Symud i'r prif gynnwys

Dros y misoedd nesaf, bydd Corneli Clip yn cael eu hagor ledled Cymru er mwyn caniatáu mynediad lleol a rhad ac am ddim i wylio a gwrando ar holl gasgliad clyweled digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Oherwydd cyfyngiadau hawliau, nid yw'n bosibl gwneud y casgliad cyfan yn weladwy ar-lein, fodd bynnag bydd modd chwilio ei gofnodion ar-lein.

Chwilio

Porwch ddetholiad o unrhywle a chwiliwch weddill y casgliad i weld beth sydd i’w weld yn eich Cornel Clip agosaf.

Beth sydd ar gael?

Dysgwch fwy am beth sydd ar gael ar hyn o bryd ar CLIP Cymru?


Lleoliadau Corneli Clip

Mae'r Corneli Clip canlynol wedi agor: 

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (agorwyd 27 Mawrth 2023)
  • Llyfrgell Caerfyrddin, Caerfyrddin (agorwyd 25 Gorffennaf 2023)
  • Llyfrgell Llanrwst, Llanrwst (agorwyd 12 Ionawr 2024)
  • Canolfan Ddiwylliant Conwy, Conwy (agorwyd 12 Ionawr 2024)
  • Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Abertawe (agorwyd 15 Ionawr 2024)
  • Llyfrgell Glowyr De Cymru, Abertawe (agorwyd 15 Ionawr 2024)
  • Archifdy Gwynedd, Caernarfon (agorwyd 15 Gorffennaf 2024)
  • Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd (agorwyd 11 Hydref 2024)
  • Archifau Morgannwg, Caerdydd (agorwyd 11 Hydref 2024)

Bydd Corneli Clip hefyd yn cael eu hagor yn y lleoliadau isod dros y misoedd nesaf yn ystod cyfnod prosiect Archif Ddarlledu Cymru:

  • Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
  • Coleg Cambria Iâl, Wrecsam
  • Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Rhuthun
  • Gwasanaeth Archifau Ynys Môn, Llangefni
  • Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Benfro, Hwlffordd
  • Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful, Merthyr Tudful