Hanes Llyfr Du Basing
Ni wyddys ddim o hanes y llawysgrif yn y cyfnod yn dilyn diddymu'r fynachlog ym 1536, ond erbyn tua 1630, pryd y lluniodd Robert Vaughan ddau nodyn yn y llawysgrif (tt. 300 a 308), yr oedd hi'n eiddo Huw Lewys Dafydd o Lanasa yn sir y Fflint, yn ôl tystiolaeth nodyn arall gan Vaughan yn NLW MS 5262A (ff. 27v, 66v).
Copïwyd Llyfr Du Basing gan John Jones (c. 1585-1657/8), Gellilyfdy, i lawysgrif Peniarth 264 tra y bu yng Ngharchar y Fflyd, Llundain, ym 1635-6, ac ef, fwy na thebyg, a oedd yn gyfrifol am dudalennu'r gyfrol. Erbyn 1663 yr oedd y llawysgrif ym meddiant Thomas Jones, Cricin, Rhuddlan, sydd wedi nodi ei ach ar dudalen iv, ond yn 1686 fe dorrodd Foulke Owen, Nantglyn, sir Ddinbych, ei enw arni (tt. iii, iv), cyn gadael y gyfrol yn gymynrodd i'w nai, Foulke Jones, y gwelir ei enw yntau a'r dyddiad 1692 ar dudalen iii. Erbyn tua 1700 fe'i cawn yn eiddo i'r hynafiaethydd John Griffith (1678-1763), Cae Cyriog ger Wrecsam, ac ychwanegodd ef nifer o nodiadau yn y gyfrol. Arhosodd y llawysgrif yn eiddo i'r teulu hwn nes i un o'i ddisgynyddion, Montague C. Ll. Griffith, Cae Cyriog ei chyflwyno ar adnau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru; fe'i prynwyd yn dilyn ei farwolaeth ef ym 1933.