Adnoddau eraill ynghylch mapiau hynafiaethol printiedig o Gymru
Mae’r cysylltiadau canlynol yn darparu gwybodaeth mwy manwl am fapiau hynafiaethol printiedig o Gymru.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gasgliad mawr o fapiau printiedig cynnar (mae’r Llyfrgell yn diffinio’r rhain fel unrhyw waith a gyhoeddwyd cyn 1800) o Gymru a hefyd o rannau eraill o’r Byd.
Mae polisi casglu’r Llyfrgell wedi ei anelu’n bennaf at sicrhau mapiau hynafiaethol o Gymru, neu gan gartograffwyr Cymreig; fodd bynnag, mae llawer iawn o ddeunyddiau hynafiaethol eraill wedi eu casglu dros y blynyddoedd.
Yn ogystal â mapiau a gyhoeddwyd ar 1 ddalen mae gan y Llyfrgell hefyd fapiau a oedd wedi eu rhwymo mewn atlasau yn wreiddiol, ond a ddad-rwymwyd rhywbryd cyn iddynt gyrraedd y Llyfrgell.
Mae’r eitemau yma yng nghatalog y Llyfrgell a gellir ymgynghori â hwy yn Ystafell Ddarllen y De.
Mae yna hefyd dros 200 o atlasau hynafiaethol yn y Llyfrgell. Ceir 3 prif gasgliad:
Mae’r holl gyfrolau wedi eu catalogio ac mae mapiau llawer ohonynt hefyd wedi cael eu catalogio’n unigol. Gallwch chwilio'r casgliad hwn drwy Gatalog y Llyfrgell.
Am resymau diogelwch a chadwedigaeth mae yna drefniadau arbennig yn eu lle ar gyfer edrych ar atlasau sy’n dyddio cyn 1800. Mae’n bosib y bydd darllenwyr yn derbyn argraffiad facsimile o’r gwaith, os oes un ar gael.
Mae’r cysylltiadau canlynol yn darparu gwybodaeth mwy manwl am fapiau hynafiaethol printiedig o Gymru.