Symud i'r prif gynnwys

Daeth y cynlluniau mwyngloddio hyn i’r Llyfrgell o amrywiol ffynonellau. Mae’r casgliad craidd hwn wedi cael ei gatalogio ym Mhrif Gatalog y Llyfrgell.

Yn ogystal mae nifer fawr o gynlluniau mwyngloddio yn y casgliadau mapiau ystadau wedi eu henwi, e.e. Gogerddan, Trawscoed a Nanteos. Mae casgliadau Leonora Davies, J Llewelyn Griffiths a John Jenkins hefyd yn cynnwys cynlluniau pyllau glo. Ychwanegwyd llawer o’r deunydd yma at y catalog arlein.

Mae’r Llyfrgell hefyd yn gartref i gasgliad mawr o gynlluniau peirianwyr gafodd eu trosglwyddo o’r Bwrdd Glo. Trosglwyddwyd peth o’r deunydd hwn i archifdai lleol. Cyrhaeddodd y casgliad gyda mynegai papur, ond nid yw wedi ei restru yn y catalog arlein eto.

Yn ogystal â’r deunydd hwn sy’n cynnwys llawysgrifau yn bennaf mae yna hefyd beth gwaith wedi’i gyhoeddi sy’n berthnasol i fwyngloddio yn y casgliad mapiau.

Llyfryddiaeth

  • Archifdy Mwyngloddio Glo Prydain, ‘Abandonment plans as at 13 April 1994  (Teipysgrif heb ei chyhoeddi). 3 cyfrol (yn cael eu cadw yn y Llyfrgell) sy’n cynnwys catalog o’r cynlluniau. Mae’r cynlluniau eu hunain yn awr yn cael eu cadw yn Bretby, Swydd Derby.