Symud i'r prif gynnwys

Beth sydd ar gael ar Clip Cymru?

Fe’i datblygwyd fel rhan o brosiect Archif Ddarlledu Cymru fel adnodd di-dâl arlein sy’n darparu mynediad di-ail i gasgliadau clyweledol unigryw a hanesyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ddathliad o’n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, bydd y prosiect yn darparu mynediad cyhoeddus mewn Corneli Clip ar draws Cymru i dros 400,000 eitem o ddeunydd radio a theledu o Gymru sy’n dyddio nôl i’r 1930au, yn ogystal â channoedd o ffilmiau o’r Archif Sgrin a Sain, sy’n dyddio’n ôl i 1898.

Gan ddwyn ynghyd ddeunydd darlledu helaeth o gasgliadau BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C, mae’r Archif Ddarlledu yn cofnodi yn agos i ganrif o fywyd Cymreig mewn amrywiaeth digymar, gan gynnig mewnwelediad unigryw i hanesion a diwyllianau Cymru. Trwy gadw, catalogio, a digido’r deunydd hwn, a’u cyflwyno ar wefan sy’n gwbl chwiliadwy, bydd y casgliad hynod hwn yn hygyrch i bawb.

O hanes yr Ail Ryfel Byd i drychineb Aberfan; o’r ymgyrch dros Ddatganoli i streic y Glowyr; o lwyddiannau chwaraeon eiconig i adloniant y Noson Lawen, mae Clip Cymru yn cyflwyno cipolwg hanesyddol o Gymru’r 20fed ganrif a thu hwnt.


Ble gallaf gael mynediad i'r Archif Ddarlledu?

Arlein i bawb

Fel rhan o wefan arloesol Clip Cymru, bydd casgliad amrywiol o 1,500 o glipiau o’r Archif Ddarlledu yn cael eu curadu a’u rhannu i’w gwylio arlein. Byddant hefyd ar gael i’w gwylio ar gyfrif YouTube yr Archif Ddarlledu. Oherwydd cyfyngiadau hawliau, nid yw’n bosib gwylio neu wrando ar gasgliad llawn Clip Cymru o adref, fodd bynnag, bydd y catalog llawn yn chwiliadwy arlein.

Archif Ddarlledu Cymru

Lleolir Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a bydd Canolfan Clip hefyd yn cael ei ddatblygu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Yn ogystal â darparu mynediad di-dâl i holl gasgliad yr Archif Ddarlledu a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd deunydd o’r Archif hefyd ar gael trwy ddigwyddiadau, arddangosfeydd a chyflwyniadau yn y lleoliadau hyn.

Corneli Clip

Dros gyfnod y prosiect, bydd Corneli Clip hefyd yn cael eu sefydlu ledled Cymru er mwyn caniatáu mynediad lleol, di-dâl i'r holl gasgliad clyweledol digidol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd ffurfio’r Corneli Clip hyn yn sicrhau y bydd cymunedau y tu hwnt i Aberystwyth yn gallu mwynhau buddion yr archif yn eu hardal leol. Dewch o hyd i'ch Cornel Clip agosaf nawr.