Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cewch restr lawn o'r holl eitemau sydd wedi cael eu cynnwys ar Clip Cymru ar y dudalen ‘Beth sydd ar gael’.
Bydd Clip Cymru yn cael ei ddiweddaru gyda deunydd newydd yn rheolaidd, wrth iddo ddod ar gael.
Cliciwch ar yr eitem yr hoffech gael mynediad ato. Bydd hyn yn mynd â chi at y cofnod llawn. Bydd pwyso'r eicon chwarae yn caniatáu ichi weld neu wrando ar y clip.
Bydd modd i chi weld a gwrando ar gasgliad clyweledol digidol cyfan Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Clip Cymru o fewn y Corneli Clip a leolir ledled Cymru. Os ydych yn ymweld â Clip Cymru arlein y tu allan i'r Corneli Clip, byddwch yn gallu gweld neu wrando ar ddetholiad amrywiol o 1,500 o glipiau a fydd yn cael eu curadu o’n casgliad dros gyfnod prosiect Archif Ddarlledu Cymru, a byddwch yn gallu gweld y cofnodion ar gyfer y casgliad llawn.
I chwarae clipiau a chreu rhestrau chwarae o fewn y Corneli Clip bydd angen i chi gofrestru trwy Rif Tocyn Darllenydd LlGC. Fodd bynnag, ni fydd angen i chi gofrestru i chwilio neu weld y cofnodion am eitemau ar Clip Cymru neu i edrych ar ddetholiad o 1,500 o glipiau a fydd yn cael eu clirio i'w defnyddio arlein yn ystod oes prosiect Archif Ddarlledu Cymru.
Wrth gofrestru byddwch yn creu Rhif Tocyn Darllen ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd hyn nid yn unig yn caniatáu ichi chwarae clipiau a chreu rhestrau chwarae ar Clip Cymru o fewn y Corneli Clip, ond bydd hefyd yn rhoi mynediad i chi at ystod ardderchog o adnoddau arlein Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ceir rhagor o wybodaeth ynglyn â chamau cofrestru ar y dudalen 'Tocynnau Darllen'.
I chwilio am eitem o fewn y casgliad rhowch allweddair sy'n gysylltiedig â'r eitem yr ydych am ddod o hyd iddo yn y Blwch Chwilio ar y dudalen flaen. Ar ôl i chi ‘Chwilio’, byddwch wedyn yn cael eich tywys i’r dudalen ‘Canlyniadau Chwilio’ lle byddwch yn gallu cyfyngu eich chwiliad wrth chwilio o fewn eich canlyniadau.
Cliciwch ar Clip Cymru yn y penawd. Yna byddwch yn cael eich tywys i'r Hafan lle gallwch greu chwiliad newydd.
Fel arall gallwch olygu eich term chwilio ar y dudalen canlyniadau chwilio.
Ar y dudalen ‘Canlyniadau Chwilio’, bydd pob eitem yn dangos y Teitl, Dyddiad, Hyd, a Chrynodeb, os yw ar gael. Bydd clicio ar ganlyniad yn rhoi mynediad i chi at ystod ehangach o wybodaeth sydd ar gael. Bydd y tab ‘Gwybodaeth’ yn cynnwys manylion am y Teitl, Dyddiad a Hawliau. Gallai hefyd gynnwys manylion fel Genre, enw'r Sianel, Iaith, Math o Gynnwys, Crynodeb, Rhestr Saethu, Lleoliad ac a oes unrhyw rybuddion cynnwys. Bydd y tab ‘Mwy o Wybodaeth’ yn darparu gwybodaeth dechnegol, ac unrhyw fanylion am berfformwyr neu grewyr.
Gallwch newid nifer y canlyniadau a ddangosir trwy glicio ar y gwymplen ‘Trefnu’ ar y gornel dde uchaf. Yma gallwch ddewis gweld naill ai 12, 24 neu 48 canlyniad ar y dudalen.
I newid y drefn y dangosir y canlyniadau, cliciwch ar ‘Trefnu’. Gallwch ddidoli eich canlyniadau yn ôl Perthnasedd neu yn ôl Dyddiad, mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol.
Gallwch fireinio eich canlyniadau chwilio drwy ddefnyddio’r opsiynau hidlo ar ochr chwith y sgrin ar y dudalen ‘Canlyniadau Chwilio’, neu drwy ‘Chwilio o fewn canlyniadau’. Bydd clicio ar y pennawd hidlo yn datgelu'r holl opsiynau sydd ar gael i chi fireinio’ch canlyniadau a'ch helpu i ddod o hyd i'ch eitem. Mae’r opsiynau hidlo’n cynnwys: ‘Argaeledd’, ‘Iaith’, ‘Sianeli’, ‘Math o Gyfrwng, ‘Degawd’, ‘Dyddiad darlledu’, a ‘Dyddiad cynhyrchu’. Ar ôl eu dewis, bydd y canlyniadau'n cael eu mireinio. Mae ‘Chwilio o fewn canlyniadau’ yn ffordd syml o fireinio eich canlyniadau chwilio trwy ddefnyddio iaith ac allweddeiriau. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os nad oes gennych lawer o wybodaeth am gofnodion yr eitem.
Oherwydd cyfyngiadau hawliau, nid yw'n bosibl gwneud y casgliad cyfan yn weladwy arlein, fodd bynnag bydd modd chwilio holl gofnodion yr eitemau arlein. Ceir rhagor o wybodaeth am sut i weld y casgliad yn eich ardal leol ar y dudalen 'Beth sydd ar gael'.
Gallwch. Ar y dudalen gartref o dan y bar chwilio, fe welwch gyfres o eitemau sydd wedi'u trefnu'n themâu gwahanol. Mae'r eitemau hyn ar gael y tu mewn a thu allan i leoliadau Corneli Clip.
I weld unrhyw eitem ar sgrin lawn, dewiswch yr eicon sgrin lawn – a ddangosir fel ‘saethau’ – ar gornel dde isaf y chwaraewr fideo. I adael y sgrin lawn, dewiswch yr un eicon neu pwyswch y botwm Esc. ar eich bysellfwrdd.
Oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, ni allwch lawrlwytho cynnwys o'r wefan. Os oes angen copi arnoch, cysylltwch â’r Llyfrgell am ragor o wybodaeth.
Na, ni allwn gyflenwi fframiau o ffilmiau. Ceir gwybodaeth ynghylch gwneud cais am gopïau neu ymholiadau am atgynhyrchu deunydd ar ein tudalen 'Ceisiadau am Gopïau'.
Rhestr chwarae yw rhestr o ffeiliau sain a/neu fideo a ddewisir gan ddefnyddwyr lle gellir eu trefnu'n ôl themâu gwahanol a chael mynediad atynt yn nes ymlaen. Mae'r ffwythiant yma ond ar gael o fewn y Corneli Clip ar hyn o bryd. Ni fydd modd i chi gael mynediad at eich rhestrau chwarae o thu allan i'r Corneli Clip.
I greu rhestr chwarae bydd angen i chi ymweld â Chornel Clip. Yn gyntaf, dewiswch y botwm ‘Mewngofnodi/Cofrestru’ yn y pennyn a nodi manylion eich Tocyn Darllen LlGC.
O’r fan honno, fe welwch fotwm wedi’i labelu ‘Fy Rhestrau Chwarae’ ar y gornel dde uchaf. Cliciwch y botwm hwnnw i gychwyn y broses o greu rhestr chwarae.
I greu Rhestr Chwarae newydd dewiswch y botwm ‘Ychwanegu Rhestr Chwarae’ ar yr ochr chwith. Bydd hyn yn agor naidlen newydd lle gallwch chi nodi teitl a disgrifiad i’ch rhestr chwarae a chlicio ar ‘Cadw’. Gallwch chi bob amser olygu hwn yn ddiweddarach os byddwch chi'n newid eich meddwl.
Cliciwch ar y tab ‘Nôl i’r canlyniadau chwilio’ a dewiswch yr eitem rydych chi am ei chynnwys yn eich rhestr chwarae trwy glicio ar yr eicon seren ar ochr dde uchaf yr eitem. Bydd naidlen yn agor ac os oes gennych fwy nag un rhestr chwarae gallwch ddefnyddio'r gwymplen i ddewis pa restr chwarae rydych am i'ch eitem gael ei chadw iddi. Dewiswch y rhestr chwarae o'ch dewis o'r gwymplen a chliciwch ar 'Cadw'. Dylai eich eitem nawr gael ei chadw yn y rhestr chwarae o'ch dewis.
Nawr eich bod wedi creu eich rhestr chwarae, efallai y byddwch am ei golygu o bryd i'w gilydd. Yn gyntaf, llywiwch yn ôl i'r tab 'Fy Rhestrau Chwarae'. Yna cliciwch ar yr eicon pensil i olygu'r teitl a disgrifiad o'ch rhestr chwarae.
Os ydych chi am ddileu fideo o'ch rhestr chwarae, dad-ddewiswch yr eicon seren ar yr eitem. Bydd yr eicon yn troi'n goch a bydd yn cael ei dynnu oddi ar eich rhestr chwarae.
Fel arall, i ddileu rhestr chwarae gallwch ddewis yr eicon bin sbwriel.
Ceir rhagor o wybodaeth am hawlfraint, trwyddedu a sut i gysylltu â ni ar ein tudalen 'Hawlfraint'.