Symud i'r prif gynnwys

Drafftiau technegol yw’r rhan fwyaf o’r dyluniadau pensaernïol yma. Fe’u bwriadwyd i’w defnyddio gydag adeiladau sifil, ond maent yn cynnwys gweithiau o natur ddarluniadol neu dopograffig megis darluniadau persbectif sy’n cynnwys adeiladau ymysg eu hamgylchion.

Mae cynrychiolaeth dda o dai, adeiladau dinesig a chrefyddol. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithiau yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif hyd ddechrau’r 20fed ganrif, cyfnod o dwf diwydiannol a threfol eithriadol yng Nghymru. Mae’r gweithiau yn amrywio o frasluniau pensil syml ar bapur dargopïo, i luniau dyfrlliw bendigedig. Ni chafodd rhai o’r cynlluniau eu hadeiladu fyth, tra bo eraill yn werthfawr gan eu bod yn dangos adeiladau nad ydynt yn bodoli bellach.

Lle cedwir y deunydd?

Mae’r rhan fwyaf o’r deunyddiau yn cael ei gadw yn y  casgliad craiddo ddarluniadau pensaernïol. Mae yna hefyd sawl casgliad sy’n cael ei adnabod drwy enw’r pensaer, yn ogystal ag eitemau sy’n cael eu cadw gyda chasgliadau eraill.

Gwybodaeth bellach

Gellir cael gwybodaeth bellach am y casgliadau, a chyfle i weld delweddau digidol o beth o’r deunydd, drwy ymweld â’r arddangosfa arlein: Pensaernïaeth Cymru, ar Ddrych Digidol y Llyfrgell. Fersiwn electronig o arddangosfa a drefnwyd gan y Llyfrgell yn 1999 yw hwn.

Llyfryddiaeth

  • John Davies, The Making of Wales (Caerdydd, 1996).
  • Paul R Davis & Susan Lloyd-Fern, Lost churches of Wales and the Marches (Stroud, 1990).
  • John B Hilling, The Historic Architecture of Wales (Caerdydd, 1976).
  • Anthony Jones, Capeli Cymru (Caerdydd, 1984).
  • Thomas Lloyd, The lost houses of Wales. A survey of the country houses in Wales demolished since c.1900 (Llundain, 1986).
  • Peter Smith, Houses of the Welsh countryside (Llundain, 1988).
  • Eurwyn Wiliam, The historical farm buildings of Wales (Caeredin, 1982).