Mae’r mapiau cynharaf a oroesodd sy’n dangos Cymru yn fapiau cyffredinol o Ynysoedd Prydain neu Ewrop. Yn aml nid oes yna lawer o fanylder o Gymru, dim ond ychydig enwau lleoedd sy’n cael eu dangos ac mae’r morlin yn wallus iawn.
Detholiad digidol o fapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n darlunio Cymru fel gwlad
Prima Europe tabula (Map o Ynysoedd Prydain o Ptolemy's Geography, 1486)
Cyfeirnod: Folio 152
Cyhoeddwyd yn 1486, dyma’r cofnod daearyddol hynaf o Gymru sydd wedi goroesi ac mae wedi ei dynnu o Geographia, traethawd ar gartograffeg a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn yr 2il ganrif gan y daearyddwr Groegaidd, Claudius Ptolemy. Mae’n un o’r mapiau printiedig cynharaf o Ynysoedd Prydain, a hwn yw'r eitem hynaf yng nghasgliad mapiau’r Llyfrgell Genedlaethol. Nid oes unrhyw gopïau gwreiddiol o’r gwaith wedi goroesi o'r cyfnod Rhufeinig, dim ond fersiynau mwy diweddar sy’n bodoli, mewn llawysgrifau (13eg-14eg ganrif) ac yn brintiedig (15fed-16eg ganrif).
Dolenni perthnasol
Cambriae Typus
Cyfeirnod: MAP 5007
Dyma’r map printiedig cynharaf yn benodol o Gymru ac fe’i crynhowyd gan Humphrey Llwyd (1527-1568), ychydig cyn ei farwolaeth. Fe’i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1573 gan Abraham Ortelius. Cambriae Typus yw’r map printiedig cyntaf i ddangos Cymru fel rhanbarth ar wahân. Er bod ganddo lawer o anghywirdebau e.e. mae’n dangos Cymru fel petai yn ymestyn i’r Afon Hafren (ac felly yn cynnwys rhannau mawr o beth a elwir yn awr yn Lloegr), roedd yn welliant mawr ar fapiau cynt. Yn Cambriae Typus, canolbwyntiodd Llwyd ar greu map hanesyddol a diwylliannol yn hytrach na phortreadu’r sefyllfa wleidyddol gyfoes.
Argraffiadau eraill o Cambriae Typus
- Cambriae typus Cyfeirnod: ATLAS MERVYN PRITCHARD 15
- Cambriae typus Cyfeirnod: ATLAS Folio 79
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 3612
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5000
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5001
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5002
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5003
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5004
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5005
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 3576
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5020
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5019/2
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5018/2
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5017
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5016
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5014/1
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5010
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5012
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5013
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5009/1
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5011
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 5015
- Cambriae typus Cyfeirnod: Folio Atlas 28
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 3611
- Cambriae typus Cyfeirnod: MAP 3443
Angliae Regni Humphrey Llwyd
- Angliae regni florentissimi nova descriptio Cyfeirnod: MAP 3615
- Angliae regni florentissimi nova descriptio Cyfeirnod: MAP 3193
- Angliae regni florentissimi nova descriptio Cyfeirnod: MAP 3610
- Angliae regni florentissimi nova descriptio Cyfeirnod: MAP 5392
- Angliae regni florentissimi nova descriptio Cyfeirnod: MAP 3178
Dolenni perthnasol
- Mapiau Cynnar o Gymru
- LLWYD (LHUYD), HUMPHREY (c. 1527 - 1568), Y Bywgraffiadur Cymreig
- Llwyd, Humphrey (1527–1568), ODNB, ar gael o fewn LlGC
- Ortelius, Abraham (1527–1598), ODNB, ar gael o fewn LlGC
Map prawf Saxton o Gymru
Cyfeirnod: MAP 01003
Roedd Christopher Saxton (1542?-1610/11) yn dirfesurydd proffesiynol ac mae’r map yma, a grynhowyd yn 1580, yn ymddangos fel ymgais i greu map o Gymru. Er na gyhoeddwyd y map erioed, mae llawer o’r wybodaeth yn ymddangos ym map Wal Saxton o Loegr a Chymru (1597). Mae’r cyfuniad o blatiau printiedig a gwybodaeth llawysgrif yn gwneud y map yma yn unigryw. Mae’n rhoi darlun gymharol gywir o’r morlin a’r portread manwl cywir cyntaf o nodweddion megis Ynys Môn, Porth Sain Ffraid a gorynysoedd Llŷn a Gŵyr, sy’n golygu ei fod yn ffynhonnell hanesyddol a daearyddol amhrisiadwy. Prynwyd y map yma gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 1986 gyda chymorth ariannu allanol oddi wrth Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol a Chyfeillion y Llyfrgell.
Map Speed o Gymru
Cyfeirnod: MAP 5024
Yn 1611 cyhoeddodd John Speed (1551/2-1629), hanesydd Saesnig a chartograffydd enwog, ei ‘Theatre of the Empire of Great Britain’. Dyma’r ymgais Saesnig cynharaf i gyhoeddi atlas ar raddfa fawr. Mae’r 2il gyfrol o’r 4 yn y gwaith hwn yn ymdrin â Chymru ac yn cynnwys map o Gymru (dyddiedig 1610) ynghyd â mapiau unigol o’r 13 sir Gymreig. Roedd ‘Theatre’ Speed yn llwyddiannus dros ben a daeth y mapiau i fod yn sylfeini ar gyfer atlasau ffolio a gynhyrchwyd i fyny hyd at ganol y 18fed ganrif.
Map Evans o Ogledd Cymru
Ganwyd John Evans yn Llwyn-y-groes ger Llanymynech yn 1723. Mae'n debyg iddo ddechrau gweithio ar ei fap o Ogledd Cymru cyn 1776, ond ni gyhoeddwyd y map tan 1795, blwyddyn ei farwolaeth. Ariannwyd y gwaith drwy danysgrifiad. Un o'r tanysgrifwyr oedd Thomas Pennant, a ysgrifennodd lythyr yn 1792 ar ran y tanysgrifwyr yn annog Evans i gwblhau'r gwaith. Yn ogystal â delwedd o'r map mae rhestr y tanysgrifwyr hefyd ar gael yma.
Ysgythrwyd y map gan gymydog agos i Evans sef Robert Baugh, Clerc Plwyf Llanymynech a syrfëwr a mapiwr ynddo'i hun. Pan gyhoeddwyd y map o Ogledd Cymru, hwn oedd y map mwyaf manwl a chywir a gynhyrchwyd erioed ac ni ragorwyd arno hyd nes i'r Arolwg Ordnans ddechrau cyhoeddi mapiau o Ogledd Cymru yn yr 1830au.
Roedd map Evans yn ddefnyddiol iawn i deithwyr gan ei fod yn cynnwys y ffyrdd tyrpeg newydd. Dangosai'r map hefyd lawer o gartrefi'r boneddigion lleol, nifer ohonynt yn rai a danysgrifiodd i'r map. Cyhoeddwyd fersiwn ar raddfa lai o'r map yn 1797 gan Dr John Evans, mab yr awdur, ac ysgythrwyd hwn hefyd gan Baugh. Ail-gyhoeddwyd y fersiwn lai yn 1802. Roedd y fersiwn hon yn ddigon bach i'w phlygu a'i rhoi mewn poced i'w defnyddio tra'n teithio.
Map Bowen o Dde Cymru
Cafodd Emanuel Bowen ei eni yn Nhalyllychau, Sir Gaerfyrddin yn 1693 neu 1694. Yn 1709 aeth yn brentis i ysgythrwr o Lundain o'r enw Charles Price, a oedd yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin hefyd, ac a fu yn ei dro yn brentis i'r mapiwr enwog John Seller. Mae gan Bowen le amlwg ym masnach mapiau’r ddeunawfed ganrif y tu hwnt i'w waith ei hun gan fod ganddo sawl prentis, gan gynnwys y mapwyr enwog Thomas Kitchin, a ddaeth yn fab-yng-nghyfraith iddo, a Thomas Jefferys.
Y map o dde Cymru oedd y map mwyaf manwl o’r rhanbarth hyd hynny ac roedd yn llawer mwy manwl a chywir na’r holl fapiau sirol blaenorol o dde Cymru a oedd i gyd yn deillio o arolwg Saxton yn y pen draw. Mae copïau o argraffiad gwreiddiol 1729 y map yn eithaf prin.
Un nodwedd ddiddorol o'r map yw'r rhestr o danysgrifwyr sydd wedi’i hargraffu ar waelod y map. Roedd cynhyrchu map newydd, yn enwedig os byddai rhywun yn gwneud unrhyw waith arolygu, yn waith drud ac roedd yn eithaf cyffredin yn y cyfnod yma i fapwyr gasglu arian er mwyn ymgymryd â'r gwaith drwy ofyn i bobl danysgrifio am gopi o'r map cyn iddo gael ei greu. Fel rhan o'r tanysgrifiad, roedd yn gyffredin cynnwys tai neu ystadau boneddigion a oedd wedi tanysgrifio ar y mapiau. Yn yr achos hwn mae cod alffaniwmerig yn dilyn enw pob tanysgrifiwr sy'n rhoi cyfeiriad grid y man ble mae eu heiddo i'w weld ar y map.
Yn ddiweddarach bu'r map o dde Cymru yn sail i'r mapiau sirol o siroedd de Cymru a gafodd eu hysgythru gan Bowen a Kitchin ar gyfer y Large English Atlas ac a gyhoeddwyd gan John Tinney yn 1754. Ailgyhoeddwyd y map ei hun tua 1766. Mae copïau o'r ddau rifyn i'w gweld yma.
A New and accurate map of South Wales containing the counties of Pembroke, Glamorgan Cyfeirnod: Roller MAP A234
A New and accurate map of South Wales … Cyfeirnod: MAP 3420