Symud i'r prif gynnwys

Siartiau morlys

Mae’r casgliad, a dderbyniwyd drwy adnau cyfreithiol gan y Swyddfa Hydrograffig (HO), yn cynnwys dros 10,000 o siartiau sy’n dangos y byd i gyd ar amrywiol raddfeydd.

Nid oes gan y siartiau gyfres o raddfeydd cyson fel mapiau Arolwg Ordnans, ond maent yn rhoi graddfa sy’n addas i bob siart yn unigol, yn amrywio o 1:2,500 i 1:48,000,000. Caiff argraffiadau newydd eu cyhoeddi pan fydd nifer y cywiriadau yn ddigonol i gyfiawnhau siart newydd. Bydd gwybodaeth wedi’i ddiweddaru am yr amgylchedd morol sy’n newid yn gyson yn cael ei gyhoeddi yn Rhybuddion i Forwyr.

Yn ogystal â’r siartiau hyn a gynhyrchwyd yn bennaf ar gyfer y Llynges a llongau masnachol, mae’r Llyfrgell hefyd yn derbyn cyhoeddiadau hamdden HO megis ‘Small Craft Editions’. Siartiau wedi eu haddasu ar gyfer rhai sy’n defnyddio llongau bychain yw’r rhain ac fel arfer cânt eu cyhoeddi yn flynyddol.

Mae siartiau diweddar a gyhoeddwyd gan Swyddfa Hydrograffig Llynges Frenhinol Seland Newydd a Gwasanaeth Hydrograffig Llynges Frenhinol Awstralia ac a atgynhyrchwyd gan yr HO yn cael eu cadw yn y casgliad.

Nid yw’r siartiau Morlys modern yng nghasgliad y Llyfrgell wedi eu catalogio’n unigol; mae cofnodion mewn cyfres yn bodoli yn y Catalog; ond mae’n rhaid i siartiau unigol gael eu harchebu ar wahân. Mae’r HO yn cyhoeddi catalog printiedig o siartiau morlys yn flynyddol, ac mae copi o hwn ar gael yn yr Ystafell Ddarllen. Gallwch hefyd edrych ar gopi o gatalog ysiartiau morlys arlein ar Wefan y Swyddfa Hydrograffig.

Mae gan y Llyfrgell yn ogystal gasgliad bach o siartiau llynges Morlys, yn bennaf yn dyddio o hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Nid oedd y siartiau hyn ar gael i’r cyhoedd pan gawsant eu cynhyrchu; fodd bynnag anfonwyd copïau i’r llyfrgelloedd hawlfraint yn fwy diweddar. Mae’r siartiau hyn wedi eu catalogio yn unigol.

Mae cyhoeddiadau eraill gan yr HO megis y ‘Notices to Mariners and Pilot Books’ ayb yn cael eu dal yng nghasgliad llyfrau printiedig y Llyfrgell yn hytrach nag yn y casgliad mapiau. Dylai darllenwyr sy’n dymuno gweld y cyhoeddiadau hyn ochr yn ochr â’r siartiau siarad gyda’r staff wrth y ddesg yn yr Ystafell Ddarllen, ac fe drefnant i’r deunydd gael ei weld yno.


Siartiau masnachol

Yn ogystal â’r cyhoeddiadau Morlys mae’r Llyfrgell hefyd yn derbyn siartiau a gyhoeddwyd gan wneuthurwyr siartiau masnachol. Mae’r rhain yn bennaf ar gyfer defnyddwyr amser hamdden.

Y rhai amlwg o blith y cyhoeddwyr masnachol llai yw Imray, Laurie, Norie a Wilson. Mae eu siartiau o ddyfrffyrdd mewndirol, aberoedd ac arfordiroedd Prydain, yn ogystal â lleoliadau Mediteranaidd a Charibïaidd wedi eu bwriadu ar gyfer rhai sy’n hwylio iot a physgotwyr. Unwaith eto nid yw’r siartiau yma wedi eu catalogio’n unigol.


Siartiau sy’n cael eu cyhoeddi dramor

Yn ogystal â’r siartiau a gyhoeddwyd yn y DU (gan gynnwys siartiau o Awstralia a Seland Newydd) mae gan y Llyfrgell hefyd nifer fechan o siartiau a gyhoeddwyd gan wledydd tramor, yn arbennig felly'r Unol Daleithiau, Canada, yr Ariannin ac Ynysoedd y Philipinau.