Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
I'r Dra Anrhydeddus, Nerthol ac Araul Dywysoges Elisabeth, trwy ras Duw Brenhines Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon, Amddiffynnydd y Ffydd Wir ac Apostolaidd, etc. Gras a bendith dragwyddol yn Yr Arglwydd.
Dra brenhinaidd Dywysoges! Y mae llawer peth sy'n dwyn tystiolaeth gwbl eglur i faint dyled Eich Mawrhydi i'r Duw Mawr a Goruchaf. Heb sôn am eich cyfoeth a'ch gallu a'ch cynhysgaeth ryfeddol o ran doniau a chyneddfau naturiol, dyna eich graslonrwydd dihafal, sy'n peri fod Eich Mawrhydi yn destun edmygedd i gynifer o bobl; a'ch dysg, sydd o ran ei hamlochredd yn eich addurno mewn dull sydd y tu hwnt i gyrraedd pawb arall; a'r heddwch gwynfydedig yr ydych chwi'n ei fwynhau rhagor eich cymdogion; a'r modd y bu i'r heddwch hwnnw gael ei amddiffyn peth na ellir fyth ei edmygu'n ddigonol pan yrasoch eich gelynion creulon ar ffo yn ddiweddar,1 a hefyd bob tro y cawsoch ddihangfa lwyddiannus oddi wrth y llu peryglon mawrion a'ch amgylchynai. Ond hefyd ac yn bennaf oll dyna eich defosiwn cwbl eithriadol, enwog trwy yr holl fyd, y mae Duw Ei Hun wedi cynysgaeddu ac addurno Eich Mawrhydi ag ef; a'r sêl fwyaf eiddgar honno dros ledaenu ac amddiffyn gwir grefydd sydd bob amser wedi bod yn llosgi o'ch mewn. Oblegid - imi gael mynd heibio am y tro i genhedloedd eraill, a'ch cyflawniadau ardderchog eraill chwi y mae'r un ffaith hon bob amser yn ddigon i ddangos maint gofal duwiolfrydig Eich Mawrhydi am y Brytaniaid ymhlith eich deiliaid, sef eich bod nid yn unig yn raslon wedi caniatáu fod dau Destament Gair sanctaidd Duw, sef yr Hen a'r Newydd, yn cael eu cyfieithu i'r Frytaneg, ynghyd â'r llyfr hwnnw sy'n pennu ffurf gweddiau cyhoeddus a threfn gweinyddu'r sacramentau, ond hefyd wedi bod mor ofalus â chadarnhau hynny trwy awdurdod Prif Lysoedd y deyrnas ardderchocaf hon. Yr un pryd, y mae hynny yn bradychu ein diofalwch a'n syrthni ni, gan i ni fethu â chael ein cyffwrdd gan ddifrifwch yr angen na'n hysgogi gan gyfraith mor fanteisiol, ond yn hytrach adael mater mor bwysig bron heb ei gyffwrdd am gyhyd o amser ac ni ellid byth ddarganfod mater mwy ei bwys na hwn. Oblegid Y Llyfr Gweddi, ynghyd â'r Testament Newydd yn unig, a gyfieithwyd gan y Parchedig Dad Richard, Esgob Tyddewi, o barchus goffadwriaeth (gyda chymorth William Salesbury, gŵr a roes ei orau posibl i'n heglwys ni) a hynny ugain mlynedd yn ôl.2 Ni ellir yn hawdd fynegi maint y budd a ddaeth i'n cydwladwyr drwy'r llafur hwn. Yn un peth, y mae'n pobl gyffredin ni yn ddiweddar wedi dod yn llawer mwy hyddysg yn yr iaith Saesneg, wrth iddynt fynd ati i gymharu â'i gilydd yr hyn a ysgrifenasid yn y Frytaneg a'r hyn a ysgrifenasid yn Saesneg. Ond, ar ben hynny, fe wnaed cyfraniad o'r mwyaf tuag at y gwaith o hyfforddi yn y gwirionedd a thuag at ddod yn hyddysg yn y gwirionedd. Oblegid cyn hynny, o'r braidd fod un neu ddau o ddynion a fedrai bregethu yn y Frytaneg, gan fod geiriau addas ar gyfer egluro yn y Frytaneg y dirgeledigaethau sanctaidd a drafodir yn yr Ysgrythurau Sanctaidd naill ai wedi diflannu'n llwyr, fel pe bai dyfroedd Lethe3 wedi eu dileu, neu wedi bod yn gorwedd, fel pe baent wedi'u cuddio a'u claddu o dan lwch anarfer. Canlyniad hyn oll oedd fod y rheini a oedd yn athrawiaethu yn methu ag egluro'r hyn a ddymunent yn ddigon clir, na'r rhai a oedd yn gwrando ychwaith yn gallu deall yn ddigon boddhaol yr hyn yr oeddid yn ceisio ei egluro. Yr oeddent mor anghyfarwydd â'r Ysgrythurau fel na allent wahaniaethu rhwng beth oedd tystiolaeth yr Ysgrythurau eu hunain a beth oedd yn esboniad ar yr Ysgrythurau hynny: gyda'r canlyniad eu bod yn heidio'n frwdfrydig i wrando ar bregethau, ac yn rhoi sylw eiddgar iddynt, ond bod y rhan fwyaf ohonynt yn ymadael mewn ansicrwydd ac amheuaeth fel petaent wedi darganfod trysor mawr, ond yn methu â'i gloddio allan, neu wedi bod mewn gwledd foethus, ond nad oedd rhyddid iddynt hwy gyfranogi ohoni.
Ond yn awr, trwy diriondeb rhagorol y Duw Mawr a Goruchaf, a thrwy eich gofal arbennig chwi, a thrwy ddyfalwch diflino yr Esgobion, a thrwy lafur a gweithgarwch y cyfieithydd y soniais amdano, sicrhawyd inni fodd cael llawer mwy o bregethwyr, a'r rheini wedi eu paratoi yn well, a hefyd wrandawyr sy'n fwy cymwys i ddysgu. Y mae'r ddau bwrpas yma yn agos at galon y duwiolfrydig, ond hyd yma ni welwyd hyd yn oed led-gyflawni eu dymuniad, nac yn y naill gyfeiriad na'r llall. Oblegid yn gymaint â bod y Testament cynharach hwnnw y Testament sy'n rhagddywediad cuddiedig o'r llall, yn llun gwan ohono ac yn dyst diamheuol iddo wedi bod yn eisiau i'n cydwladwyr, pa sawl esiampl (gwae ni!) sydd yn guddiedig rhagddynt? pa sawl addewid sy'n llechu o'u golwg hwy? pa sawl gair cysurlon sydd wedi ei gelu oddi wrthynt? pa sawl cyngor, anogiad a rhybudd, pa sawl tystiolaeth i'r gwirionedd y mae'n pobl ni, yn groes i'w hewyllys, yn eu colli, pobl y mae Eich Mawrhydi yn eu rheoli, yn gofalu amdanynt ac yn eu caru? Y mae eu hiachawdwriaeth dragwyddol hwy sy'n atgas gan Satan yn unig, a'i lu ef wedi ei pheryglu'n ddirfawr hyd yma, gan mai trwy ffydd y mae pob un yn byw,4 a ffydd yn wir sydd trwy glywed, a chlywed trwy Air Duw :5 Gair na fu hyd yma ond o'r braidd yn seinio yng nghlustiau ein cydwladwyr, gan ei fod yn guddiedig mewn iaith estron. Felly pan sylweddolais i fod cyfieithu gweddill yr Ysgrythurau i'r iaith Frytaneg yn beth mor fuddiol, nage, yn beth mor angenrheidiol (er imi gael fy atal am hir amser gan ymdeimlad o'm gwendid fy hun, aruthredd y gwaith, ac ysbryd maleisus rhai pobl), ildiais i geisiadau'r duwiolfrydig a goddef iddynt fy narbwyllo i ymgymryd â'r dasg bwysfawr a thrafferthus hon, tasg nad yw'n gymeradwy o gwbl yng ngolwg llawer. A minnau ond prin wedi ymgymryd â'r gwaith, byddwn wedi syrthio (fel y dywedir) ar y trothwy, wedi fy llwyr lethu gan anawsterau'r dasg a chan faint y gost, ac ni fyddwn wedi gallu gweld argraffu ond y Pum Llyfr, oni bai i'r Parchedicaf Dad yng Nghrist, Archesgob Caer-gaint,6 Maecenas rhagorol i lên a dysg, amddiffynnydd mwyaf eiddgar y gwirionedd, a gwarcheidwad tra doeth ar drefn a gweddustra oni bai iddo ef lwyddo i gael gennyf barhau gyda'r gwaith, a'm cynorthwyo â'i haelioni, ei ddylanwad a'i gyngor. (O'r amser pan fu, o dan Eich Mawrhydi, yn Llywydd tra doeth a chyfiawn ar y Brytaniaid, pryd y sylwodd pa mor hydrin a chraff eu meddwl yw ein cydwladwyr, bu ef yn fwyaf ffafriol ei agwedd tuag atynt, yn yr un modd ag y maent hwythau bob amser yn fawr eu clodydd iddo ef.) A chan ddilyn ei esiampl ef, y mae dynion da eraill wedi rhoi imi'r cymorth mwyaf.
Ar ôl cael f'ysgogi, fy nghynnal a'm cynorthwyo'n fynych gan eu hanogaeth, eu diwydrwydd a'u llafur hwy, ac ar ôl imi nid yn unig gyfieithu'r cyfan o'r Hen Destament ond hefyd ddiwygio'r Newydd a'i lanhau o'r dull go wallus o ysgrifennu a oedd ynddo7 - yr oedd yn frith o hynny - fe'm caf fy hun yn awr mewn penbleth ac amheuaeth ynglŷn â phwy y mae'n iawn ac yn briodol imi gyflwyno'r gwaith iddo. Pan gofiaf fy annheilyngdod mawr fy hun, neu pan edrychaf ar wychder eithriadol Eich Mawrhydi, neu pan ystyriaf fel y mae mawredd gogoneddus Duw Ei Hun yn disgleirio ynoch (oblegid Ei ddirprwy Ef ydych chwi), yr wyf yn dychrynu rhag nesáu at y fath lewych sanctaidd. Ond, ar y llaw arall, y mae'r teilyngdod a berthyn i'r gwaith ei hun sydd yn ôl ei haeddiant cynhenid, megis, yn hawlio eich nodded yn fy llanw â gwroldeb o'r newydd. Yna, o gofio iddi fod yn wiw gennych mewn ysbryd mor gyfiawn, graslon a brenhinaidd arddel yr argraffiad o'r Testament Newydd yn y Frytaneg, barnaf mai arwydd o ddiffyg doethineb ac o ysbryd sarhaus ac anniolchgar fyddai i mi chwilio am noddwr arall i'r gwaith hwn. Ni chredaf ychwaith y dylid gwahanu dau waith sy'n cydglymu yn ei gilydd ac yn cyfateb mor glòs, ond, yn hytrach, gan mae'r un peth ydynt mewn gwirionedd, dylid cadw'r ddau gopi yn yr un llyfrgell.8 Yn wylaidd gofynnaf ac erfyniaf, plediaf â'ch Mawrhydi â'r gweddïau mwyaf taer, ar i chwi gydsynio i edrych mewn ysbryd ffafriol a charedig ar f'ymdrechion, yn gymaint â'u bod yn pwyso ar awdurdod eich cyfreithiau chwi, yn gwasanaethu achos iachawdwriaeth eich pobl, ac yn edrych tuag at ogoniant eich Duw chwi. Fy hyder hefyd yw y byddant yn gofeb barhaol nid yn unig i'ch sêl chwi dros y gwirionedd a thros y Brytaniaid, ond hefyd yn arwydd o serch mwyaf ffyddlon y Brytaniaid tuag at Eich Mawrhydi.
Os myn rhai pobl, er mwyn ceisio sicrhau cytgord, y dylid gorfodi'n cydwladwyr i ddysgu'r iaith Saesneg yn hytrach na chael cyfieithu'r Ysgrythurau i'n hiaith ni, fe ddymunwn i ar iddynt, yn eu sêl dros undod, fod yn fwy gwyliadwrus rhag sefyll yn ffordd y gwirionedd; ac yn eu hawydd i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth, dymunaf iddynt fod yn fwy awyddus fyth i beidio â disodli crefydd. Oblegid er bod cael trigolion yr un ynys yn defnyddio'r un iaith a'r un ymadrodd yn beth sydd i'w fawr ddymuno, eto dylid ystyried ar y llaw arall fod maint yr amser a'r drafferth a gymerai i gyrraedd at y nod hwnnw yn golygu ewyllysio, neu o leiaf ganiatáu, fod pobl Dduw yn y cyfamser yn marw o newyn am Ei Air Ef,9 a byddai hynny'n beth llawer rhy farbaraidd a chreulon. Yna, ni ellir amau nad yw cyffelybrwydd a chytgord mewn crefydd yn cyfrif mwy tuag at undod na chyffelybrwydd a chytgord iaith. Heblaw hynny, nid yw dewis undod yn hytrach na defosiwn, cyfleustra yn hytrach na chrefydd, a rhyw fath o gyd-ddealltwriaeth allanol rhwng dynion yn lle'r tangnefedd hwnnw y mae Gair Duw yn ei argraffu ar enaid dyn nid yw hyn oll yn arwyddo duwioldeb digonol. Yn olaf, mor ddiffygiol mewn synnwyr yw'r rheini sy'n tybio fod gwahardd cael Gair Duw yn y famiaith yn rhywfaint o gymhelliad i ddysgu iaith estron! Oblegid os na ddysgir crefydd yn iaith y bobl, fe erys yn guddiedig ac yn anhysbys. Pan yw dyn heb wybod rhywbeth, nid oes ganddo wybodaeth ychwaith am y defnyddioldeb, y melystra a'r gwerth a berthyn i'r peth hwnnw, ac ni bydd yn barod i ddygymod i'r llafur lleiaf er mwyn ei ennill. Am hynny rhaid imi erfyn ar Eich Mawrhydi i beidio â chaniatáu fod unrhyw rith rheswm yn eich rhwystro - gwn yn iawn na ddigwydd hynny - rhag ewyllysio cyfoethogi ymhellach â'ch ffafrau y rheini yr ydych eisoes wedi dechrau eu bendithio. Yr ydych eisoes wedi rhoi un Testament iddynt; boed yn wiw gennych roi'r llall iddynt hefyd. Yr ydych yn barod wedi estyn iddynt un o fronnau Gwirionedd; moeswch iddynt y llall. Ymdrechwch i ddwyn i berffeithrwydd yr hyn yr oeddech yn fawr eich sêl dros weld ei gyflawni, sef bod eich pobl oll yn cael clywed rhyfedd weithredoedd Duw yn eu hiaith eu hunain, a bod pob tafod yn gogoneddu Duw. Boed i'r Tad nefol hwnnw y gwelir ei fod, ym mherson Eich Mawrhydi, wedi addurno gwendid y natur ddynol, a'r rhyw fenywaidd, a nodweddion naturiol morwyndod, â'r fath rinweddau arwrol fel eich bod hyd yr awr hon wedi sefyll allan bob amser yn solas i'r rhai mewn trueni, yn ddychryn i'ch gelynion, ac yn Ffenics i'r byd10 boed iddo Ef yn rasol ganiatáu eich bod yn cael eich cyfarwyddo gan yr Ysbryd Nefol, yn cael eich harddu â doniau Duw, ac yn cael eich amddiffyn i'r dyfodol o dan adenydd y Goruchaf. Felly byddwch yn fam hirhoedlog yn Israel, yn famaeth dduwiolfrydig i'r Eglwys, a chan fod bob amser yn ddiogel rhag eich gelynion parhewch yn elyn eich hun i bob drwg : hyn oll er gogoniant tragwyddol i'r Duw Mawr a Goruchaf, i'r Hwn y bo pob gallu, anrhydedd a chlod yn oes oesoedd. Amen.
At Eich Areulaf Fawrhydi,
gyda phob dyledus barch,
Eich Mwyaf Ufudd
WILLIAM MORGAN.
Enwau'r rheini a ymdrechodd yn arbennig i hyrwyddo'r gwaith hwn:11 Y Parchedig Dadau, Esgobion Llanelwy a Bangor:12 rhoesant hwy ar fenthyg imi y llyfrau y gofynnais amdanynt, a gwelsant yn dda archwilio, cloriannu a chymeradwyo'r gwaith hwn.
Gabriel Goodman, Deon Westminster: dyn gwirioneddol dda, mewn gweithred yn ogystal ag mewn enw, a llwyr ymroddedig i bob duwioldeb. Arferwn ailddarllen yr hyn yr oeddwn wedi'i gyfieithu yn ei gwmni ef, ac yr oedd mor barod ei gymorth imi, gan fy helpu'n fawr iawn â'i lafur ac â'i gyngor. Hefyd rhoes imi nifer helaeth o'i lyfrau ei hun, a chaniataodd imi ddefnyddio'r gweddill yn rhydd. Trwy gydol y flwyddyn y bu'r llyfr yn y wasg rhoddodd lety imi, gyda chydsyniad mwyaf caredig aelodau'r Cabidwl:13 cynigiwyd yr un gymwynas imi gan y Parchedicaf Archesgob, y soniais amdano'n gynharach yn y llythyr hwn, ond fe'm gorfodwyd i wrthod ei gynnig ef am fod Afon Tafwys yn rhannu ac yn gwahanu ei dŷ oddi wrth y wasg. Nid dibwys ychwaith oedd yr help a gefais gan:
David Powel, Doethor mewn Diwinyddiaeth,Argraffwyd yn Llundain, gan Christopher Barker (STC 2347). Ailargraffwyd Beibl Morgan (gan gynnwys y cyflwyniad Lladin) yn Nolgellau, gan R. Jones, yn 1821; pur wallus yw'r Lladin yn yr argraffiad hwnnw.
Ar William Morgan, ac yn arbennig ar y cyflwyniad, gw. BC; Charles Ashton, Bywyd ac Amserau yr Esgob Morgan (Treherbert, 1891); William Hughes, Life and Times of Bishop William Morgan (London, 1891), yn arbennig tt. 116-49; W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith o 1540 hyd 1660 (Wrecsam, 1926), tt. 67-79, yn arbennig tt. 70-72; G. J. Roberts, Yr Esgob William Morgan (Dinbych, 1955), yn arbennig tt. 40-42; R. Geraint Gruffydd yn Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith (Llandysul, 1970), tt. 149-74; Isaac Thomas, Y Testament Newydd Cymraeg, 1551-1620 (Caerdydd, 1976), tt. 302-55, yn arbennig tt. 306-10.
Ceir cyfieithiadau o'r cyflwyniad i'r Gymraeg yn Charles Ashton, op. cit., tt. 134-7, ac yn G. J. Roberts, op. cit., tt. 50-55 (gan A. O. Morris), ac i'r Saesneg yn William Hughes, op. cit., tt. 121-28, ac yn A. O. Evans, A Memorandum on the Legality of the Welsh Bible and the Welsh Version of the Book of Common Prayer (Cardiff, 1925), tt. 128-37.