Dolenni perthnasol
- Mapiau Cynnar o Gymru
- Saxton, Christopher (1542x4–1610/11), ODNB, ar gael o fewn LlGC
Yn dilyn cyhoeddiad Cambriae Typus, map Humphrey Llwyd o Gymru, yn 1573, dechreuodd cartograffwyr eraill gynhyrchu mapiau mwy manwl o Gymru, gyda nifer ohonynt yn canolbwyntio ar siroedd a rhanbarthau unigol.
Roedd Christopher Saxton (1542?-1610/11) yn dirfesurydd proffesiynol ac fe gynhyrchodd yr atlas sirol cyntaf o Loegr a Chymru yn 1579.
Cafodd 13 o siroedd Cymru eu cynnwys yn y 7 map a ganlyn:
Gwaith Saxton oedd y mwyaf manwl o’i gyfnod ac fe'i seiliwyd ar dirfesuriadau manwl. Defnyddiwyd y mapiau hyn, neu amrywiadau ohonynt, am dros ganrif ac yn ddiweddarach fe’u rhannwyd yn siroedd unigol i'w defnyddio yn Camden’s Britannia (6ed argraffiad Lladin 1607). Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gopïau amryfal - rhai wedi eu rhwymo a rhai rhydd - o fapiau Cymreig Saxton a'r gweithiau deilliadol.
Cyfeirnod: MAP 01000 & MAP 01001
Creodd George Owen (c.1552-1613), yr hanesydd, yr hynafiaethydd a’r achrestrydd a oedd yn byw yn Henllys, Sir Benfro, ei fap o’r sir honno yn 1602. Mae arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol i'r map ac mae'n nodedig am nifer o nodweddion arloesol - mae’n dangos yr heolydd ac mae’n cynnwys grid alffaniwmerig gyda mynegai o enwau lleoedd, pob un â chyfesuryn grid i’w leoli ar fap. Oherwydd ei ansawdd uchel fe’i defnyddiwyd, yn hytrach na map cyfwerth Saxton, fel sylfaen ar gyfer y map o Sir Benfro a argraffwyd yn Camden’s Britannia (1607).
Mae’r Llyfrgell yn dal 2 fersiwn o’r map llawysgrif yma – tybir mai fersiwn diweddarach yw'r 2il fersiwn a ddyddiwyd (gydag ansicrwydd) i 1603. Mae g wahaniaethau bychain rhwng y ddau fap, ond credir taw gwaith Owen yw’r ddau ohonynt.
Yn 1611 cyhoeddodd John Speed (1551/2-1629), hanesydd Seisnig a chartograffydd enwog, ei ‘Theatre of the Empire of Great Britain’. Mae’r 2il gyfrol o’r 4 yn y gwaith hwn yn ymdrin â Chymru ac yn cynnwys map o Gymru (dyddiedig 1610) ynghyd â mapiau unigol o 13 o siroedd Cymru. Roedd ‘Theatre’ Speed yn llwyddiannus dros ben a daeth y mapiau yn sylfaen ar gyfer atlasau ffolio a gynhyrchwyd hyd at ganol y 18fed ganrif.
Mae gwaith Speed yn welliant ar weithiau cynharach gan gartograffwyr eraill e.e. Christopher Saxton (1542x4?-1610/11), am ei fod yn cynnwys mwy o fanylder a hefyd gan fod yr holl fapiau yn cynnwys cynlluniau mewnosodedig bychain o drefi pwysig.
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gopïau lluosog o’r mapiau Sirol hyn gan Speed, ac yn ychwanegol i’r fersiynau cyhoeddedig mae gennym hefyd gopïau proflen i 7 o siroedd Cymru: Aberteifi, Brycheiniog, Caerfyrddin, Dinbych, Maesyfed, Meirionnydd, a Threfaldwyn a brynwyd oll yn 1998.
Roedd Thomas Taylor (fl.1670-1730) yn werthwr llyfrau, printiau a mapiau yn Llundain, rhwng 1670 a 1721. Bu'n gweithio o nifer o gyfeiriadau gwahanol a nodir fel hyn: 'next door to the Beehive on London Bridge', 'at the Hand and Bible in the New Buildings on London Bridge' ac 'at Ye Golden Lyon, over against Serjeants Inn in Fleet Street'. Roedd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi nifer o fapiau gan gynnwys England exactly described [...] yn 1715 a oedd yn cynnwys mapiau o Siroedd Lloegr a gyhoeddwyd eisoes yn Maps Epitomiz'd gan Speed yn 1681 ac mewn gweithiau eraill. Fodd bynnag, mae Taylor yn arwyddocaol mewn cyd-destun Cymreig am gyhoeddi'r atlas sirol bychan The Principality of Wales exactly described [...] yn 1718, Tybir mai dyma'r atlas cyhoeddedig cyntaf sy’n perthyn yn gyfan gwbl i Gymru.
Amgylchynir tudalen deitl y gyfrol gan batrwm o ddail o fewn amlinell ddwbwl. Yn wahanol i gynnwys England exactly described, mae’n ymddangos bod y deg map yn ei atlas Cymreig yn newydd. Nid ydynt wedi eu rhifo, ac mae’n wedi cael eu disgrifio a’u trefnu fel isod yn yr atlas:
Pembrokeshire with its hundreds 1718
A new mapp of Carmarthenshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Glamorganshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
Brecknockshire with its hundreds by Tho: Taylor. Radnorshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
Cardiganshire described with its hundreds by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Montgomeryshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Merionethshire described with all its hundreds by Tho: Taylor 1718
Denbighshire by Tho: Taylor. Flintshire by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Caernarvonshire by Tho: Taylor 1718
A new mapp of the Isle of Anglesey with its hundreds by Tho: Taylor 1718
Mae'r teitlau a dyddiadau, ac eithrio'r rhai o Sir Benfro a sir Feirionnydd, yn ymddangos o fewn sgroliau addurnol (cartouche), yr unig addurn ar y mapiau. Mae cartouche addurniadol Sir Benfro yn dwyn cyflwyniad gan Taylor i Syr John Philipps o Gastell Pictwn, ger Hwlffordd, yr unig un o'r mapiau sy'n cynnwys cyflwyniad o'r fath.
Lluniwyd pob un o'r mapiau fwy neu lai ar yr un raddfa o tua 1 fodfedd i 7 milltir, neu 1:443520. Ceir ar bob map far graddfa 10 milltir, yr argraffnod "Sold by Tho: Taylor at the Golden Lyon in Fleet Street", a'r dyddiad 1718. Maint pob map, oddi mewn i'w forder plaen llinell-ddwbl, yw 18 x 25 cm, ac y mae wedi'i argraffu ar draws dwy ddalen heb ddim y tu cefn iddynt. Yn gyffredinol, mae mapiau Taylor yn dangos siroedd unigol, ynghyd â rhai manylion anghyflawn o’r siroedd cyfagos, gyda rhai siroedd, e.e. Brycheiniog a Maesyfed, yn ymddangos ar yr un ddalen. Nid oes map o Sir Fynwy yn yr atlas gan fod y sir honno'n cael ei thrin yn aml fel rhan o Loegr yn y cyfnod hwn.
Cynrychiolir y mynyddoedd a'r bryniau gan 'dwmpathau gwadd' darluniadol, ac ysgythrwyd yr afonydd mwyaf, a’u henwi weithiau. Dangosir lleoliad y trefi a'r prif bentrefi, a'u henwau, a dangosir y cantrefi hefyd ar y rhan fwyaf o'r mapiau, ynghyd â rhestr o'u henwau. Nid yw’r cantrefi’n ymddangos ar fapiau sir Gaernarfon, Dinbych a'r Fflint. Nodir cestyll, priffyrdd, pellteroedd yn ôl arolwg Ogilby, a rhosyn cwmpawd ar bob un o'r mapiau.
Roedd y brodyr Christopher a John Greenwood yn dirfesuryddion o Swydd Efrog. Yn gynnar yn y 19eg ganrif cychwynnodd Christopher ar brosiect i gynhyrchu mapiau graddfa fawr o holl siroedd Cymru a Lloegr o arolwg gwreiddiol, gan ddechrau gyda’i sir enedigol, Swydd Efrog, tua 1815. Cyhoeddwyd y map o Swydd Efrog ar naw dalen ar raddfa ¾ modfedd i filltir yn 1818, a’r un flwyddyn agorodd swyddfa yn Llundain i barhau â'i waith yng ngweddill y wlad. Ym 1822 ymunodd ei frawd John â Christopher a gyda’i gilydd buont yn gweithio ar y prosiect nes i John ddychwelyd i Swydd Efrog rywbryd cyn 1838.
Ar wahân i Swydd Efrog a Middlesex (a gafodd eu cyhoeddi ar raddfa dwy fodfedd i filltir) cyhoeddwyd y rhan fwyaf o siroedd Lloegr ar raddfa un fodfedd i filltir, yr un fath â mapiau cyntaf yr Arolwg Ordnans. Ni chyhoeddwyd mapiau o Swydd Buckingham, Swydd Gaergrawnt, Swydd Henffordd, Swydd Hertford, Swydd Norfolk a Swydd Rydychen. Mae’n debyg mai’r brodyr Greenwood oedd y tirfesurwyr preifat olaf i roi cynnig ar y fath gamp oherwydd ar ôl y cyfnod hwn fe wnaeth mapiau OS ymdrechion fel hyn yn anymarferol yn fasnachol.
Yr unig sir yng Nghymru a gyhoeddwyd ar y raddfa un fodfedd i filltir oedd Sir Fynwy, roedd siroedd eraill Cymru wedi eu grwpio gyda'i gilydd yn ôl cylchdeithiau llysoedd dros bedwar map ar yr un raddfa â map Swydd Efrog. Fodd bynnag, mae’n ymddangos mai dim ond y map o Gylchdaith y De-ddwyrain, yn cynnwys Sir Forgannwg, Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed a gyhoeddwyd.
Rhwng 1828 a 1834 cyhoeddodd y Greenwoods fersiwn graddfa lai o'u mapiau ar raddfa o tua 3 milltir i'r fodfedd, a gyhoeddwyd fel atlas mewn pedair rhan. Roedd yr atlas hwn yn cynnwys y mapiau nad oedd wedi eu cyhoeddi o'r blaen, gan gynnwys y tri map cylchdaith arall yng Nghymru.
Mae'r dolenni isod yn rhoi mynediad i enghreifftiau o'r ddau fap graddfa fawr a gyhoeddwyd (Sir Fynwy a Chylchdaith y De-ddwyrain) yn ogystal â'r pum map ar raddfa lai a gynhyrchwyd ar gyfer yr atlas. Yn ogystal â'r mapiau mae copi o brosbectws a gynhyrchwyd gan y Greenwoods wrth iddynt chwilio am gefnogaeth ariannol i'w cyhoeddiadau.
Mae’r mapiau sirol eraill a ddigidwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys: