Symud i'r prif gynnwys

Mae'n debyg bod hanes mapio ffiniau swyddogol ym Mhrydain Fawr yn dyddio'n ôl ganrifoedd, fodd bynnag, mae rhai o'r mapiau swyddogol cynharaf a wnaed dim ond er mwyn arddangos gwybodaeth ffiniau yn dyddio'n ôl i ddiwygiadau gwleidyddol a gweinyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Yn y dyddiau cynnar ymgymerwyd â’r gwaith o ddylunio ffiniau at ddibenion penodol gan Gomisiynau Brenhinol a sefydlwyd yn arbennig ar sail ad hoc. Fodd bynnag, wrth i'r angen am adolygu ffiniau’n rheolaidd gael ei gydnabod, sefydlwyd Comisiynau Ffiniau sefydlog i gynnal rhaglen dreigl o ddiwygio.

Mae'r mapiau yr ydym wedi'u digido hyd yn hyn yn dyddio o gyfnod cynnar diwygio ffiniau. Rydym yn gobeithio ychwanegu mwy o setiau yn y dyfodol.

Mapiau ffiniau 1832 Robert Dawson

Newid daearyddiaeth etholiadol Prydain

Am flynyddoedd lawer cyn 1832 bu galwadau am ddiwygio cynrychiolaeth Seneddol ym Mhrydain. Ym 1831 daeth yr Arglwydd Grey yn Brif Weinidog a chyflwynodd fesur diwygio, a basiwyd o'r diwedd ar y trydydd ymgais gan ddod yn Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1832. Newidiodd hyn ddaearyddiaeth etholiadol y sir yn llwyr gan gynyddu nifer yr etholwyr yn fawr. Newidiwyd neu diflannodd llawer o hen Fwrdeistrefi a chrëwyd bwrdeistrefi newydd.
 
Roedd angen trefnu’r holl newidiadau hyn fel bod union faint y Bwrdeistrefi yn hysbys. Er mwyn gwneud hyn, pasiwyd deddf arall, sef Deddf Ffiniau Seneddol 1832. Sefydlodd hyn ffiniau holl fwrdeistrefi Cymru a Lloegr. Sefydlwyd y ffiniau hyn gan Gomisiwn Ffiniau, a sefydlwyd ar gyfer y diben hwnnw, dan arweiniad Thomas Drummond (1797-1840) o'r Arolwg Ordnans.
 
Penodwyd Robert Kearsley Dawson (1798-1861), hefyd o'r Arolwg Ordnans, i gynhyrchu mapiau cywir yn dangos y newidiadau cyfredol ac arfaethedig i'r ffiniau seneddol. Cyhoeddwyd y mapiau hyn yn wreiddiol yn Reports from Commissioners on proposed divisions of Counties and boundaries of boroughs, yn 1832, ond cawsant eu hailgyhoeddi gyda'i gilydd fel Plans of the Cities and Boroughs of England and Wales yn yr un flwyddyn.
 
Ym 1836 penodwyd Dawson yn Gomisiynydd Cynorthwyol Comisiwn Cymudo'r Degwm, gan drefnu a goruchwylio'r arolygon y cofnodwyd cymudiad parhaol y degwm yng Nghymru a Lloegr arnynt.
 
Roedd y mapiau a gynhyrchodd yn seiliedig ar wybodaeth yr Arolwg Ordnans, ond, er bod mapiau'r sir wedi'u gwneud ar raddfeydd llai o'r map un fodfedd a gyhoeddwyd, cynhyrchwyd mapiau'r bwrdeistrefi unigol ar raddfa fwy o ddwy fodfedd i bob milltir, weithiau gyda mewnosodiadau ar raddfa fwy, o chwe modfedd i bob milltir. Mae hyn yn  golygu mai’r mapiau hyn yw rhai o'r mapiau Arolwg Ordnans mwyaf manwl hyd hynny, ac o ran rhai trefi, y cynllun tref manwl cyntaf sydd ar gael.

Mapiau ffiniau 1837 Robert Dawson

Effaith y Ddeddf Corfforaethau Trefol 1835

Ym 1833, yn dilyn diwygiadau Seneddol 1832, sefydlodd y llywodraeth Chwigaidd, dan arweinyddiaeth yr Arglwydd Grey, Gomisiwn Brenhinol i archwilio llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr. 
 
Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn ym 1835, a ganfu bod llywodraethiant Corfforaethau Bwrdeistrefol yn annemocrataidd a bod llawer o’r Bwrdeistrefi ddim mewn gwirionedd yn cwmpasu maint modern y trefi yr oeddent yn eu cynrychioli.
 
Y canlyniad oedd Deddf Corfforaethau Trefol 1835, a greodd reolau newydd ar gyfer rhedeg Bwrdeistrefi, a hefyd addasu ffiniau llawer o'r Bwrdeistrefi i gyd-fynd â'r Ffiniau Seneddol a sefydlwyd ym 1832.
 
Gofynnwyd i Robert Dawson greu set o fapiau yn dangos y ffiniau newydd hyn. Cyhoeddwyd y rhain yn 1837 yn Report of the commissioners appointed to report and advise upon the boundaries and wards of certain boroughs and corporate towns, (England and Wales).
 
Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys map o'r Fwrdeistref ar raddfa o bedair modfedd i bob milltir, mae gan rai mapiau hefyd fap llai ar raddfa o un fodfedd i bob milltir, sy'n dangos ardal ehangach pan oedd y ffin ddinesig i fod yn llawer llai nag o’r blaen. Unwaith eto, roedd y cynlluniau'n seiliedig ar wybodaeth yr Arolwg Ordnans, sydd bellach wedi'i chwyddo i’r diben hwn.

Mapiau ffiniau 1868 Henry James

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1867

Ar ôl y diwygiadau cymedrol i Ddeddf 1832  cynyddodd y galwadau am ddiwygio etholiadol pellach dros y degawdau canlynol. Erbyn y 1860au anogodd bygythiad aflonyddwch sifil torfol Benjamin Disraeli i gyflwyno ail fesur diwygio, a basiwyd, ac a ddaeth yn Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1867. 
 
Roedd y ddeddf hon yn ymestyn y fasnachfraint ymhellach gan gael gwared ar rai Bwrdeistrefi a chreu rhai newydd, a golygodd bod angen cynhyrchu set newydd o fapiau. Sefydlodd Deddf Ffiniau 1868 Gomisiwn Ffiniau i sefydlu ffiniau’r Bwrdeistrefi newydd a'r rhai a newidiwyd, ac ar gyfer y Comisiwn hwn y crëwyd y mapiau newydd.  
 
Y tro hwn gwnaed y mapiau dan oruchwiliaeth y Cyrnol Henry James (1803–1877) a oedd yn Gyfarwyddwr yr Arolwg Ordnans ar y pryd. Cyhoeddwyd y mapiau hyn yn Report of the Boundary Commissioners for England and Wales, 1868.
 
Er bod mwyafrif y mapiau ar raddfa o un fodfedd i bob milltir, mae yna hefyd nifer ar raddfa o ddwy fodfedd i bob milltir, a hyd yn oed rhai ar raddfa o bedair modfedd i bob milltir.