Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Dyma gyfle i chi weld mwy o'r eitemau sy'n cael eu cadw yng nghasgliadau'r Llyfrgell. Bob tymor, mae ein curaduron yn dewis gwrthrychau, llyfrau, ffotograffau ac eitemau eraill i adrodd straeon am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys cymysgedd o eitemau newydd ac eitemau o'r casgliadau, gan roi cyfle i chi weld a darganfod mwy o'r hyn sy'n cael ei gadw yma fel cof cenedl.
Yn yr arddangosfa gyfredol, mae Beth sy'n Newydd? yn cyflwyno rhai o'r ychwanegiadau diweddaraf i gasgliadau'r Llyfrgell, tra bod 1926: 100 Mlynedd yn Ôl yn edrych ar fywyd yng Nghymru ganrif yn ôl drwy eitemau gwreiddiol o'r casgliadau.