Symud i'r prif gynnwys

Y cyhoeddiad mawr cyntaf i ddangos cynlluniau trefi manwl oedd Civitates Orbis Terrarum Braun & Hogenberg (1572-1617), ac roedd yn cynnwys nifer o drefi a dinasoedd yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, ond nid oes un o Gymru. 

Map sirol Speed o Gaernarfon

Beth oedd y cynlluniau trefol cynharaf yng Nghymru?

Mae rhai o gynlluniau trefi cynharaf Cymru yn ymddangos fel mewnosodiadau ar Fapiau Sirol John Speed. Mae'r cynlluniau hyn yn weddol fach ac yn dangos ychydig o fanylion. Prin iawn yw'r cynlluniau trefi eraill ar gyfer trefi Cymreig a gyhoeddwyd yn ystod y 200 mlynedd nesaf, er y gellir dod o hyd i rai enghreifftiau mewn mapiau llawysgrif, megis cynllun y Trallwng a ddangosir ar fap Humfrey Bleaze o Stad Castell Powis (1629).


Cynlluniau trefol manwl yng Nghymru

Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd mwy o ddiddordeb yn y ffordd yr oedd trefi yn cael eu trefnu a’u rhedeg, ac arweiniodd hyn at gynnydd mewn mapiau yn dangos cynlluniau manwl o drefi a dinasoedd. Rhai o'r enghreifftiau cynharaf i Gymru oedd y mapiau trefol a gynhyrchwyd gan John Wood yn y 1830au. Mae'r ffaith bod rhai o'r mapiau hyn wedi eu anodi i ddangos datblygiadau newydd yn dystiolaeth o bwysigrwydd cynlluniau o'r fath. 

Beth oedd cynnwys cynlluniau trefol Cymru?

Mae'r cynlluniau Cymreig yn cynnwys mapio manwl ynghyd â gwybodaeth destunol ac ystadegol am ardaloedd trefol a'u cyffiniau o'r 1830au-1840au. Mae'r cynlluniau yma ar raddfa fawr yn rhagddyddio enghreifftiau’r Arolwg Ordnans ar raddfa gymharol. Mae’n nodi amlinelliad neu gynlluniau bloc o adeiladau cyfoes, ynghyd â strydoedd, pontydd, tramffyrdd, camlesi, glanfeydd, dociau, dyfrffyrdd, afonydd, tir amaethyddol a llu o nodweddion eraill. Enwir tirfeddianwyr, yn enwedig rhai o bwys, ac yn aml dangosir ffiniau bwrdeistrefi, wardiau a phlwyfi hefyd.

Rhifwyd rhai adeiladau, fel arfer adeiladau cyhoeddus a masnachol er mwyn croesgyfeirio at restrau ar ymylon pob cynllun. Nodir y pellteroedd i drefi cyfagos, dyddiadau ffeiriau ac ystadegau poblogaeth fel rheol, ac mae cyfliniau mympwyol yn diffinio’r topograffi.

Mae tai ac eiddo masnachol yn cael eu mapio’n fanwl ond yn ddienw gan amlaf; enwir adeiladau a nodweddion amlwg, gan gynnwys neuaddau tref, neuaddau sir, eglwysi, capeli, tai cwrdd, ysgolion, ysbytai, gwestai, tafarndai, banciau, swyddfeydd post, swyddfeydd gwaith, warysau, marchnadoedd, lladd-dai neu "Shambles", tolltai, elusendai, golchdai, tlotai, theatrau, carchardai, ffowndrïau, gwaith nwy, melinau, iardiau coed, odynau calch, tollbyrth, corlannau pwyso, ffynhonnau a mynwentydd. Dangosir rhandiroedd, parciau a thir amaeth hefyd ac weithiau dangosir amlinelliad o ddatblygiadau arfaethedig, megis ffyrdd newydd.

Cynllun tref Aberystwyth gan John Wood, 1834

Pa gynlluniau trefol sydd ar gael?

Mae casgliad y Llyfrgell yn cynnwys cynlluniau o saith tref yng Nghymru, sef Aberystwyth, Bangor, Aberhonddu, Aberteifi, Casnewydd, Caernarfon a Phwllheli, ynghyd â threfi cyfagos Caer a Chroesoswallt ar y gororau yn Lloegr sydd wedi eu cynnwys oherwydd eu hagosrwydd a'u cysylltiadau Cymreig cryf.

Gosodwyd mwyafrif y cynlluniau gyda’r Gogledd ar frig y dudalen, ac mae ganddynt raddfeydd o 2 gadwynfedd (1:1,584), 3 cadwynfedd (1:2,376) a 6 cadwynfedd: 1 fodfedd (1:4,752). Yn aml, mewnosodwyd mapiau o’r fwrdeistref ar raddfeydd llai.

Argraffwyd cynlluniau'r Llyfrgell yn bennaf gan dri chwmni o Gaeredin, J. & W. Smith, Leith & Smith a Forrester & Nichol. Mae’r lliw, lle mae'n bodoli, wedi pylu, ond gall fod yn ddefnyddiol iawn i adnabod ffiniau ardaloedd gweinyddol.

Gweld cynlluniau trefol John Wood

Cynlluniau trefol gan yr Arolwg Ordnans

Wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd yn ei blaen, datblygodd tyfiant llywodraeth leol law yn llaw â mapio trefi manwl gan yr Arolwg Ordnans. Mae'r cynlluniau graddfa 1:500 a gynhyrchwyd ganddynt ymhlith y mapiau graddfa fwyaf a wnaed gan yr Arolwg Ordnans ac maent yn nodedig am eu sylw i’r manylion lleiaf, megis coed unigol ac offer stryd.

Asiantaeth y llywodraeth sy'n gyfrifol am gynhyrchu mapiau ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd yw’r Arolwg Ordnans (OS). Y mapiau a gynhyrchwyd gan yr OS yw prif gasgliad y Llyfrgell o fapiau printiedig modern.

Cynllun tref Caerdydd, 1880 gan yr Arolwg Ordnans

Pa gynlluniau trefol fapiwyd gan yr Arolwg Ordnans?

Rhwng 1855 a 1894 mapiwyd tua 400 o drefi â phoblogaeth o fwy na 4000 o drigolion gan yr Arolwg Ordnans i raddfa o 1:500. Cynhyrchwyd y rhain ar adeg pan welwyd gwelliannau mewn cynllunio trefol a systemau glanweithdra yn dilyn Deddf Iechyd Cyhoeddus, 1848. Cafodd llawer o'r cynlluniau eu diwygio'n ddiweddarach rhwng 1898 a 1908, gyda rhai trefi'n cynnal eu harolygon eu hunain. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys mwy o fanylion a gwybodaeth destunol na’r OS 1:2,500 (argraffiad 1af, 2il argraffiad ac argraffiadau dilynol o fapiau 25 modfedd:1 filltir), yn aml yn enwi adeiladau fel tafarndai, gan nodi’r defnydd a wnaed o eiddo masnachol a diwydiannol, ac weithiau’n nodi swyddogaethau ystafelloedd unigol a hyd yn oed yn dangos manylion fel polion lampau a thyllau archwilio.

Mae’r mapiau graddfa 1: 500 yn llawn gwybodaeth am dirweddau trefol ar droad y 19eg / 20fed ganrif a gallant fod yn arbennig o werthfawr o’u ddefnyddio ochr yn ochr â chofnodion cyfrifiad a chyfeirlyfrau masnachol.

Ffynonellau pellach