Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 5016D

Disgrifiad o'r llawysgrif

Mae rhwymiad presennol y llawysgrif a’i chloriau gludfwrdd yn dyddio o’r 16eg ganrif, ac er nad hwn yw’r rhwymiad gwreiddiol, mae mewn cyflwr da. Ceir yn y llawysgrif 150 ffolio ar groen memrwn o safon uchel a gosodir y testun, mewn inc brown, mewn dwy golofn. Yn ogystal, gwelir nifer o fân-ddarluniau a goreuro priflythrennau prydferth trwy gydol y testun. Gwelir y rhan fwyaf o’r mân-ddarluniau yn rhan gyntaf Roman de la rose (ff. 3-26v) a dim ond pum darlun sydd ym mharhad y testun gan Jean de Meun (rhwng ff. 28-130). Ceir mân-ddarlun ychwanegol mewn gwaith arall gan de Meun, sef Le Testament, sydd wedi’i rwymo yng nghefn y llawysgrif hon (ff. 138-149). Ar ddechrau’r gwaith hwn gwelir darlun o’r Drindod ar gefndir glas gydag addurniadau aur, coch a gwyn.

Francis William Bourdillon

Mae’r llawysgrif hon yn rhan o gasgliad Francis William Bourdillon (1852-1921), ysgolhaig a chasglwr llyfrau brwd o Buddington yn Sussex. Prif ddiddordeb Bourdillon oedd llenyddiaeth Ffrangeg ac yn benodol rhamantau Ffrengig er bod gweithiau llenyddol Saesneg hefyd i’w cael yn ei gasgliad. Wedi ei farwolaeth, prynwyd y rhan fwyaf o’i lyfrgell bersonol yn 1922 gan y Llyfrgell Genedlaethol. Cynhwysa’r casgliad dros chwe mil o eitemau, ac yn eu plith ceir 40 o lawysgrifau canoloesol, llawysgrifau yn ymwneud â Sussex, llyfrau nodiadau personol a mwy nag un copi o’r llawysgrif Ffrangeg gynnar, Roman de la rose.  Dangosodd Bourdillon ddiddordeb arbennig yn y testun hwn ac ymroddodd i gasglu sawl copi. Ceir 7 copi yn ei gasgliad yn dyddio o’r 14eg a’r 15fed ganrif (llawysgrifau NLW 5011-5017).

Nid oedd gan Bourdillon, casglwr y llawysgrif, gysylltiad amlwg â Chymru, ond mae tystiolaeth yn dangos fod copi o Roman de la rose yn eiddo i Lywelyn Bren o Forgannwg yn 1317. Mae dylanwad y rhamant Ffrengig hon hefyd i’w gweld ym marddoniaeth Dafydd ap Gwilym a hefyd yng ngweithiau Geoffrey Chaucer, a gyfieithodd ran o’r testun i Saesneg Canol.


Digido’r llawysgrif

Penderfynwyd digido’r llawysgrif hon oherwydd ei bod yn enghraifft gynnar iawn o un o’r rhamantau ‘mwyaf dylanwadol a gyfansoddwyd yn Ffrainc yn ystod yr Oesoedd Canol’ yng ngeiriau Ceridwen Lloyd-Morgan (Cyfaill y Llyfrgell, Gaeaf 2002). Mae’r llawysgrif hon hefyd yn haeddu sylw oherwydd safon uchel iawn y darluniau coeth a’r prif lythrennau sydd i’w gweld drwyddi draw. Mae’n gynrychiolydd da o gasgliad enfawr a hynod werthfawr Bourdillon.


Darllen pellach

  • Blamires, A. a Holian, G., The Romance of the Rose Illuminated. Manuscripts at the National Library of Wales, Aberystwyth (Cardiff: University of Wales Press, 2002)
  • Horgan, Frances, The Romance of the Rose: A new translation (Oxford: Oxford University Press, 1999)

Adolygiadau

  • Johnston, Dafydd, ‘The Romance of the Rose Illuminated’, Studia Celtica, 37 (2003), 278
  • Lloyd-Morgan, Ceridwen, ‘The Romance of the Rose Illuminated: Manuscripts at the National Library of Wales’, Cyfaill y Llyfrgell, (Gaeaf 2002), 13-15