Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae rhai o gasgliadau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru bellach yn fyw ar blatfform ar-lein Google Arts & Culture, gan ddod â diwylliant Cymru i sylw’r byd.
Y Llyfrgell Genedlaethol yw’r sefydliad diwylliannol cenedlaethol cyntaf o Gymru i rannu cynnwys ar wefan Google Arts & Culture ac mae’n ymuno gyda thros 2000 o bartneriaid eraill o bob cwr o’r byd sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod celf a diwylliant ar gael i bawb ble bynnag y bônt.
Trwy rannu delweddau cydraniad uchel mae Google Arts & Culture yn galluogi cynulleidfaoedd i archwilio eitemau drostynt eu hunain gan edrych mewn manylder ar wrthrychau ac i ddysgu amdanynt trwy amrywiaeth o gyfryngau gweledol a chlyweledol. Mae’n bosib edrych ar lawysgrif cerddoriaeth ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ tra’n gwrando ar y recordiad cyntaf o’r anthem er enghraifft, yn ogystal ag edrych ar baentiadau o rai o’n cestyll eiconig ochr yn ochr â delweddau ‘street view’ Google ohonynt.
Mae’r Llyfrgell hefyd wedi ychwanegu straeon sydd wedi eu curadu’n ofalus er mwyn i gynulleidfaoedd allu mwynhau trysorau’r genedl yn eu cyd-destun hanesyddol, o lawysgrifau cynnar i weithiau celf cyfoes. Dyma’r tro cyntaf i Google Arts & Culture gynnwys yr iaith Gymraeg ar ei blatfform digidol.
Er mwyn gweld y cynnwys yn y Gymraeg bydd rhaid i chi newid eich gosodiadau iaith ar Google. Dyma gyfarwyddiadau i’ch helpu i wneud hyn:
1. Menwgofnodwch i’ch cyfrif Google.
2. Cliciwch ar ‘Personal info’.
3. Sgroliwch i’r panel ‘General preferences for the web’.
4. Dewisiwch ‘Language’.
5. Dewisiwch ‘Edit’.
6. Chwiliwch a dewisiwch ‘Cymraeg.’
7. Gwasgwch ‘Select’.