Hanes Llyfr Gwyn Rhydderch
Copïwyd y Llyfr Gwyn tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg, fwy na thebyg ar gyfer Rhydderch ab Ieuan Llwyd (c. 1325-1400) o Barcrhydderch, plwyf Llangeitho, Ceredigion, aelod o deulu â thraddodiad hir o noddi llenyddiaeth. Daliai Rhydderch swyddi dan Goron Lloegr ond yr oedd hefyd yn awdurdod ar Gyfraith Hywel. Credir heddiw mai pump o gopïwyr a luniodd y llawysgrif, a hynny fwy na thebyg ym mynachlog Ystrad Fflur, nid nepell o gartref Rhydderch. Mae'n bosibl mai ef oedd perchennog cyntaf Llawysgrif Hendregadredd yn ogystal.
Gellir casglu mai cyfeirio at liw ei rhwymiad cynnar y mae enw'r gyfrol, ac at ei pherchennog cyntaf. Yn ei chyflwr gwreiddiol buasai'r llawysgrif yn fwy o faint ac felly'n fwy urddasol, ond tociwyd ymylon y dail wrth ailrwymo yn y cyfnod modern cynnar, gan effeithio ar olwg y tudalennau.
Ar ôl marwolaeth Rhydderch, fe arhosodd y llawysgrif ym meddiant y teulu, mae'n debyg, tan tua chanol y bymthegfed ganrif. Erbyn hynny, roedd y Llyfr Gwyn yn Rhiwedog, ger y Bala. Roedd hynafiaethwyr ac ysgolheigion gogledd-ddwyrain Cymru yn ymwybodol o'i bwysigrwydd, fel y dengys adysgrifau a wnaethant o rannau ohono: Rhisiart Langfford o Drefalun, yn 1573, Roger Morris (fl. 1580-1607) o Goedytalwrn, Syr Thomas Wiliems, tua 1594, a Jasper Gryffyth (m. 1614). Erbyn tua 1634 yr oedd y llawysgrif yn nwylo'r hynafiaethydd a chopïydd enwog o Sir y Fflint, John Jones, Gellilyfdy.
Rhywbryd ar ôl 1634 fe wnaeth yr arloeswr o eiriadurwr Dr John Davies, Mallwyd, restr o'r cynnwys, sy'n dangos bod nifer o'i dail eisoes wedi eu colli. Pan fu John Jones farw, tua 1658, fe ddaeth y llawysgrif, oedd eisoes wedi ei rhannu'n ddwy gyfrol, i feddiant Robert Vaughan ac yn rhan o'i lyfrgell enwog ef yn Hengwrt, Meirionnydd. Ym 1859 trosglwyddwyd casgliad Hengwrt, gan gynnwys Llyfr Gwyn Rhydderch, i W. W. E. Wynne, Peniarth. Fe'i prynwyd ym 1904 gan Syr John Williams, a'i gyflwyno i'r Llyfrgell Genedlaethol yn sylfaen i'r casgliad cenedlaethol. Ym 1940 fe ailrwymwyd y Llyfr Gwyn mewn croen gafr gan Carl Hanson, pennaeth y gweithdy rhwymo.