Chwilio'r mapiau degwm
Chwiliwch drwy'r casgliad mapiau degwm am ddim. Gallwch weld y rhestrau penu a'r mapiau ynghyd â map cyfansawdd o Gymru trwy'r mapiau degwm.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Taliadau a wnaed o amserau cynnar i gynnal eglwys y plwyf a’i chlerigwyr oedd y degwm. Yn wreiddiol gwnaed y taliadau hyn mewn nwyddau (cnydau, gwlân, llaeth, stoc ifanc ayb) ac fel arfer byddent yn cynrychioli'r ddegfed ran o gynnyrch blwyddyn o drin y tir neu fagu stoc.
Roedd yna 3 math o ddegwm:
Y mae’n fwy arferol cyfeirio at ddegymau fel ‘Degymau Mawr’ a ‘Degymau Bach’. Roedd y degymau mawr, a oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel ‘degymau’r rheithor’, yn daladwy i’r rheithor ac yn cynnwys yn gyffredinol ddegymau tir o ŷd, grawn, gwair a choed. Roedd y degymau bach, a oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel ‘degymau’r ficer’, yn daladwy i’r ficer ac yn cynnwys yr holl ddegymau eraill.
Roedd perchnogaeth degwm yn hawl mewn eiddo y gellid ei brynu a’i werthu, ei roi ar les, neu forgais, neu ei drosglwyddo i eraill. Canlyniad hyn oedd i lawer o’r degymau rheithor gael eu trosglwyddo i ddwylo lleyg – yn arbennig ar ôl diddymu’r mynachlogydd. Daeth y degymau hyn wedyn yn eiddo personol y perchnogion newydd, neu briodorion lleyg. Wedi i’r degymau a fforffedwyd i’r Goron gael eu gwerthu yn yr 1530au, roedd tua 22.8% o werth net degymau yng Nghymru yn nwylo priodorion lleyg yn amser y cymudo yn 1836. Fel arfer byddai ficer yn dal i ofalu am y plwyf yn ysbrydol ac yn dal i dderbyn degymau’r ficer.
O gyfnod cynnar roedd taliadau mewn arian wedi dechrau cael eu cyfnewid am daliadau mewn nwyddau. Roedd symiau penodol (modus) yn cael eu cyfnewid am rai mathau o gynnyrch, yn arbennig da byw a chynnyrch darfodus; tra bo taliadau hyblyg neu daliadau cyfnewidiol (composition), a oedd weithiau yn cael eu hasesu’n flynyddol, yn gynyddol yn dod i gymryd lle taliadau eraill mewn trefniadau lleol mewn blynyddoedd mwy diweddar.
Roedd cywirdeb y mapiau yn dibynnu ar fedr y tirfesurwyr lleol a gyflogwyd at y gwaith. Bu mwy na 200 o dirfesurwyr yn gweithio yng Nghymru.
Roedd y cyfarwyddiadau cyntaf ar gyfer mapio (Papurau Seneddol Prydain, Tymor 1837, Cyfrol. XLI 405) yn rhy uchelgeisiol. Lluniwyd hwn gan un o’r Comisiynwyr Cynorthwyol, yr Is-gapten R K Dawson o’r Arolwg Ordnans, a’r bwriad oedd iddo fod ar raddfa o 3 cadwyn i’r fodfedd (1:2,376) gyda chyfres safonol o symbolau.
Yn anffodus, ni chafodd hyn ei fabwysiadu oherwydd bod yn rhaid i’r tirfeddianwyr dalu costau’r arolwg. Roedd nifer yn anfodlon gwneud hyn, yn arbennig felly os oedd ganddynt eisoes gynlluniau ystâd a allai wneud yr un gwaith.
Roedd yn rhaid i ddeddfwriaeth diwygio gael ei phasio yn 1837 a roddai ganiatâd iddynt gyflwyno mapiau llai manwl, ac yn aml ar raddfa lai. Lluniwyd nifer o’r mapiau hyn o’r mapiau ystad oedd yn bodoli eisoes heb fawr o waith tirfesur newydd.
Galwyd y mapiau hynny oedd yn cyrraedd y safon yn gynlluniau dosbarth cyntaf a byddent yn derbyn sêl gan y Comisiynwyr Degwm. Byddai’r Comisiynwyr Degwm yn gwrthod rhoi eu sêl ar fapiau o safon isel.
Yng Nghymru dim ond 50 o’r 1,091 gafodd eu selio fel mapiau dosbarth cyntaf, yn bennaf ar gyfer ardaloedd yn Sir Fynwy neu Sir Frycheiniog. Cafodd y gweddill eu hardystio yn unig fel dogfennau yr oedd dosraniad rhent-dâl y degwm wedi’i selio arnynt.
Mae’r mapiau ail ddosbarth hyn yn amrywio mewn graddfa ac ansawdd. Mae rhai sydd ar y raddfa benodedig, sef 3 cadwyn i’r fodfedd na seliwyd mohonynt yn fapiau dosbarth cyntaf am ryw reswm; tra bo eraill yn fawr mwy na brasluniau topograffig heb fod o unrhyw werth ar gyfer gwybodaeth am ffiniau eiddo, e.e. Llangeitho, Sir Aberteifi (1:7,920) a Nantglyn, Sir Ddinbych (1:21,120). Roedd rhai mapiau yn syml iawn, yn fapiau un fodfedd yr Arolwg Ordnans wedi eu helaethu yn unig.
Mae’r atodlenni dosrannu degwm yn dilyn fformiwla fwy caeth ac fel arfer fe’u gosodir allan ar ffurflenni safonol sy’n cynnwys colofnau ar gyfer -
Nid yw pob atodlen yn mynd i’r un manylder. Mae pob un yn rhoi manylion am berchnogion a deiliaid y tir ond mae rhai yn rhoi manylion am ddaliadau yn unig, nid am gaeau unigol. Mae ychydig dros hanner atodlenni Cymru yn rhoi manylion am rent-dâl y degwm ar bob cae. Yn yr un modd, nid yw pob map yn rhoi manylion am ddefnydd y tir nac yn cofnodi enwau’r caeau unigol.
Cyfarwyddwyd tirfesurwyr a phriswyr gan y perchnogion tir i ddosrannu yn ôl daliad yn hytrach na thrwy gaeau unigol er mwyn cadw’r costau’n isel. Mae enwau caeau a defnydd y tir wedi eu cofnodi amlaf lle mae’r dogfennau degwm wedi cael eu paratoi o arolygon tir a oedd yn bodoli’n barod. Dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth astudio manylion am enwau caeau a defnydd tir, oherwydd gallasent fod yn ailadrodd gwybodaeth am dirwedd hŷn a oedd eisoes wedi newid erbyn bod y map degwm yn cael ei baratoi.
Penodwyd priswyr a thirfesurwyr gan berchnogion tir fel arfer wedi iddynt hysbysebu yn y wasg leol. Roedd 305 o briswyr a thirfesurwyr yn gweithio yng Nghymru. Tra bod y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio yn lleol yn unig, roedd eraill yn gweithio dros sawl sir. Un o’r rhai mwyaf nodedig oedd cwmni H P Goode & Philpott o Hwlffordd a oedd yn gweithio yn Sir Benfro, Sir Forgannwg, Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi ar gyfanswm o 126 o apwyntiadau. Mewn gwrthgyferbyniad mae 135 o briswyr a thirfesurwyr yn gysylltiedig ag un dosraniad yn unig.
Ni ddylid defnyddio unrhyw fap ar ei ben ei hun, y mae angen ffynonellau dogfennol eraill i daflu goleuni ar gywirdeb mapiau, eu pwrpas, y ffordd y cawsant eu llunio ac i benderfynu faint o wybodaeth y cartograffydd sy’n newydd neu unigryw, a faint ohono sydd yn ailadrodd yr hyn a gafwyd eisoes. Nid yw mapiau degwm yn eithriad.
Lluniwyd nifer o fapiau degwm Cymru o hen arolygon tir. Dylai’r ymchwilydd geisio sefydlu felly sut y cafodd y mapiau eu gwneud. Faint o’r data a gasglwyd o waith maes go iawn a faint oedd yn deillio o ffynonellau eraill? Tra bo mapiau yn aml yn cynnwys rhychwant eang o wybodaeth, doedd rhai agweddau, megis hawliau tramwy, o ddim diddordeb i’r Comisiynwyr. Ar fapiau degwm, felly, mae gwybodaeth o’r fath naill ai yn absennol neu heb fod yn fanwl gywir.
Cymudo’r degwm oedd yr enw ar y broses o gyfnewid taliadau mewn nwyddau am daliad ariannol. Lluniwyd Deddf Cymudo’r Degwm er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd yn sydyn ar hyd a lled y wlad.
Roedd y degwm yn dal i fod yn daladwy ym mhob plwyf yng Nghymru bron (ac yn y mwyafrif o blwyfi yn Lloegr hefyd) yn 1836. Roedd dechrau’r 19eg ganrif yn gyfnod o ddiwygio mawr yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac economaidd. Roedd galw cynyddol am Gymudo’r Degwm (bu rhai diwygwyr yn ymgyrchu i ddiddymu’r degwm yn gyfan gwbl) ac yn 1836 bu i lywodraeth y dydd lywio Mesur Cymudo’r Degwm drwy’r Senedd yn llwyddiannus. Derbyniodd y Ddeddf Gydnabyddiaeth Brenhinol ar 13 Awst 1836.
Sefydlwyd y Comisiwn Degwm gan Ddeddf 1836; fe’i rheolwyd gan 3 Comisiynydd yn Llundain:
William Balmire oedd y cadeirydd. Ffermwr o Cumberland ydoedd a bu’n rhaid iddo ymddiswyddo fel AS wedi iddo gael ei benodi i’r Comisiwn. Y Parch Richard Jones oedd enwebiad Archesgob Caergaint.
Rhai o dasgau cyntaf y Comisiynwyr oedd canfod ym mhle roedd cymudo eisoes wedi digwydd, a hefyd sefydlu ffiniau pob uned lle talwyd y degymau ar wahân. Galwyd yr uned hon yn ardal ddegwm er mwyn gwahaniaethu rhyngddi â phlwyf neu drefgordd. Cyfeiriwyd yr ymholiadau at bob plwyf neu drefgordd a restrwyd ar y ffurflenni cyfrifiad. Gellir canfod canlyniadau’r ymholiadau hyn yn Ffeiliau’r Degwm (Dosbarth IR18 yn yr Archifdy Gwladol).
Mae yna 1,132 o Ffeiliau Degwm ar gyfer Cymru ac maent yn cynnwys pob ardal yng Nghymru, nid yn unig y llefydd hynny lle’r oedd y degymau yn parhau i gael eu talu yn 1836. Plwyfi yw ardaloedd degwm fel arfer, ond mae lleiafrif ohonynt yn drefgorddau; mae rhai yn gapeliaethau, pentrefannau, neu fannau amhlwyfol, gyda nifer ohonynt yn mwynhau statws ar wahân at ddibenion cymudo’r degwm yn unig.
Yng Nghymru dim ond 41 o ffeiliau sydd heb fap degwm yn cyfateb iddynt. O’r rhain, mae 5 yn cyfeirio at ffeiliau dyblyg o dan enwau eraill yn yr un ardal; mae 9 yn cyfeirio at ardaloedd a gynhwyswyd eisoes mewn ardaloedd degwm eraill. Felly mae 14 o’r 41 o ffeiliau heb fod yn cyfeirio at ardaloedd degwm penodol.
O’r 27 o ardaloedd degwm eraill na pharatowyd map ar eu cyfer, cawn fod y degwm yn Ifton (Sir Fynwy) wedi’i gymudo pan gaewyd y tir yn 1776. Mewn 11 ardal arall cafodd yr holl rhent-dâl degwm ei gyfuno cyn y dosraniad ac mae’r 15 sy’n weddill yn perthyn i ardaloedd lle nad oedd degwm yn cael ei dalu yn 1836 ac a oedd fwy na thebyg wastad wedi bod yn rhydd o’r degwm. Roedd 9 o’r rhain yn ardaloedd amhlwyfol bach iawn ac roedd 6 ohonynt yn arfer bod yn diroedd mynachlogydd. Paratowyd datganiadau cydsoddiad ar gyfer yr ardaloedd hyn hefyd er mwyn gwneud y sefyllfa’n rheolaidd.
Disgrifiwyd cynnwys y ffeiliau hyn yn fanwl yn Kain (1986).
Roedd yna 2 ran benodol i’r broses o gymudo; y cyntaf oedd pennu asesiad cyffredinol ar gyfer yr ardal ddegwm ac yn ail, dosrannu rhent-dâl y degwm ar eiddo unigol.
Cofnodwyd y dosraniad ar fap ac mewn atodlen ysgrifenedig. Mae’r mapiau a’r atodlenni hyn gyda’i gilydd yn ffurfio’r hyn y mae’r haneswyr yn arfer ei alw’n ‘arolwg degwm y plwyf’. Pwrpas hanfodol arolwg oedd darparu mesur cywir o faint pob darn o dir neu ardal ddegwm mewn erwau, a chofnodi sut y gwelwyd bod y tir yn cael ei ddefnyddio.
Roedd Deddf y Degwm yn darparu ar gyfer gwneud copi gwreiddiol a 2 gopi arall o bob offeryn dosrannu a gadarnhawyd; seliwyd pob un ohonynt a’u llofnodi gan y Comisiynwyr. Cadwyd y copïau gwreiddiol dan ofal y Comisiynwyr ac maent erbyn hyn yn yr Archifdy Gwladol. Mae’r casgliad yn gyflawn.
Rhoddwyd y copïau i:
Chwiliwch drwy'r casgliad mapiau degwm am ddim. Gallwch weld y rhestrau penu a'r mapiau ynghyd â map cyfansawdd o Gymru trwy'r mapiau degwm.
Mae’r Llyfrgell yn cadw cyfres o fapiau degwm a rhestrau cysylltiol ar gyfer Cymru.
Mae’r holl fapiau degwm yn y Llyfrgell yn awr wedi eu catalogio a gellir eu canfod ar y Catalog. Mae enwau lleoedd yn nheitlau’r mapiau yn aml yn amrywio o’r sillafiad modern a gellir canfod y ffurfiau safonol trwy chwilio o dan bwnc.
Mae llungopïau o’r mapiau a’r atodlenni ar gael ar fynediad agored yn yr Ystafell Ddarllen. Nid yw’r rhai gwreiddiol fel arfer yn cael eu rhoi allan ac eithrio mewn achosion arbennig iawn (e.e. at bwrpas cyfreithiol) lle mae’n bwysig archwilio lliwiau neu luniad y map.
Mae cyfrol o fynegai mapiau sy’n dangos ffiniau'r ardaloedd degwm unigol hefyd ar gael yn yr Ystafell Ddarllen. Mae hwn wedi ei selio ar lungopi o Fynegai'r Arolwg Degwm (Index to Tithe Survey) yr Arolwg Ordnans gyda ffiniau’r ardaloedd degwm wedi eu hamlygu.
Am wybodaeth lawnach ymgynghorwch â’r llyfryddiaeth isod, yn arbennig Davies (1999), sy’n rhoi arweiniad cynhwysfawr i’r mapiau a’r atodlenni sy’n cael eu cadw yn y Llyfrgell.