Symud i'r prif gynnwys

Mae’r Arolwg Ordnans (OS) wedi bod yn defnyddio cyfrifiaduron i’w cynorthwyo i ddarlunio eu mapiau ers yr 1960au hwyr ac mae’r defnydd o dechnegau mapio digidol wrth arolygu a chynhyrchu yn raddol wedi disodli’r dulliau mwy traddodiadol.

Erbyn 1995-6 roedd yr holl waith mapio manwl graddfa fawr wedi ei ddigido ac yn 1997 daeth cyhoeddi mapiau graddfa fawr i ben. Ers hynny mae’r holl fapiau graddfa fawr wedi bod ar gael ar sail ‘argraffu yn ôl y galw’ yn unig. Ar yr un pryd, peidiodd yr OS â darparu diweddariadau microffilm i’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol.

Er mwyn llenwi’r gofod lluniwyd cytundeb rhwng yr OS a’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol i ddarparu mynediad i ddata digidol. O ganlyniad i’r cytundeb hwn mae’r Llyfrgell wedi bod yn derbyn  cipolwg blynyddol o ddata OS Land-Line® ers 1998. Sicrhawyd bod y data hwn ar gael i ddarllenwyr ar beiriant unigol a gallai defnyddwyr sicrhau copi printiedig du a gwyn o’r data.

Mae’r OS bellach wedi newid y ffordd maent yn cyflwyno eu data i ddefnyddwyr ac mae ganddynt gynnyrch newydd o’r enw OS MasterMap®. Golyga’r cytundeb newydd rhwng yr OS a’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol bod y cynnyrch hwn yn awr ar gael yn y Llyfrgell.

O 2006 ymlaen derbyniwyd Haenen Topograffig OS MasterMap® wedi’i ddiweddaru gyda snapshot newydd bob blwyddyn ar sail barhaol. Gellir yn awr archwilio bob cipolwg blynyddol o 1998 ymlaen a’u cymharu gan ddefnyddio’r un syllwr.

Mae’r OS MasterMap® yn cynnig gwell haenau o wybodaeth, gan ganiatáu cofnodi newidiadau tirlun dros amser yn fwy manwl. Gellir edrych ar y system yn Ystafell Ddarllen y De a gellir cynhyrchu nifer cyfyngedig o argraffiadau lliw addasedig maint A4 o unrhyw ardal ar gyfer defnydd preifat, anfasnachol.