Symud i'r prif gynnwys

Eu pwrpas oedd darparu morwyr gyda gwybodaeth glir, gywir a chyfoes e.e. morliniau, dyfnderau a lleoliadau creigiau tanddwr, er mwyn helpu cynllunio, plotio a mordwyo cwrs diogel ar y môr.

Dyluniwyd Siartiau Morwrol i fod yn ddogfennau gweithio felly byddai'r rhai a oedd yn eu defnyddio yn eu cywiro yn aml ac yn ysgrifennu arnynt. Caent eu hepgor pan fyddent wedi dyddio neu eu difrodi. O ganlyniad, maent yn llawer llai tebyg o fod wedi goroesi na mapiau cyffredin.

 

Plans of harbours, bars, bays and roads in St. George's Channel, 1748 gan Lewis Morris

Siartiau morwrol Lewis a William Morris

Roedd Lewis Morris (1701-1765) yn heidrograffydd hunan-ddysgiedig o Sir Fôn. Ni dderbyniodd ei waith mewn arolygu morol lawer o sylw tan yn ddiweddar. Roedd ei arolwg o arfordir Cymru, a wnaed bron yn llwyr heb ddim cefnogaeth swyddogol, yn gamp arloesol wych.

Diwygiodd ac ehangodd William Morris (1758-1808), mab Lewis Morris, waith ei dad, gan greu platiau newydd. Roedd y siart cyffredinol yn awr yn dangos morlin Cymru gyfan tra bod y gyfrol yn cynnwys rhai cynlluniau porthladd ychwanegol. Mae’r ychwanegiadau yn aml yn dangos porthladdoedd a oedd wedi cynyddu mewn pwysigrwydd yn ystod y blynyddoedd cyfamserol, megis Lerpwl, Amlwch, Aberaeron, Cei Newydd, Caerfyrddin, Tywyn ac Abertawe.

Plans of harbours, bars, bays and roads in St. George’s Channel, Lewis Morris Cyfeirnod: Ab 1043

Plans of harbours, bars, bays and roads in St. George’s Channel, Lewis Morris 

"Plans of harbours, bars, bays and roads in St. George's Channel lately survey'd under the direction of the Lords of the Admiralty, and now publish'd by their permission, with an appendix concerning the improvements that might be made in the several harbours, &c. for the better securing the navigation in those parts together with a short account of the trade and manufactures on that coast, by Lewis Morris Monensis"

Cynlluniau o 24 porthladd Cymreig, yn cynnwys Conwy, Biwmares, Traeth Coch, Bae Dulas, Bae Cemlyn, Bae Caergybi, Bae Malltraeth, Bae Caernarfon, Porthdinllaen, Swnt Enlli, Ffordd Aberdaron, Ffordd Sant Tudwal, Pwllheli, Bae Abermaw, Aberdyfi, Aberystwyth, Aberteifi, Trefdraeth (Sir Benfro), Abergwaun, Swnt Dewi, Solfach, Bae Sain Ffraid, Aberdaugleddau a Dinbych y Pysgod. Yn cynnwys beisforoedd a gwybodaeth am gerrynt, angorfeydd, banciau sychu, creigiau a pheryglon mordwyo eraill a chymhorthion.

Plans of the principal harbours, bays, and roads in St. George’s and the Bristol Channels, William Morris Cyfeirnod: Ab 1037

Plans of the principal harbours, bays, and roads in St. George’s and the Bristol Channels, William Morris

Cyfeirnod: AB 1037

“Plans of the principal harbours, bays, & roads in St. George's and the Bristol Channels from surveys made under the direction of the Lords of the Admiralty, by the late intelligent and ingenious hydrographer Lewis Morris Esq ... with additional observations from surveys lately made by William Morris.”

Cynlluniau o 32 harbwr (Cymreig yn bennaf), gan gynnwys Lerpwl, Caer, Traeth Coch, Bae Dulas, Amlwch, Bae Cemlyn, Conwy, Biwmares, Bae Caergybi, Bae Malltraeth, Bae Caernarfon, Porthdinllaen, Swnt Enlli, Ffordd Aberdaron, Ffordd Sant Tudwal, Pwllheli, Bae Abermaw, Aberdyfi, Aberystwyth, Aberaeron, Ceinewydd, Aberteifi, Trefdraeth (Sir Benfro), Abergwaun, Swnt Dewi, Solfach, Bae Sain Ffraid, Aberdaugleddau, Dinbych y Pysgod, Caerfyrddin, Porth Tywyn, Abertawe a Dulyn. Yn cynnwys beisforoedd a gwybodaeth am gerrynt, angorfeydd, banciau sychu, creigiau a pheryglon mordwyo eraill a chymhorthion.

Pwy oedd Lewis Morris?

Roedd Lewis Morris yn perthyn i deulu enwog Morrisiaid Môn a gofir am eu gweithgarwch diwylliannol gan gynnwys sefydlu Cymdeithas y Cymmrodorion. Roedd Lewis Morris ei hun yn ŵr galluog ac amryddawn: yn hynafiaethydd, llenor, ieithydd, mwynolegydd, swyddog tollau, tirfesurydd a heidrograffydd.

Hyd yn ddiweddar ychydig iawn o sylw a dalwyd i'w waith fel syrfëwr tir a môr. Roedd ei arolwg o arfordir Cymru, a wnaed bron yn llwyr heb ddim cefnogaeth swyddogol, yn waith arloesol i heidrograffydd hunan-ddysgedig fel Morris. Erbyn heddiw caiff ei gydnabod fel un o gartograffwyr pwysicaf Prydain am yr arolwg morwrol hwn. Dim ond yn yr hanner can mlynedd ddiwethaf y daeth yr arolwg i amlygrwydd oherwydd gwaith Dr A H W Robinson ac Olwen Caradoc Evans, a'r ffacsimili o Plans of harbours ... (1748), sy'n cynnwys rhan o'i waith hydrograffig, a gyhoeddwyd yn 1987.

Magwyd Lewis Morris ar fferm yn agos i Fae Dulas, Môn. Er na chafodd ond ychydig addysg ffurfiol yr oedd yn awyddus iawn i addysgu ei hun. Wrth fyw yn agos i'r glannau buasai wedi gweld y llongau yn teithio yn ôl a blaen i Lerpwl ar fusnes a thystio i'r llongddrylliadau niferus ar hyd glannau peryglus y gogledd, neu glywed sôn amdanynt.

Oherwydd ei allu mathemategol fe gafodd swydd yn 1724 fel syrfëwr ystad i Owen Meyrick, Bodorgan, ac am bum mlynedd bu'n gyfrifol am fapio tiroedd Meyrick ar yr ynys. Mae ei lyfr maes, sy'n cynnwys brasluniau o ffermydd a thyddynnod stad Bodorgan wedi'u cadw yn Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor. Mae'r gwaith gorffenedig mewn dwy gyfrol ffolio ym Modorgan Roedd llawer o diroedd Meyrick yn arfordirol ac mae'n debyg mai wrth weithio ar y mapiau hyn y daeth i'w feddwl i wneud arolwg o'r arfordiroedd.

Yn 1729 fe'i hapwyntiwyd yn swyddog tollau yng Nghaergybi a Biwmares ac yno clywai gwynion y morwyr am safon isel y mapiau morwrol oedd yn bodoli. Bryd hynny defnyddid siartiau Greenvile Collins, Great Britain's coasting pilot, a gyhoeddwyd yn 1693 ac a oedd, fel y gwyddai pawb, yn llawn o gamgymeriadau.

Cyhoeddi map arfordirol Cymru gan Lewis Morris

 Yn 1748, pan oedd yr economi ar i fyny a'r Morlys yn ei annog, fe gyhoeddwyd ei fap morwrol o Gymru a'i gynlluniau o borthladdoedd unigol. Fe'u cyhoeddwyd yn breifat fis Medi'r flwyddyn honno. Roedd y siart mawr yn dangos yr arfordir o Landudno hyd at Aberdaugleddau. Ar gyfer ei ddefnydd ei hun y paratôdd Morris y cynlluniau o'r porthladdoedd unigol i ddangos y cildraethau a'r llochesau yr oedd yntau wedi'u defnyddio ar adeg tywydd mawr. Roedd y gyfrol fechan o bum cynllun ar hugain yn llwyddiant mawr a gwerthwyd hi i 1230 o danysgrifwyr ac eraill. Roedd ei holl fapiau morwrol yn llawer gwell na'u rhagflaenwyr gan gynnwys toreth o wybodaeth ar raddfa fawr am lifoedd, angorfeydd a pheryglon. Ymddangosodd y mapiau morwrol hyn ryw bymtheng mlynedd a thrigain cyn i'r Morlys gynhyrchu ei arolygon ei hun.

‘Holy Head Bay’ o 'Plans of the principal harbours, bays, & roads in St. George's and the Bristol Channels', 1801 gan William a Lewis Morris

Ehangu map arfordirol Cymru

Diwygiwyd ac ehangwyd siart mawr Lewis Morris gan ei fab William yn 1800, a digwyddodd yr un peth i'r gyfrol yn 1801. Er bod y platiau yn rhai newydd, roedd y cynnwys yn deillio o waith ei dad. Mae'r map cyffredinol erbyn hyn yn dangos holl arfordir ein gwlad ac yn y gyfrol ceir cynlluniau rhai porthladdoedd ychwanegol. Ymhlith yr ychwanegiadau ceir porthladdoedd a oedd wedi tyfu yn eu pwysigrwydd ers i Lewis Morris wneud ei arolwg yntau, llefydd fel Lerpwl, Amlwch, Aberaeron, Cei Newydd, Caerfyrddin, Porth Tywyn ac Abertawe.