd hefyd yn un o arweinwyr allweddol Methodistiaeth gynnar yn ein gwlad a hefyd yn fardd ac awdur rhyddiaith o fri. Ystyrir ef heddiw yn un o'n prif lenorion.
Ganed Williams yn 1717 yng Nghefn-coed ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, sir Gaerfyrddin. Fe'i addysgwyd yn lleol gyda'r bwriad o ddilyn gyrfa fel meddyg. Newidiodd hyn pan gafodd dröedigaeth wrth wrando ar y diwygiwr efengylaidd Howell Harris (1714-73) yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Cymerodd urddau diacon yn 1740 a'i benodi'n gurad i Theophilus Evans (1693-1767) ym mhlwyfi Llanwrtyd, Llanfihangel Abergwesyn a Llanddewi Abergwesyn. Ond oherwydd ei weithgaredd Methodistaidd gwrthodwyd urddau offeiriad iddo ac o hynny allan ymroes yn gyfan gwbl i'r mudiad gan deithio'r wlad yn pregethu ac yn sefydlu seiadau. Bu farw yn 1791, a gellir gweld copi o ewyllys Pantycelyn ar wefan y Llyfrgell (SD/1791/107).
‘Williams Pantycelyn’ oedd prif emynydd y deffroad Methodistaidd yng Nghymru, cyhoeddodd bron i 1000 o emynau yn ystod ei fywyd. Gellir priodoli llawer o lwyddiant Methodistiaeth Gymreig i'r bri a fu ar ganu ei emynau. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o emynau yn 1744 a pharhaodd i gyhoeddi cyfrolau a llyfrynnau o emynau yn Gymraeg a Saesneg yn y drefn hon: Aleluia (yn chwech o rannau rhwng 1744 a 1747, ac un gyfrol yn 1749); Hosanna i Fab Dafydd (1751-1754), a chasgliad Saesneg, Hosannah to the Son of David (1759); Rhai Hymnau a Chaniadau Duwiol (1757); Caniadau (y rhai sydd ar y môr o wydr) (1762); Ffarwel Weledig, groesaw anweledig bethau (3 rhan, 1763-1769, ac un gyfrol dan y teitl Haleluia Drachefn, c. 1790); Gloria yn Excelsis (2 ran, 1771 a 1772, ynghyd â chasgliad Saesneg o'r un enw, 1772); Ychydig Hymnau (1774) a Rhai Hymnau Newyddion (1781-1787). Er bod ei gynnyrch yn anwastad, ystyrir Pantycelyn fel emynydd pwysicaf Cymru am gyfoeth symbolaidd ac uniongyrchedd ei waith gorau.
Yn ogystal â'i emynau, cyfansoddodd ddwy gerdd hir, sef Golwg ar Deyrnas Crist (1756) a Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764), a chyfrolau o farddoniaeth byrrach. Canodd hefyd tua 28 o farwnadau, yr amlycaf yw’r rhai i’w gyd-Fethodistiaid Howell Harris a Daniel Rowland.
Cyhoeddodd nifer o lyfrau mewn rhyddiaith er mwyn hyrwyddo tyfiant ysbrydol ei gyd-Fethodistiaid, megis Llythyr Martha Philopur (1762) ac Atteb Philo-Evangelius (1763); Crocodil Afon yr Aipht (1767); Tri Wyr o Sodom a'r Aipht (1768); Liber Miscellaneorum (1773); Ductor Nuptiarum: Neu, Gyfarwyddwr Priodas, (1777); Templum Experientiae Apertum, neu, Ddrws y society profiad (1777) a Pantheologia, Neu Hanes Holl Grefyddau'r Byd a gyhoeddwyd yn rhannau rhwng 1762 a 1778. Mae Pantheologia yn trafod hanes crefyddau’r byd, ac yn cynnwys disgrifiadau am ddaearyddiaeth, hanes a natur o bob cwr o’r byd. Roedd gan William Williams hefyd diddordeb byw yn y gwyddorau, fel y gwelir yn ei gyfrol Aurora Borealis (1774), sy’n rhannol yn ymwneud â ‘Goleuni’r Gogledd’.
Erbyn ei farwolaeth ym 1791, yr oedd wedi cyhoeddi bron i 90 o lyfrau a phamffledi. Yn 2017, i ddathlu tri chan mlwyddiant ei eni, digidodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru holl weithiau cyhoeddiedig William Williams Pantycelyn, ynghyd â dwy lawysgrif. Bydd y casgliad, sy'n cynnwys dros 4,000 o dudalennau i gyd, yn sail i godi ymwybyddiaeth o gyfraniad y llenor a'r emynydd i fywyd Cymru a ledled y byd, ac yn adnodd gwych i unrhyw un sy'n astudio neu'n ymddiddori yn ei waith.
Aleluja, neu, casgljad o hymnau ar amryw ystyrjaethau. [Y Rhan Gyntaf] 1744 W.s. 1744 (10)
Aleluja ... Yr ail argraphjad. [o'r rhan 1af] 1744 W.s. 1744 (11)
Aleluia ... Yr ail rhan. 1745 W.s. 1744 (10)
Aleluia ... Y drydydd rhan. 1745 W.s. 1744 (10)
Aleluia ... Y bedwaredd ran. 1745 W.s. 1746 (6)
Aleluia ... Y pummed ran. 1747 W.s. 1747 (10)
Aleluia ... Y chweched ran. 1747 W.s. 1747 (11)
Aleluia, neu, gascliad o hymnau. (Gan mwyaf) o waith ... William Williams. Yr ail argraphiad [Ymddangosiad cyntaf y chwe rhan mewn un gyfrol] 1749 2010 XA 587
Hosanna i fab Dafydd, neu gasgliad o hymnau. 1751 W.s. 1751 (4)
Hosanna i fab Dafydd, neu gasgliad o hymnau ... Yr ail ran. 1753 W.s. 1753 (3)
Hosanna i fab Dafydd, neu gascliad o hymnau. [Y drydedd ran] 1754 OXB 453
Golwg ar deyrnas Crist, neu Grist yn bob peth, ac ymhob peth: ... 1756 XAC908 (4)
Rhai hymnau a chaniadau duwiol ar amryw ystyrjaethau. 1757 XAC908 (4)
Aleluia, neu gascliad, o hymnau ... Y drydedd argraphiad. 1758 OXA1372
Hosannah to the Son of David; or, hymns of praise to God, ... 1759 OXB 458
Siccrwydd ffydd, wedi ei agoryd a'i gymhwyso; ... Gan y Parchedig Ebenezer Erskine, ... Wedi ei gyfieithu ... gan William Williams 1759 W.s. 1759 (12)
Siccrwydd ffydd, ... Yr Ail Argraffiad. 1760 W.b. 5839
Marwnad y Parchedig Mr. Gryffydd Jones, Gweinidog Llanddowror, a Llandeilo-Fach;. . .yr hwn a fu farw ... 1761, ... 1761 Col. 5114
Caniadau, (y rhai sydd ar y mor o wydr yn gymmysgedig a than, ac wedi cael y maes ar y bwystfil, ) i Frenhin y Saint, ... 1762 W.s. 1762 (9)
Llythyr Martha Philopur at y Parchedig Philo Evangelius ei hathro ... 1762 OXB 446
Pantheologia, neu hanes holl grefyddau'r byd; ... 1762 OXA 924
Atteb Philo-Evangelius i Martha Philopur. 1763 OXA977
Caniadau y rhai sydd ar y mor o wydr, &c. i frenhin y Saint ... Yr ail argraphiad. 1763 W.s. 1763 (15)
Caniadau y rhai sydd ar y mor o wydr, &c. i frenhin y Saint ... Yr ail argraphiad. 1763 W.s. 1775 (16)
Yr Hymnau a 'chwanegwyd [at arg. cyntaf Caniadau ... y mor o wydr]. 1763 Nid oes copi o'r gwaith hwn ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ffarwel weledig, groesaw anweledig bethau neu rhai hymnau o fawl i Dduw a'r Oen. 1763 W.s. 1763 (6b)
Bywyd a marwolaeth Theomemphus, o'i enedigaeth i'w fedd. 1764 W.s. 1764 (17)
Caniadau y rhai sydd ar y mor o wydr, &c. i Frenhin y Saint Y drydedd argraphiad. 1764 W.s. 1764 (16)
Crwydriad dychymmyg i fyd yr ysbrydoedd; neu fyfyrdodau ar farwolaeth y Parchedig Mr. Lewis Lewis. . . yr hwn a ymadawodd a'r byd ... 1764. 1764 Gomer M. Roberts 39
Golwg ar deyrnas Crist ... Yr ail argraphiad, ... 1764 W.b. 3702
Hymnau newyddion, nad oedd yn un o'r ddau argraphiad cyntaf. [o'r 'Caniadau, y rhai sydd ar y mor o wydr']. 1764 W.b. 3757
Ffarwel weledig, groesaw anweledig bethau: ... Yr ail ran. 1766 W.s. 1766 (11)
Marwnad Anne Price, or Bronnydd, ym mhlwyf Llanfair ar y bryn ... yr hon a fu farw ... 1766, ... 1766 Gomer M. Roberts 50
Crocodil, Afon yr Aipht, wedi ei weled ar fynydd Seion: sef, cenfigen, wedi ei holrhain trwy'r byd a'r eglwys, ... 1767 OXB 492
Hanes bywyd a marwolaeth tri wyr o Sodom a'r Aipht ... 1768 XPB2298.W728
Ffarwel weledig, groesaw anweledig bethau: ... Y drydedd ran. 1769 W.s. 1769 (3)
Galarnad ar farwolaeth Mr. W. Read; o Bont y Moel, yn ymmyl Pont y Pool: ... yr hwn a ymadawodd a'r byd ... 1769. 1769 W.s. 1765 (8)
Marwnad ar y Parchedig Mr. G. Whitffield, ... Ynghyd a Llythyr Capten Jacobson, ... ar achos ei farwolaeth. 1770 W.s. 1770 (16)
Marwnad ar y Parchedig Mr. H. Davies ... An English elegy on the Rev. Mr. H. Davies, Chaplain to the ... Countess of Walsingham, who departed this life ... 1770, ... 1770 Gomer M. Roberts 55
An Elegy on the Reverend Mr G. Whitefield ... Chaplain to the ... Countess of Huntington; who died ... 1770, ... 1771 W.b.3774
Gloria in excelsis: neu hymnau o fawl i Dduw a'r Oen. Y rhan gyntaf. 1771 W.s. 1771 (17a)
Marwnad Wiliam Richard o Abercarfan, ym Mhlwyf Llanddewi- brefi; yr hwn a fu farw ... 1770 ... Ynghyd a Marwnad John Parry o Blwyf Tal-llychau; yr hwn a fu farw ... 1770. 1771 W.s. 1771 (14/16)
Gloria in excelsis: neu hymnau o fawl i Dduw a'r Oen. Yr ail ran. 1772 W.s. 1772 (4)
Gloria in excelsis: or hymns of praise to God and the Lamb. 1772 W.s. 1772 (6)
Caniadau, y rhai sydd ar y mor o wydr, &c. i Frenhin y Saint ... Y pedwarydd argraphiad, gyd a chwanegiad o hymnau newyddion ... 1773 W.s. 1773 (1)
Liber miscellaneorum, neu lyfr amrywioldeb, 1773 W.s. 1771 (14/13)
Marwnad er coffadwriaeth am Mr. Howel Harries, yr hwn ... a ymadawodd a'r byd hwn ... 1773, ... 1773 OXB 449
Rhai hymnau newyddion, a -'chwanegwyd at y pedwerydd argraffiad o'r Caniadau y rhai sydd ar y mor o wydr, &c. 1773 W.s. 1771 (14/6)
Aurora Borealis: neu, y goleuni yn y Gogledd, fel arwydd o lwyddiant yr Efengyl yn y dyddiau diweddaf ... 1774 OXA 1154
Aurora Borealis: neu, y goleuni yn y Gogledd ... Yr ail argraphiad. 1774 OXB 429
Marwnad, er coffadwriaeth am Hugh Wiliams, o Gornwal, ym Mhlwyf Llanfigan, yn Sir Frecheiniog, yr hwn a ymadawodd a'r byd hwn ... 1774. 1774 W.s. 1771 (14/18)
Ychydig hymnau, ar fesur newydd. 1774 W.s. 1774 (1)
Aleluia, neu lyfr o hymnau: ... Y pedwarydd argraphiad. 1775 W.b. 134
Marwnad Mr. Evan Williams, o Faesgenffordd, yn agos i'r Garth, yn Sir Frecheiniog ... a foddodd yn yr Afon Gwy ... 1776 ... Atba un y chwanegwyd Hymn, ... 1776 XCT 379 W722 W72
Marwnad Mr. Evan Williams, o Faesgenffordd 1776 W.s. 1771 (14/21)
Ductor nuptiarum: neu, gyfarwyddwr priodas. Mewn dull o ymddiddan rhwng Martha Pseudogam, a Mary Eugamus ... 1777 OXB 451
Templum experientiae apertum; neu, ddrws y society profiad wedi ei agor o led y pen, ... 1777 W.s. 1777 (9)
Galarnad Ann Pugh, o Blwyf Llangammarch, ar ol ei mab Rhys Pugh, yr hwn a ymadawodd a'r byd ... 1778, ... 1778 W.s. 1771 (14/20)
Hanes troedigaeth ryfedd a hynod y Parchedig Mr Thomas Goodwin ... Ynghyd a rhai hymnau, ar fesurau newyddion. 1779 W.s.1779 (17)
An Elegy on the much lamented death of Miss Eliza Price, daughter of the late G. Price, Esq. of Pigionsford, in the Parish of Llangyranog, Cardiganshire, who died ... 1780 ... Marwnad Miss Eliza Price, o Ryd-y-Colommenod ... 1780 Nid oes copi o'r gwaith hwn ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Marwnad ar farwolaeth Mrs Grace Price ... o Watford, yn Sir Forganwg. Yn hon a ymadawodd a'r byd ... 1780, ... 1780 Gomer M. Roberts 48
Bywyd a marwolaeth Theomemphus ... Yr ail argraphiad. 1781 Col.14142
Marwnad Mr. Abraham Wood ... a ymadawodd a'r byd ym Mis Awst, 1779. A marwnad Mrs. Margaret Wood ... a ymadawodd a'r byd ym Mis Mai, 1781. 1781 Nid oes copi o'r gwaith hwn ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Marwnad, ar farwolaeth Mrs. Grace Price ... o Waterford ... Yr ail argraphiad. 1781 OXB 443
Rhai hymnau newyddion,—ar fersurau newyddion: ... 1781 Col. 5120
Rhai hymnau newyddion ... Yr ail argraphiad. 1781 OXA 1098
Rhai hymnau newyddion ... Y trydydd argraphiad. 1781 W.s. 1781 (20)
Rhai hymnau newyddion 1781 W.s. 1771 (14/27)
Galarnad ar farwolaeth Mari, gwraig John Jones, o Landilo-fach, yn Sir Forganwg, yr hon a fu farw ... 1781.—Ynghyd a Galarnad am John Philip, o Lwyngyfarthwch, yn agos i Lanelli ... yr hwn ... a fu farw o ddautu yr un amser. 1782 Nid oes copi o'r gwaith hwn ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhai hymnau newyddion, ... 1782 OXB 425
Rhai hymnau newyddion ... Yr ail argraphiad. 1782 W.s.1782 (9a)
Marwnad Llewelin Ddafydd, o Blwy-Llywel, yn Sir Frecheiniog, ... 1783 Gomer M. Roberts 59
Atteb i wr bonheddig, a geisiodd brydyddu senn, ... 1784 W.s. 1784 (5)
Marwnad ar farwolaeth y Parchedig Mr. Cristopher Basset, y iefangaf o Aberddawen yn Sir Forganwg ... yr hwn a ymadawodd a'r byd ... 1784, ... 1784 XCT379 B31 W72
Myfyrdodau ar angau: neu, alarnad am y farwolaeth anghyffredin, a ddigwyddodd mewn amryw fannau o Gymru y blynyddau hyn, ... 1785 Gomer M. Roberts 42
Darluniad gras a serchiadau natur [1785?] W.s. 1771 (14/22)
Immanuel: neu ddirgelwch dyfodiad Mab Duw yn y cnawd ... gan James Usher ... Newydd ei gyfiaethu ... gan William Williams, ... 1786 W.s. 1786 (11)
Marwnad ar y Parchedig Mr. William Davies o Gastell Nedd; yr hwn a ymadawodd a'r byd ... 1787, ... 1787 Gomer M. Roberts 52
Rhai hymnau newyddion, ar fesurau newyddion 1787 W.s. 1787 (11)
Rhai hymnau newyddion, ... [argraffiad gwahanol: LW5535] 1787 XPB2298 W728
Marwnad Mrs. Catharine Jones ... o Blwyf Trefddyn, yn Sir Fynwe; yr hon a ymadawodd a'r byd ... 1789, ... 1789 W.s. 1789 (7)
Marwnad Miss Susannah Prichard, ... o'r Collenne, ym Mhlwyf Llantrisaint, yn Sir Forgannwg; yr hon a ymadawodd a'r byd ... 1790, ... 1790 Gomer M. Roberts 35
A Serious address, presented to the consideration of all charitable and well-disposed Christians, for contributing some part of their monied properties, to raise a small fund, to carry on Welsh Charity Schools: upon a similar plan with that established by the late ... Griffith Jones, and continued by Mrs. Bevan. = Annerch pryssur a difrifol, ... 1790 Nid oes copi o'r gwaith hwn ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Haleliua drachefn: neu dair rhan o'r hymnau gyfenwyd Ffarwel weledig, groesaw, anweledig bethau, ... 1791 XBV459 W728
Marwnad y Parchedig Mr. Daniel Rowlands, yr hwn a ymadawodd a'r byd ... 1790, etc. 1791 OXA 739
Marwnad: y Parchedig Mr. Daniel Rowlands ... Yr ail argraphiad. 1791 W.s. 1791 (45)