Symud i'r prif gynnwys

Sut i gael Tocyn Darllen

  • Gall unrhyw un dros 16 oed wneud cais am docyn darllen. Mae tocynnau darllen yn ddilys am 3 mlynedd, ac yn galluogi darllenwyr i gael mynediad i'n holl gasgliadau.

  • I gael tocyn darllen llawn rhaid dangos dau brawf adnabod, gydag un ohonynt yn dangos eich cyfeiriad cyfredol.

  • Mae ymwelwyr o dan 16 oed yn gallu gwneud cais i ymweld â rhai ardaloedd o'n Hystafell Ddarllen o dan amodau penodol.

Cofrestru Arlein

  • Gallwch gofrestru arlein cyn eich ymweliad fel cam cyntaf i ddod yn ddarllenydd. Bydd hyn yn hwyluso'r broses pan fyddwch yn ymweld â ni yn bersonol.

  • Byddwch yn derbyn eich manylion cofrestru yn syth, a gallwch eu defnyddio i archebu deunydd o'n Catalog cyn eich ymweliad.

  • Mae aelodaeth arlein hefyd yn gallu caniatau mynediad i Danysgrifiadau'r Llyfrgell. Am fwy o wybodaeth gweler y dudalen Beth gallaf ei weld?

Adnewyddu eich Tocyn Darllen

  • Gallwch adnewyddu eich tocyn darllen a chadw'r rhif tocyn presennol drwy ymweld â'r Llyfrgell. 

  • Bydd staff y Dderbynfa yn uwchraddio'ch manylion, tynnu eich llun, ac yn argraffu tocyn newydd i chi. Bydd angen i chi ddod â'ch hen docyn gyda chi, a phrawf o'ch cyfeiriad cyfredol, os yw hwn wedi newid ers i chi gael eich tocyn blaenorol. 
  • Ar hyn o bryd, bydd rhaid i chi ymaelodi o'r newydd ar ddiwedd cyfnod eich aelodaeth arlein gan dderbyn rhif aelodaeth newydd.


Gwarchod data


Dolenni perthnasol