Symud i'r prif gynnwys

Cefndir

Mae Thomas Picton yn cael ei ystyried fel arwr rhyfel ond roedd ganddo hefyd enw drwg am greulondeb yn ystod ei gyfnod fel llywodraethwr Trinidad, lle bu’n caethiwo pobl a hefyd gorchymyn arteithio pobl. Mae’n arwain i ni gwestiynu a ddylid ei ystyried yn arwr neu’n ddihiryn. Mae'r ffynonellau hyn yn rhoi cyfle i ddefnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol ac yn cyflwyno'r cysyniad o 'herio hanes'. Gall y gweithgareddau gefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus. Mae cyfleoedd ar gael i ehangu ar y pwnc ac edrych ymhellach ar hanes trefedigaethu, yn enwedig ei effaith ar gymdeithas heddiw.

Cwestiynau posib i'w trafod

  • Sut fyddech chi’n cyflwyno hanes Thomas Picton?
  • Sut gall person fod yn arwr i un, ond yn ddihiryn i berson arall?
  • Ydy’r ffynhonnell yma’n dystiolaeth gwerthfawr wrth lunio neu gefnogi eich dehongliad penodol?
  • Pa wybodaeth arall fyddai'n werthfawr er mwyn dod i gasgliad am gymeriad a gwaddol Thomas Picton?
  • Ydy Thomas Picton yn cael ei bortreadu fel arwr neu ddihiryn yn y paentiad 'Death of Sir Thomas Picton'?

Gweithgareddau a phrofiadau

  • Nodi a thrafod arwyr a dihirod gwahanol.
  • Adnabod y gwahaniaeth rhwng ffaith a barn.
  • Cynnal dadl, gydag achos o blaid ac yn erbyn.

Cysyniadau allweddol

(sydd yn deillio o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig)

Cam Cynnydd 4 neu 5

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Gwrando a deall
  • Darllen geiriau a thestun
  • Casglu a diddwytho
  • Deall safbwyntiau
Dyniaethau
  • Deall y gorffennol
  • Pwysigrwydd cymdeithasol a diwylliannol
  • Deall hawliau dynol

Cymru a’r fasnach gaethweision

Diddymwyd y fasnach gaethweision yn yr ymerodraeth Brydeinig ym 1807, ond roedd caethwasiaeth yn parhau o hyd, ac roedd hi’n dal i fod yn bosib i brynu a gwerthu caethweision mewn amgylchiadau arbennig. Ym mis Hydref 1810, er enghraifft, fe wnaeth yr Uwchfrigadydd Thomas Picton – a oedd yn ymladd ym Mhortiwgal gyda Wellington ar y pryd – gytundeb gydag aelodau teulu Delaforest i drosglwyddo planhigfeydd, adeiladau, offer, caethweision, ceffylau, mulod ac eiddo eraill yn Nhrinidad, a oedd wedi bod yn drefedigaeth Brydeinig ers 1797 (Picton Family Records 19). Roedd Picton, tirfeddianwr cefnog a ddaeth yn A.S. dros Fwrdeistrefi Penfro yn ddiweddarach, yn adnabyddus am ei greulondeb gormesol, yn arbennig tuag at gaethweision, a fe’i cafwyd yn euog o ganiatáu i ferch ifanc o’r enw Luisa Calderón (nad oedd yn gaeth) gael ei harteithio yn Nhrinidad ym 1801, ond apeliodd yn erbyn yr euogfarn ar bwynt technegol a ni chyrhaeddwyd benderfyniad terfynol. Am flynyddoedd maith cofid amdano yn bennaf oherwydd ei ran yn rhyfel Iberia a’i farwolaeth yn Waterloo, a chodwyd cofgolofn iddo yng Nghaerfyrddin. Mae ymgyrch wedi bod yn ddiweddar i’w symud ymaith.

Detholiad o'r blog: Cymru a’r fasnach gaethweision


Achos Louisa Calderon

Mae Thomas Picton bellach yn cael ei gofio’n bennaf am ei orchestion yn ystod Rhyfel y Penrhyn ac am fod y swyddog uchaf ei reng a laddwyd yn Waterloo. Yn wir, roedd ei gerflun ymhlith y 12 cerflun o arwyr Cymreig oedd yn cael eu harddangos yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Fodd bynnag, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn dilyn ei gyfnod fel llywodraethwr Trinidad roedd ganddo ochr llawer tywyllach. 

Bu Picton yn llywodraethwr awdurdodaidd a chreulon yn Nhrinidad ac arweiniodd at ei brawf ym Mainc y Brenin (‘King’s Bench’) yn 1806 wedi’i gyhuddo o orchymyn artaith farnwrol ar Louisa Calderon. Merch mulatto 14 oed oedd Louisa Calderon, wedi’i chyhuddo o fod yn rhan o ddwyn arian oddi ar ddyn busnes o Port of Spain, dyn o’r enw Pedro Ruiz. Methwyd â chael cyffes trwy holi, a chyhoeddodd Picton orchymyn i ‘beri artaith ar Louisa Calderon’. Bu Louisa Calderon yn destun cosb o’r enw ‘picedu’, cosb a alwyd yn ‘Pictoning’ gan William Garrow, yr erlynydd. Ni chyfaddefodd Louisa Calderon a chafodd ei charcharu am 8 mis arall cyn cael ei rhyddhau. Cyfaddefodd Picton iddo orchymyn yr artaith, ond honnodd ei bod yn gyfreithiol o dan gyfraith Sbaen a oedd yn dal i gael ei gweinyddu yn Nhrinidad ar y pryd, er bod yr ynys dan reolaeth Brydeinig. Cafodd y rheithgor ef yn euog, ond ni chafodd Picton ei ddedfrydu a chafodd y penderfyniad ei wyrdroi’n rhannol gan reithfarn arbennig mewn ail achos ym 1808.   

Fel y nodwyd uchod, creodd yr achos deimlad a chyffro ar y pryd a thaflodd oleuni ar realiti creulon system drefedigaethol Prydain ac yn anuniongyrchol ar gaethwasiaeth drefedigaethol. Yn wir, roedd Picton wedi’i gyhuddo’n wreiddiol o nifer o gyhuddiadau eraill, gan gynnwys dienyddio dros ddwsin o gaethweision, er yn amlwg nad oedd y Cyfrin Gyngor yn ystyried y rhain yn ddigon difrifol i fynd â nhw ymhellach. Roedd Picton hefyd wedi bod yn gefnogwr i ddatblygiad planhigfeydd caethweision yn Nhrinidad ac wedi gwneud rhan o'i ffortiwn trwy hapfasnachu mewn caethweision. 

Er gwaethaf enw drwg haeddiannol Picton fel llywodraethwr trefedigaethol creulon ac unbenaethol, buan iawn yr anghofiwyd y cyfan ar ôl Waterloo. Roedd y Newgate Calendar, a oedd wedi protestio ym 1810 bod Picton, cyflawnwr y troseddau hyn, yn dal yn ddyn rhydd, erbyn 1825 yn portreadu Picton fel dioddefwr yr achos.

Detholiad wedi'i gyfieithu o flog: Hidden Histories in the historical Welsh Print Collection: The case of Louisa Calderon


Adnoddau allannol

  • Ail-framio Picton (Amgueddfa Cymru)
  • Angharad Tomos (2020) Y Castell Siwgr. Gwasg Carreg Gwalch. (Nofel i bobl ifanc sy’n trafod hanes Cymru a’r fasnach gaethwasiaeth drawsatlantig. Mae cyfieithiad Saesneg o’r nofel ar gael - Mícheál Ó hAodha (2022) Woven. Gwasg Carreg Gwalch.
  • Williams, Charlotte (2001) Sugar and Slate. Parthian Books.
  • O’Leary, Paul et al. (2015) A Tolerant Nation? Gwasg Prifysgol Cymru.