Symud i'r prif gynnwys

Daearyddiaeth Ptolemy 

Mae’r cofnod daearyddol hynaf o Gymru sydd wedi goroesi yn dod o Ddaearyddiaeth Ptolemy. Ysgrifennwyd y gwaith yma gan awdur Groegaidd yn yr 2ail ganrif. Does dim copïau gwreiddiol o’r gwaith wedi goroesi, ond mae fersiynau diweddarach ohono ar gael, y ddau ohonynt ar ffurf llawysgrif (13eg ganrif a’r 14eg ganrif) a phrint (15fed-16eg ganrif).

Dyw Ptolemy ddim yn darparu llawer o wybodaeth am Gymru, gan restru 3 anheddiad, 2 benrhyn a 5 afon yn unig.

Mapiau cynnar eraill o Gymru

Mae yna rai mapiau llawysgrif cynnar o Ynysoedd Prydain sy’n dangos mwy o fanylion am Gymru. Yr enghreifftiau trawiadol yw map Matthew Paris o Brydain Fawr (sy’n cael ei gadw yn y Llyfrgell Brydeinig) a Map Gough (sy’n cael ei gadw yn Llyfrgell Bodleian, Rhydychen). Mae gan y Llyfrgell adluniau modern o’r mapiau yma.

Y map cynharaf penodol o Gymru a gofnodwyd yw map llawysgrif gan Giraldus Cambrensis (Gerallt Gymro) a gynhyrchwyd oddeutu 1205 ac sy’n dwyn y teitl “Totius Kambriae Mappa”. Cyfeirir at y map hwn mewn llythyr gan Gerallt ac mae sawl ffynhonnell o’r 17eg ganrif yn datgan ei fod yn Abaty Westminster. Dywedir bod y map yn dangos dim llai na 43 o drefi a phentrefi yng Nghymru. Erbyn 1780 doedd neb yn gwybod ym mhle roedd y map ac mae’n debyg iddo gael ei ddinistrio mewn tân yn Llyfrgell yr Abaty yn 1695.