Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 6680B

Cynnwys Llawysgrif Hendregadredd

Dyma'r casgliad hynaf o waith y Gogynfeirdd, y beirdd a fu'n canu o ddechrau'r ddeuddegfed ganrif tan y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yr unig ffynhonnell bwysig arall ar gyfer eu gwaith yw Llyfr Coch Hergest (llsgr. Coleg yr Iesu, 111, yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen).

Hanes Llawysgrif Hendregadredd

Yn abaty Sistersaidd Ystrad Fflur, Ceredigion, mae'n debyg, y copïwyd Llawysgrif Hendregadredd. Dechreuodd y prif gopïydd, a oedd hefyd efallai wedi cynllunio cynnwys y gyfrol, ar ei waith rywbryd ar ôl 1282. Ond gellir dirnad dwy haen ddiweddarach o gopïo, gan bron i ddeugain o ddwylo eraill, a'u gwaith yn ymestyn i ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Tua 1330 fe ychwanegwyd nifer o gerddi gan feirdd cyfoes, gan gynnwys, ar f. 121r, un gerdd sydd o bosibl yn llaw Dafydd ap Gwilym, yr enwocaf o feirdd y cyfnod. Roedd ganddo gysylltiad agos ag Ystrad Fflur ac yno, yn ôl traddodiad, y claddwyd ef.

Erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg roedd y llawysgrif hon ym Morgannwg, yn nwylo'r casglwr adnabyddus Gruffydd Dwnn. Yn ddiweddarach bu ym meddiant dau o feirdd gogledd Cymru, yn gyntaf Wiliam Llŷn ac yn ddiweddarach Rhys Cain, cyn cyrraedd llyfrgell enwog yr ysgolhaig nodedig Robert Vaughan (c. 1592-1667) yn Hengwrt, Meirionnydd. Ym 1617 fe'i copïwyd gan Dr John Davies Mallwyd, a'i adysgrif ef a ddefnyddiwyd gan olygyddion y Myvyrian Archaeology of Wales (1801-7). Ni fu sôn amdani ar ôl blynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg nes iddi ddod i'r golwg mewn cwpwrdd dillad yn Hendregadredd, plasty ger Cricieth yn yr ugeinfed ganrif.

Prynwyd y llawysgrif gan y chwiorydd Davies, Gregynog, mewn arwerthiant ym 1923, a'i chyflwyno'n rhodd i'r Llyfrgell Genedlaethol, lle y cafodd y rhif NLW MS 6680B.

Gwybodaeth bellach am Lawysgrif Hendregadredd

Ceir disgrifiad manwl a chyfeiriadau pellach yn Daniel Huws, Medieval Welsh Manuscripts (Caerdydd ac Aberystwyth, 2000), tt. 193-226.