Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fydd mynediad at ein gwefannau am gyfnodau heno (11 Rhagfyr 2024) oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
16 Tachwedd 2024 - 06 Medi 2025
Oriel Gregynog a’r anecs
Mae’r hanesydd celf Peter Lord wedi bod yn archwilio’r myth bod 'dim celf Gymreig' am ddegawdau, ac wedi casglu casgliad helaeth o gelf Cymreig, gyda nifer ohonynt erioed wedi’u dangos yn gyhoeddus o’r blaen. Mae’r arddangosfa'n gyfle prin i fwynhau a gwerthfawrogi dros 250 o weithiau celf, gyda naratif ganolog yn rhedeg trwyddi. Gan ddechrau gyda byd gweledol y bonedd, y dosbarth canol a phobl gyffredin Cymru a symud ymlaen wedyn at bortreadau gwahanol o hunaniaethau Cymreig. Trwy hyn, mae’n datgelu stori am am gyfoeth diwylliant gweledol Cymru yn ogystal â hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru.
Mae'r arddangosfa ar y llawr uchaf gyda mynediad lifft. Os oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol gennych, cysylltwch â'r Llyfrgell ymlaen llaw. Mae taith sain ar gael, sy'n cynnwys disgrifiadau sain ar gyfer rhai eitemau yn yr arddangosfa.
Mae llyfrynnau print bras ar gael wrth fynedfa'r oriel.
Mae'r Llyfrgell yn caniatau tynnu lluniau, heb fflach, at ddefnydd personol, anfasnachol, ond peidiwch â defnyddio trybeddau, ffotograffiaeth fflach na ffyn hunlun. Cyfrifoldeb yr ymwelydd yw sicrhau nad yw'n torri unrhyw ddeddfau hawlfraint
Mae llyfryn gweithgaredd ‘Edrych ar Gelf Cymreig’, sy’n addas ar gyfer plant 7-11 oed, ar gael wrth fynedfa’r oriel.
Ni chaniateir bwyd a diod yn ardaloedd arddangos y Llyfrgell