Symud i'r prif gynnwys

Gwaith y diweddar Idris Mathias o Aberteifi yw’r map llawysgrif cain hwn. Dechreuwyd ei lunio yn 1945 a chymerodd ryw ddwy flynedd ar bymtheg i’w gwblhau. Mae’n fap manwl, lliwgar, sy’n darlunio cyfoeth naturiol rhan isaf dyffryn Teifi rhwng Castellnewydd Emlyn a Bae Ceredigion. Lluniwyd y map gwreiddiol ar un rholyn di-dor o bapur cetris, rhyw drigain troedfedd o hyd a llathaid o led. Fe’i digidwyd er mwyn ei ddiogelu trwy gytundeb rhwng Idris a Beryl Mathias, Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.