Symud i'r prif gynnwys

Roedd y mapiau, a oedd yn y bôn, yn gofnodion preifat o berchnogaeth neu feddiannaeth a oedd hefyd yn cynorthwyo i reolaeth ystadau, ac yn fuddiol hefyd fel tystiolaeth gyfreithiol neu brofeb. Roedd newidiadau amaethyddol hefyd yn cynyddu'r galw cyson am fapiau ystad.

Beth yw mapiau ystâd?

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad mawr a phwysig o fapiau llawysgrif ystadau yn perthyn i Gymru, yn amrywio mewn dyddiad o’r 16eg ganrif i’r 20fed ganrif. Dim ond ychydig o ystadau mawr yng Nghymru a arolygwyd cyn 1760, cynhaliwyd y mwyafrif o'r arolygon rhwng 1760 a 1800. Defnyddir y term “Mapiau Ystadau” ar gyfer amrywiaeth eang o gynlluniau, e.e. mapiau yn dangos eiddo sengl a rhai yn darlunio tiroedd cyfan ystâd fawr. Maent yn amrywio'n fawr o fod yn weithiau cymhleth a manwl wedi eu lliwio'n hyfryd i ddarluniau gwaith amrwd. Dogfennau ffwythiannol i ddangos eiddo'r perchennog yn unig heb unrhyw fanylion diangen oedd y mapiau yma. Gan amlaf, fe gomisiynwyd y mapiau hyn gan dirfeddianwyr ac fe’u crëwyd ar gyfer defnydd preifat gan dirfesurwyr masnachol.

Yr enghraifft gynharaf yw'r arolwg o faenorau Crughywel a Thretŵr (1587). O tua canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth mapiau yn symlach ac fe'u seilwyd yn fwyfwy ar fapiau ar raddfa fawr sydd ar gael yn hawdd ar ffurf mapiau degwm a mapiau Arolwg Ordnans, gan gael gwared ar yr angen am arolygon costus preifat. Roedd mapiau ystad yn aml yn rhan o gasgliad mwy o ddogfennau, ac fe geir nifer ohonynt yn y Llyfrgell.

Mae mapiau ystadau yn aml yn cynnwys gwybodaeth dopograffig ar nodweddion a anwybyddwyd neu na chawsant eu cynnwys gan grewyr mapiau diweddarach. Weithiau ceir llyfr cyfeirio hefyd, neu yn fwy arfeol grynodeb cryno ar y map ei hun, yn rhoi manylion am erwau a defnydd tir ac yn enwi tenantiaid a chaeau.

Detholiad digidol o’n Mapiau Ystadau

 

Ystâd Badminton (Arolwg o Faenorau Crucywel a Thrê-twr, 1587, un o’r arolygon cynharaf o ystâd gyfan)

Cyfeirnod: Badminton Volume 3

Mae Cyfrol 3 o gasgliad Badminton yn un o’n cyfrolau mapiau ystâd mwyaf pwysig. Wedi ei gynhyrchu yn 1587, mae’n cynnwys arolwg o Faenorau Crucywel a Thrê-twr. Mae’n un o’r arolygon cynharaf a gynhyrchwyd ym Mhrydain o ystâd gyfan, a gynhaliwyd ar raddfa sengl gan ddefnyddio arddull a dull sengl. Mae hefyd yn ddiddorol gan fod nifer o gopïau hwyrach ohono wedi eu cynhyrchu mewn llawysgrif yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif.

Dolenni perthnasol

Ystâd Gogerddan (Cipolwg ar ddatblygiad a dirywiad ystâd diriog yng Ngogledd Ceredigion)

Cyfeirnod: Mapiau cyn y 19eg ganrif a Chyfrolau 36-40 & 113

Daeth casgliad Gogerddan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1949 ac mae’n cynnig cipolwg diddorol iawn i ddatblygiad ystâd diriog yng Nghymru a'i dirywiad maes o law. Lleolwyd rhan fwyaf o dir yr ystâd yng Ngogledd Ceredigion, ond lleolwyd tiroedd ger Machynlleth ac ymhellach i ffwrdd yn ogystal.

Roedd canolfan y brif ystâd yn agos iawn i Aberystwyth, ger pentref Penrhyn-coch. Mae plasty ac adeiladau eraill yr ystâd yn awr yn gartref i Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig sy’n rhan o Brifysgol Aberystwyth.

Yn ychwanegol i fapiau unigol, cyn y 19eg ganrif, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd wedi digido nifer o gyfrolau sy’n cynnwys arolygon cyflawn o rannau o’r ystâd.

Mapiau cyn y 19eg ganrif, Ystâd Gogerddan

Mwy o fapiau Ystâd Gogerddan

Ystâd Crosswood (12 map yn dangos tiriogaeth Ystâd Crosswood)

Roedd y mapiau hyn yn wreiddiol yn rhan o gofnodion Ystâd Crosswood (Trawscoed) a oedd yn eiddo i deulu Vaughan, Ieirll Lisburne yn ddiweddarach. Mae'r rhan fwyaf o'r mapiau yn dangos tiroedd yng Ngheredigion, gan gynnwys demên Crosswood ei hun. Ym 1947, trosglwyddwyd y plasty ynghyd â'r parc o'i amgylch, i Wasanaeth Ymgynghorol Amaethyddol Cymru. Adneuwyd y Cofnodion Ystâd gan Iarll Lisburne rhwng 1923 a 1964.