Symud i'r prif gynnwys

Cynnwys ac addurniadau yn Llyfr Offeren Easton

Cafodd ei gynhyrchu yn wreiddiol mewn gweithdy yn Llundain, yn ol pob tebyg, ar gyfer eglwys Great Easton yn Essex; mae’r Calendr yn cynnwys nodyn yn cysegru’r Llyfr i’r eglwys honno ('Dedicacio ecclesie sancti Egidii de Eyston. ad montem') ynghyd â thystiolaeth ei fod yn dal yno yn 1508.

Fel y gwelir yn aml mewn llyfrau eglwysig o’r cyfnod hwn, mae cyfeiriadau at y pab, purdan a Sant Tomos o Gaint wedi’u dileu ohono - arwyddion o’r newid a ddaeth gyda’r Diwygiad Protestannaidd a’r ymrannu oddi wrth yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Yn ddiddorol, mae ynddo hefyd fersiynau Saesneg o anerchiad yr offeiriad i gyplau a oedd yn priodi, a rheini wedi’i hychwanegu ar ddiwedd y 15fed ganrif neu ddechrau’r 16eg ganrif.

Mae Llyfr Offeren yn cynnwys addurniadau prydferth a thrawiadol. Mae ymylon tudalennau wedi’u harddurno â darluniau o ddail acanthws, blodau arymaidd, ynghyd â blodau eraill a dail, mewn aur a glas, pinc, gwyrdd a brown cochlyd.

Hanes y llawysgrif

Cyflwynodd y Parchg W. H. Maskell y theori mai’r Llyfr Offeren oedd yr unig litwrgi i oroesi o ‘arfer Bangor’, gan arwain at y llawysgrif yn cael ei adnabod fel ‘Llyfr Offeren Bangor’, ond nid yw hyn wedi’i brofi gan awdurdodau mwy diweddar ar astudiaethau litwrgaidd. Mae arysgrif ar ddiwedd y Calendr yn y Llyfr Offeren yn nodi bod y llawysgrif wedi’i chyflwyno i eglwys plwyf Croesoswallt (a oedd yn Esgobaeth Llanelwy bryd hynny) yn 1554 gan Syr Morys Griffith, a oedd yn offeiriad yn Great Easton ar y pryd. Mae ei berchnogion diweddarach yn cynnwys  James Brydges, Dug Chandos (ob. 1744); Thomas Martin (a’i gwerthodd yn 1772); William Maskell (cyn 1844); Henry Huth (1815-78), ac yna ei fab, Alfred Henry Huth (1850-1910); John Meade Falkner (1858-1932); ac yna ei werthu ar 13 Rhagfyr 1932 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cafodd y Llyfr Offeren ei brynu, a’i ddigido yn ddiweddarach, gyda chymorth ariannol Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol.

Darllen pellach