Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae graddfa map yn dangos beth yw’r berthynas rhwng pellter ar fap a’r pellter cyfatebol ar y ddaear. Caiff pob map ei leihau o’i faint iawn, ac mae’r rhan fwyaf o fapiau printiedig yn cael eu darlunio i raddfa sengl gyson.
Gall graddfa gael ei disgrifio mewn sawl ffordd wahanol:
1. Graffigol fel llinell rhywle ar y map (fel arfer ymyl y dudalen), wedi ei nodi gyda phellteroedd, megis milltiroedd neu gilomedrau.
2. Ar lafar, fel datganiad, megis ‘1 fodfedd i 1 filltir’ neu ‘2 gentimedr = 1 cilomedr’. Tueddir i ddefnyddio modfeddi ar fapiau hŷn a chentimedrau ar fapiau mwy newydd, er bod rhai yn dal i ddefnyddio modfeddi.
3. Fel cymhareb neu ffracsiwn cynrychiadol (RF) megis 1:50,000 neu 1:250,000
Mae’r canlynol yn ddetholiad o ddatganiadau llafar a ffracsiynau am raddfeydd mapiau cyffredin:
Graddfa Lafar | Ffracsiwn |
---|---|
50 modfedd i 1 filltir | 1:1,250 |
25 modfedd i 1 filltir | 1:2,500 |
10 cm = 1 km | 1:10,000 |
6 modfedd i 1 filltir | 1:10,560 |
2½ modfedd i 1 filltir | 1:25,000 |
2 cm = 1 km | 1:50,000 |
1 fodfedd i 1 filltir | 1:63,360 |
1 cm = 1 km | 1:100,000 |
½ modfedd i 1 filltir | 1:126,720 |
2 cm = 5 km | 1:250,000 |
¼ modfedd i 1 filltir | 1:253,440 |
1 cm = 5 km | 1:500,000 |
1 fodfedd i 10 milltir | 1:633,600 |
1 cm = 10 km | 1:1,000,000 |
|
Yn aml cyfeirir at fapiau fel rhai ar raddfa fawr neu ar raddfa fach, a’r mwyaf yw’r rhif wedi’r colon yn y ffracsiwn cynrychiadol (RF) y lleiaf yw graddfa’r map. Mae beth sy’n cyfrif fel map ar raddfa fawr neu fap ar raddfa fach yn amrywio; mae’r Llyfrgell yn defnyddio’r diffiniadau canlynol:
Bydd eitemau ar raddfa mwy na 1:100 yn aml yn cael eu trin fel dyluniadau pensaernïol neu gynlluniau peirianneg yn hytrach na mapiau.