Llyfryddiaeth
- Frazer Henderson, The railway engineers and architects of Wales (Aberystwyth, 1991)
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yn yr 1940au daeth casgliad o gynlluniau rheilffyrdd a gwasanaethau cyhoeddus eraill i feddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd y rhain yn canolbwyntio’n bennaf ar waith Henry Robertson, peiriannydd o dras Albanaidd a oedd yn gweithio yng ngogledd a chanolbarth Cymru rhwng 1842 ac 1888.
Cafwyd mân ychwanegiadau dros y blynyddoedd, gan ddod â’r casgliad i oddeutu 12,000 o eitemau, er bod rhwng 20% a 30% yn eitemau sydd wedi eu dyblygu’n gopïau gyda mân amrywiadau. Mae tua 10% o’r casgliad yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus a masnachol megis camlasau a dociau, ffyrdd a mwynfeydd.
Mae’r cynlluniau rheilffordd yn berthnasol yn bennaf i’r cyfnod o 1860 i 1900 ac maent yn ymwneud bron yn gyfan gwbl gyda pheirianneg sifil ac adeiladwaith; dim ond rhyw 100 i 150 eitem sy’n perthyn i’r cerbydau. Mae rhyw 1,400 o eitemau sy’n arbennig o fregus, gan eu bod ar bapur dargopïo, ac maent wedi eu amgáu er mwyn eu hamddiffyn.
Gellir archebu’r rhan fwyaf o’r casgliad trwy Gatalog y Llyfrgell a’u gweld yn yr Ystafell Ddarllen.
Mae yna nifer fawr o gynlluniau rheilffyrdd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cael eu cadw mewn adnau arbennig a chasgliadau wedi eu henwi. Y rhai pwysicaf yw:
Yn ogystal, mae yna gynlluniau rheilffyrdd yng nghasgliadau Jenkins Resolven, a Harpton Court, ac mae nifer o gasgliadau eraill hefyd yn cynnwys rhai cynlluniau rheilffyrdd.