Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: Peniarth MS 105B


Hanes Beunans Meriasek

W. W. E. Wynne, Peniarth, Merionnydd, a ddaeth o hyd iddi ymhlith cyfrolau eraill o lyfrgell Hengwrt ar ôl i'r llyfrgell honno ddod i'w feddiant trwy gymynrodd ym 1859. Wedi ymgynghori â'r Parch. Robert Williams, Rhydycroesau, a gyhoeddasai'r geiriadur mawr Cernyweg cyntaf, estynnodd Wynne wahoddiad i'r ysgolhaig Celtaidd Whitley Stokes i olygu'r testun, a gyhoeddwyd ym 1872. Cyfeiriodd Robert Vaughan, Hengwrt (c. 1592-1667) at y llawysgrif hon (os, yn wir, mai hon yw hi) tua 1659 yn ei gatalog ei hun o'i lyfrgell, ond heb fanylu (llsgr. NLW 9095B, t. 83). Fe'i gwelwyd hefyd gan Edward Lhuyd, ond ni chafodd amser i'w hastudio.

Cynnwys y Beunans Meriasek

Ordinale de sancti Mereadoci episcopi et confessoris yw'r teitl Lladin ar ddechrau'r gyfrol, ond digwydd Beunans Meriasek hefyd yn y gyfrol. Gŵr o dras Lydewig oedd Sant Meriasek ac yn y ddrama cyflwynir hanes ei yrfa o'i addysg gynnar yn Llydaw a'i daith i Gernyw, gan adrodd y gwyrthiau a gyflawnwyd ganddo, nes iddo ddychwelyd i Lydaw a chael ei urddo'n esgob Gwened; yn y diwedd clywn sut y bu farw yn siampl o Gristion. Ymgorfforir yn yr hanes nifer o chwedlau unigol, yn eu plith rhai yn ymwneud â digwyddiadau o fuchedd San Silfestr, a gwyrth a gyflawnwyd trwy ymyriad y Forwyn Fair.

Drama mewn dwy ran yw hon, a berfformiwyd dros ddau ddiwrnod. Mae'r testun ar fydr ac odl, ac wedi ei rannu'n benillion. Mewn Lladin a Chernyweg y mae'r cyfarwyddiadau llwyfan, gydag ychwanegiadau iddynt yn Saesneg. Dengys diagramau (ff. 51v, 92v) sut i gynllunio'r llwyfan ar gyfer perfformiad y ddau ddiwrnod fel ei gilydd. Dwy law a welir yn y llawygrif, yr un gyntaf dim ond wedi ailgopïo ff. 2-6v yn unig. Ar f. 92r gadawodd y prif gopïydd y dyddiad 1504 yn ogystal â'i lofnod: cynigiodd ysgolheigion y darlleniadau Had neu Nad neu Rad[ulphus] Ton[ne]. Mae'n bosibl mai i ail hanner y bymthegfed ganrif y perthyn y ddrama yn ei ffurf bresennol. Ychydig iawn a wyddom am hanes cynnar y llawysgrif, ond mae cysylltiad y ddrama â Camborne, lle yr anrhydeddir Meriasek yn arbennig, yn eithaf sicr. Serch hynny, credir mai yng nghlas-eglwys Glasney, Penryn, y'i rhoddwyd ar glawr, efallai dan nawdd Meistr John Nans, profost Glasney, a symudodd i Camborne yn ddiweddarach ac a fu farw ym 1508.


Darllen pellach

  • Whitley Stokes, Beunans Meriasek: The Life of St Meriasek, Bishop and Confessor: A Cornish Drama (Llundain & Berlin, 1872)
  • Myrna Combellack, 'A Critical Edition of Beunans Meriasek' (traethawd PhD, Prifysgol Caer Wysg, 1985)
  • Myrna Combellack, The Camborne Play (Redruth, 1988) (cyfieithiad mydryddol)
  • Brian Murdoch, Cornish Literature (Caergrawnt, 1993), yn enwedig tt. 99-126
  • W. Ll. Davies, Cornish Manuscripts in the National Library of Wales (Aberystwyth, 1939).