Symud i'r prif gynnwys

Fel rhan o’r wefan arloesol hon, bydd casgliad amrywiol o 1,500 o glipiau o’r archif yn cael eu curadu a byddant ar gael i unrhyw un eu gweld arlein gartref. Bydd gweddill y casgliad ar gael drwy gyfres o Gorneli Clip a fydd yn cael eu sefydlu ledled Cymru. Bydd sefydliad y Corneli Clip hyn yn sicrhau bod cymunedau y tu hwnt i Aberystwyth yn gallu gweld yr archif yn eu hardal leol.

Bydd y wefan yn ymdrin â nifer o bynciau amrywiol, drwy gynnig golwg unigryw i ni ar hanes a diwylliant Cymru. O hanes yr Ail Ryfel Byd i drychineb Aberfan, o’r ymgyrch dros Ddatganoli i streic y Glowyr, o lwyddiannau chwaraeon eiconig i adloniant y Noson Lawen, bydd yn cyflwyno cipolwg hanesyddol o Gymru’r 20fed ganrif a thu hwnt.  


Cyntaf o'i fath

Archif Ddarlledu Cymru yw’r cyntaf o’i fath yn y DU, gan olrhain bron i ganrif o ddarlledu, mae’n dwyn ynghyd ddeunydd darlledu o holl gasgliadau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C, yn ogystal â chasgliadau Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trwy gadw, catalogio a digido’r deunydd hwn a’u cyflwyno ar wefan sy’n gwbl chwiliadwy, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo i wneud y casgliad hynod hwn yn hygyrch i bawb.

Gwnaethpwyd prosiect Archif Ddarlledu Cymru yn bosibl gan arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (£4.7M), Llywodraeth Cymru (£1M) a chronfeydd preifat Llyfrgell Genedlaethol Cymru (£1M).