Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Fel rhan o’i strategaeth ymgysylltu â’r gymuned ar gyfer Archif Ddarlledu Cymru, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi comisiynu sefydliadau ac artistiaid o bob cwr o Gymru i greu gweithiau newydd wedi’u hysbrydoli gan yr archif. O draethodau i gelf ddigidol, mae’r comisiynau hyn yn tynnu sylw at y posibiliadau creadigol sydd i’w cael wrth ymgysylltu â threftadaeth sain a gweledol gyfoethog yr archif.
Inclusive Journalism Cymru: Deall Ein Gorffennol i Adnabod Ein Presennol
Mewn cydweithrediad ag Archif Ddarlledu Cymru, comisiynodd Inclusive Journalism Cymru dri o’i haelodau i archwilio’r archif a chreu gwaith gwreiddiol yn ymateb i’w darganfyddiadau. Gwnaeth Deall Ein Gorffennol i Adnabod Ein Presennol wahodd newyddiadurwyr o ogledd, canolbarth a de Cymru i ymgysylltu â darllediadau hanesyddol, gan eu defnyddio fel lens i fyfyrio ar fywyd cyfoes yng Nghymru.
Mae Inclusive Journalism Cymru yn rhwydwaith cydweithredol a chyfranogol sy’n agored i unrhyw un yng Nghymru sy’n teimlo bod eu llais neu eu cymuned wedi’u tan-gynrychioli’n systematig yn y diwydiant newyddiaduraeth. Drwy ddarparu gofodau ar gyfer cysylltu, cefnogi a dysgu, mae’n galluogi newyddiadurwyr ar yr ymylon i rannu profiadau, meithrin rhwydweithiau, a chyfrannu at dirwedd gyfryngol fwy cynhwysol a chynrychioliadol.
Celfyddydau Anabledd Cymru: Comisiwn Clip Creadigol
Mewn partneriaeth â’r Archif Ddarlledu Cymru, gwahoddodd Celfyddydau Anabledd Cymru artistiaid i archwilio’r archif a chreu gweithiau digidol newydd wedi’u hysbrydoli gan eu darganfyddiadau. Roedd y Comisiwn Clip Creadigol yn cefnogi artistiaid Anabl a Byddar i arbrofi gyda deunydd archifol, gan greu cysylltiadau rhwng hanes darlledu Cymru a’u profiadau personol, eu cymunedau a’u dulliau creadigol.
Mae gweledigaeth Celfyddydau Anabledd Cymru yn un o Gymru greadigol a chydradd lle mae pobl Anabl a Byddar yn rhan hanfodol o gelfyddydau’r genedl. Maen nhw’n cynhyrchu celf sy’n rhannu profiadau byw o anabledd, yn datblygu talent greadigol pobl Anabl a Byddar, ac yn darparu hyfforddiant ar fynediad ac ar gynhwysiant. Maen nhw’n credu y dylai celfyddydau anabledd gael cydnabyddiaeth gyfartal o fewn y celfyddydau, ac y dylai artistiaid Anabl gael mynediad at gyfleoedd heb rwystrau.