Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fydd mynediad at ein gwefannau am gyfnodau heno (9 Gorffennaf 2025) oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Mae gan y Llyfrgell gasgliad mawr o fapiau yn ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys mapiau sy'n dangos y sefyllfa wleidyddol ar y noson cyn y Rhyfel, mapiau milwrol a sifil yn dangos y newidiadau ar flaen y gad yn ystod y Rhyfel, a mapiau sy'n dangos newidiadau i'r ffiniau cenedlaethol oherwydd y Rhyfel.
Tybir yn gyffredinol mai mapiau ffosydd a gynhyrchwyd yn eu miliynau i ddangos llif a thrai y llinell flaen ar Ffrynt y Gorllewin yw mapiau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ond mae'r casgliad yma’n dangos mai dim ond rhan o'r stori yw hyn. Defnyddiwyd mapiau i hysbysu'r cyhoedd yn aml mewn papurau newydd a chylchgronau; roedd mapiau propaganda i helpu hybu morâl neu berswadio gwledydd niwtral i ymuno ag un ochr neu'r llall; roedd hyd yn oed gemau yn seiliedig ar fapiau ar gyfer y milwyr yn y ffosydd.
Roedd Llywodraeth Prydain a’r Fyddin yn cynhyrchu mapiau hyd yn oed cyn i'r rhyfel dorri allan, nid yn unig o'u tiriogaeth eu hunain, ond hefyd o diriogaethau eu cynghreiriaid a'u gelynion posibl. Roedd safon y mapiau hyn yn amrywio yn dibynnu ar yr wybodaeth a oedd ar gael. Mae ansawdd gwael y mapiau a gynhyrchwyd ar gyfer ymgyrch Gallipoli’n enwog, gyda rhywfaint o'r wybodaeth yn dyddio o amser Rhyfel y Crimea.
Mae ein casgliad yn cynnwys nifer o wahanol fathau o fapiau, y mapiau cynllunio cyffredinol, ar raddfa gymharol fach gan amlaf, y mapiau mwy manwl i'w defnyddio ar faes y gad, a'r mapiau ffos, sydd gan amlaf yn dangos llinell flaen Prydain a ffosydd y gelyn a oedd yn hysbys i'r Prydeinwyr.
Mae mapiau eraill yn cynnwys y rhai a wnaed i gynorthwyo gydag ailadeiladu Ewrop ar ôl y rhyfel a mapiau a wnaed i gofnodi hanes y gwrthdaro.
Yn ychwanegol i’r mapiau Prydeinig, mae yna hefyd nifer o fapiau a gynhyrchwyd gan lywodraethau tramor, yn cynnwys rhai a gipiwyd wrth yr Almaenwyr.
Mapiau taflen sengl neu luosog nad ydynt yn rhan o gyfres mwy o fapiau yw’r rhain. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o'r eitemau gan fyddin neu lywodraeth Prydain, a nifer fach mewn gwledydd eraill.
Mae'r adran yma’n cynnwys mapiau a gynhyrchwyd naill ai gan fyddin Prydain neu adrannau eraill o'r Llywodraeth. Cynhyrchwyd rhai i’w defnyddio mewn ymgyrchoedd penodol, ee crëwyd a defnyddiwyd map Montauban i adnabod magnelau yn y ffosydd yn ystod Brwydr y Somme. Crëwyd mapiau eraill ar gyfer cynllunio a gweinyddu, fel y map o Ffrainc sy’n dangos pencadlys corfflu'r fyddin.
Mae mapiau eraill yn dyddio o’r cyfnod ar ôl y rhyfel, fel y map iaith Prwsiaidd o Wlad Pwyl, a ddefnyddiwyd i ail-dynnu’r ffiniau ar ôl y rhyfel, neu’r map o Drydedd Brwydr Gaza ym 1917, a gynhyrchwyd yn y 1920au fel rhan o hanes swyddogol y rhyfel.
Efallai mai'r eitem fwyaf dwysbigol yw'r map o faes tanio Trawsfynydd, sy'n dangos yr Ysgwrn, cartref y bardd Hedd Wyn.
Mae nifer o fapiau Ffrengig a Belgaidd yn dangos gwahanol rannau o'r ffrynt. Efallai mai map propaganda o'r Almaen a gipiwyd gan filwyr Cymru tuag at ddiwedd y rhyfel yw'r un mwyaf diddorol, sy'n cynnwys dyfyniad gan Lloyd George.
Dyluniwyd y mapiau yma ar gyfer eu gosod at ei gilydd i gwmpasu ardal fwy. Mae gan y Llyfrgell rai enghreifftiau o fapiau cyfansawdd o'r fath, ond mae'r holl dudalennau a ddangosir yma yn daflenni sengl.
Mae'r mapiau yma’n cynnwys mapiau ffosydd graddfa fawr sy'n dangos y rhwydwaith y ffosydd, gan amlaf o ffosydd y gelyn. Defnyddiwyd y mapiau yma gan amlaf gan y milwyr yn y ffosydd i alw am gymorth y gynnau mawr gan ddefnyddio'r grid a drosbrintiwyd arnynt. Roedd y wybodaeth ar y mapiau yma’n gymysgedd o arolygu gwreiddiol yn y maes a gwybodaeth a gopïwyd o fapiau Ffrangeg a Belgaidd o'r cyfnod cyn y rhyfel.
Yn ychwanegol at y mapiau ar raddfa fawr hyn, cynhyrchwyd mapiau ar raddfa lai hefyd i'w defnyddio wrth gynllunio ac at ddibenion gweinyddol.
Mae'r nifer fechan o eitemau yn y categori yma’n cynnwys rhai llawlyfrau cudd-ymchwil i'w defnyddio wrth gynllunio ac asesu'r ardaloedd dan sylw, a chyfrol o hanes swyddogol y rhyfel sy'n cynnwys ymgyrchoedd y llynges yn 1914.
Un o nodweddion trawiadol y Rhyfel Byd Cyntaf yw'r ffordd y defnyddiwyd mapiau i hysbysu'r cyhoedd o gynnydd y Rhyfel. Gwnaed hyn yn bennaf trwy’r papurau newydd a argraffodd fapiau o fewn eu tudalennau, ond a wnaeth hefyd gyhoeddi mapiau atodol i gyd-fynd â'r newyddion.
Roedd llawer o'r mapiau a gynhyrchwyd ar gyfer y papurau newydd yn cael eu creu gan gyhoeddwyr mapiau masnachol, ac yn ychwanegol at y gwaith ar gyfer y papurau newydd, roeddent hefyd yn cyhoeddi eu mapiau eu hunain, weithiau’n fersiynau o fapiau cyn y rhyfel wedi'u hail-frandio, ond gyda gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud â'r rhyfel hefyd.
Yn ogystal â mapiau unigol neu setiau o fapiau, roedd rhai cyhoeddwyr yn cynhyrchu atlasau rhyfel, a fyddai weithiau'n rhedeg i nifer o rifynnau drwy gyfnod y rhyfel.
Mae’r rhan fwyaf o'r mapiau yn y categori yma’n setiau a gynhyrchwyd naill ai gan bapurau newydd cenedlaethol mawr neu brif gyhoeddwyr mapiau. Mae gan bob cyhoeddwr mawr eu categori eu hunain, grwpiwyd y mapiau a gyhoeddwyd gan neu ar gyfer cyhoeddwyr a phapurau newydd llai mewn categori arall ar wahân.
Cynhyrchwyd mapiau'r Daily Mail gan y George Philip & Son, cyhoeddwr mapiau. Mae’r map o’r Ffrynt Brydeinig ar bedwar tudalen yn un o'r rhai mwyaf lliwgar ac, mewn graddfa o un fodfedd i’r filltir, yn un o'r mapiau mwyaf a gynhyrchwyd yn fasnachol i ddangos yr holl sector Prydeinig o'r Ffrynt Gorllewinol.
Cynhyrchwyd mapiau'r Daily Telegraph gan Geographia Ltd. Sefydlwyd y cwmni gan Alexander Gross yn 1911. Roedd Gross (Grosz yn wreiddiol) yn fewnfudwr o Hwngari a Seisnigodd ei enw, ac a oedd yn gefnogol iawn i’r rhyfel yn erbyn y Pwerau Canolog, yn cynnwys ei famwlad. Roedd Gross yn gynhyrchydd mapiau toreithiog, ac yn cynnwys pob rhan o’r rhyfel, nid y Ffrynt Gorllewinol yn unig.
Cyfres arall ddiddorol yw’r gyfres o fapiau’r Gynhadledd Heddwch a gynhyrchwyd i ddangos gweddau o'r newidiadau tiriogaethol a gynigiwyd yn ystod y trafodaethau heddwch ar ôl y rhyfel.
Sefydlwyd cwmni John Bartholomew a'i Fab ym 1826 ac roedd eu canolfan yng Nghaeredin. Roeddent yn un o'r cwmnïau cartograffwyr hynaf a mwyaf ym Mhrydain. Yn ogystal â chynhyrchu eu mapiau eu hunain, roeddent hefyd yn creu mapiau i nifer o gyhoeddwyr eraill. Mae llawer o'u mapiau rhyfel wedi'u hail-bwrpasu o’u mapiau cyn y rhyfel gyda mân ychwanegiadau, efallai mai'r rhai mwyaf diddorol yw'r mapiau sy'n dangos y newidiadau tiriogaethol ar ôl y rhyfel.
Sefydlwyd cwmni W. & A. K. Johnston ym 1826 ac roedd eu canolfan yng Nghaeredin. Yn ogystal â chynhyrchu eu mapiau eu hunain, roeddent hefyd yn cynhyrchu mapiau ar gyfer nifer o gyhoeddwyr eraill. Mae llawer o'u mapiau rhyfel yn ailaddasiadau o’u mapiau cyn y rhyfel.
Roedd George Washington Bacon yn Americanwr a symudodd i Lundain ym 1861 ac wedi nifer o fethion ym myd busnes, sefydlodd fusnes gwneud mapiau ym 1870. Mae llawer o'u gynnyrch yn cynnwys ail-bwrpasu mapiau o’r cyfnod cyn y rhyfel gyda gwybodaeth ychwanegol wedi'i orbrintio fel y gwelir yn y map o'r Balcanau lle trosbrintiwyd amddiffynfeydd a phrif ffyrdd ar fap cyffredinol.
Sefydlwyd cwmni George Philip a'i Fab yn Lerpwl yn 1834, gan symud yn ddiweddarach i Lundain. Roeddent yn un o'r cwmnïau cartograffwyr mwyaf ym Mhrydain. Yn ogystal â chynhyrchu eu mapiau eu hunain, roeddent hefyd yn cynhyrchu mapiau ar gyfer nifer o gyhoeddwyr eraill, gan gynnwys y Daily Mail. Mae mapiau Philip yn rai o'r mapiau rhyfel mwyaf arloesol a mwyaf newydd, yn wahanol i’r rhai a ail-bwrpaswyd ar gyfer y rhyfel. Yn wahanol i lawer o'u cystadleuwyr mae ganddynt nifer o fapiau sy'n dangos y maes y gad yn hytrach na’r topograffi yn unig. O gynnwys y mapiau a gynhyrchwyd ganddynt i’r Daily Mail, roeddent yn un o gyhoeddwyr mapiau mwyaf cynhyrchiol y Rhyfel Byd Cyntaf.
Sefydlwyd Stanford's Ltd. gan Edward Stanford yn Llundain ym 1853. Efallai mai'r eitemau mwyaf diddorol yw'r mapiau propaganda a gynhyrchwyd gan y cwmni, nid yn unig ar gyfer y farchnad ddomestig ond hefyd ar gyfer y farchnad dramor, fel y map Sbaeneg a anelwyd at wledydd Sbaeneg niwtral. Cynhyrchodd Stanford nifer fawr o fapiau, ac mae llawer ohonynt yn dangos y rheng flaen yn hytrach na dim ond y topograffi a oedd yn bodoli eisoes, yn enwedig y mapiau hanner modfedd.
Mae'r categori yma’n cynnwys nifer o fapiau diddorol yn cynnwys map Cymraeg o’r Dwyrain Canol sy’n cyfuno gwybodaeth am y rhyfel gyda gwybodaeth hanesyddol o'r Beibl; mapiau rhyfel a gyhoeddwyd gan siop ddillad o Aberystwyth; map cartŵn sy'n dangos pwerau Ewropeaidd fel gwahanol fridiau o gi; a gêm fwrdd yn seiliedig ar fapiau a gynhyrchwyd at ddefnydd milwyr yn y ffosydd, gyda bwledi i'w defnyddio fel darnau.
Yn ogystal â'r holl fapiau unigol a gyhoeddwyd gan y gwahanol gyhoeddwyr, cyhoeddasant hefyd nifer o atlasau yn dangos cynnydd y rhyfel, cyhoeddwyd nifer o rifynnau o rai ohonynt yn ystod y gwrthdaro, fel y rhai a gyhoeddwyd gan Nelson. Mae yma hefyd gatalog o eitemau ar werth o wersyll Parc Cinmel ger y Rhyl, lle gwrthryfelodd nifer o filwyr o Ganada a oedd yn aros i fynd adref ar ôl y rhyfel.