Symud i'r prif gynnwys

Mae Soma Ghosh yn awdur, perfformiwr a phodledydd sy’n gweithio ym meysydd ffuglen, ffeithiol, ac ym maes newyddiaduraeth celfyddydol a diwylliannol. 

Mewn ymateb i arwr darlledu Cymru Vincent Kane yn cyfweld â phobl Caerfyrddin yn 1960 am Dderwen Myrddin, mae hi wedi creu podlediad am goed hudolus yng Nghymru a Bengal. 

Mae "The Tree Men of Wales and Bengal" yn cysylltu Myrddin a’i dderwen chwedlonol yng Nghaerfyrddin, Cymru, â Ramakrishna, sant o Kolkata yn y 19eg ganrif, y credir fod ei goeden Kalpataru a gyflawnai dymuniadau wedi rhoi goleuedigaeth i’w ddilynwyr mewn cyfnod o helynt dan Imperialaeth Prydain.

Mae’r podlediad hwn yn ail-ddychmygu effaith natur ar hunaniaeth, diwylliant, a pherthyn.