Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Cockles & Meadows yn waith digidol gan yr artist sain amgylcheddol Cheryl Beer, wedi’i greu drwy gomisiwn gyda’r Archif Ddarlledu Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Gwahoddodd y comisiwn artistiaid i archwilio’r archif ddarlledu am ysbrydoliaeth ac i greu gwaith digidol newydd mewn ymateb.
Mae gwaith Cheryl yn archwiliad cymharol o’r gorffennol a’r dyfodol — yn plethu atgofion casglwyr cregyn ar draeth Llanelli gyda gweledigaeth flaengar Project Seagrass, sy’n adfer storfa garbon a chynefin i fôr-gregyn drwy ddolydd arbrofol.
Dechreuodd Cheryl drwy ymchwilio i’r Archif Ddarlledu Cymru, cyn ymweld â thraeth Llanelli i recordio sain y llanw, gan lunio tirlun sain lle mae’r môr ei hun yn adrodd y stori. Yna, nododd hi alaw gerddorol o batrymau plannu dolydd morwellt, wedi’u darganfod yn archif Project Seagrass. Wrth ei chwarae ar y piano, mae’r alaw’n caniatáu i’r morwellt “siarad” ochr yn ochr â thîm y prosiect.
Mae’r ffilm yn cyfuno recordiadau arfordirol Cheryl gyda ffilm awyr ddramatig gan Jarro Media, gan greu cefndir trawiadol i leisiau dynol sydd wrth galon y gwaith.
Er mwyn gwreiddio’r gwaith mewn profiad byw, cyfarfu Cheryl â thrigolion hŷn Cartref Gofal Cilymaenllwyd i gasglu eu hatgofion am gasglu cregyn pan oedden nhw’n blant, yn ogystal â siarad â’u teuluoedd a’r gymuned ehangach. I edrych tua’r dyfodol, ymunodd hi â gwirfoddolwyr Project Seagrass yn y maes, gan ddogfennu eu gwaith monitro a phlannu.
Wedi’i olygu’n un, mae’r lleisiau, synau a delweddau hyn yn ffurfio Cockles & Meadows — myfyrdod haenog ar eco-gynaliadwyedd, yn talu teyrnged i’r gorffennol tra’n dychmygu dyfodol ein harfordir.