Gwybodaeth bellach
Ceir disgrifiad manwl a chyfeiriadau pellach yn Marged Haycock, 'Llyfr Taliesin', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 25 (1987-8), 357-86.
Cyfeirnod: Peniarth MS 2
Un o lawysgrifau enwocaf Cymru yw Llyfr Taliesin (llsgr. Peniarth 2), a gopïwyd yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Nid teitl gwreiddiol yw 'Llyfr Taliesin' ond fel hyn y cyfeirir at y llawysgrif erbyn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae'r gyfrol yn cynnwys casgliad o rai o'r cerddi hynaf yn yr iaith Gymraeg, nifer ohonynt wedi eu priodoli i'r bardd Taliesin a oedd yn canu tua diwedd y chweched ganrif ac a ganai gerddi mawl i Urien Rheged a'i fab Owain ab Urien. Mae cerddi eraill yn adlewyrchu'r math o ddysg a gysylltid â'r bardd arbennig hwn, rhai elfennau'n tarddu o destunau Lladin ac eraill o'r traddodiad brodorol. Yn y llawysgrif hon y cedwir cerddi enwog megis 'Armes Prydein Fawr', 'Preiddeu Annwfn' (sy'n sôn am daith Arthur a'i filwyr dros y môr i gyrchu gwaywffon a phair), a marwnadau i Gunedda a Dylan eil Ton, yn ogystal â'r cyfeiriadau cynharaf mewn unrhyw iaith frodorol, orllewinol, at gampau Ercwlff ac Alecsandr. Yn anffodus, mae'r gyfrol yn anghyflawn, oherwydd colli nifer o ddail, gan gynnwys y ddalen gyntaf.
Mae yna le i gredu mai ym Morgannwg y copïwyd Llyfr Taliesin, ac mae'r un llaw a fu'n gyfrifol am y gwaith i'w gweld mewn pedair llawysgrif arall sydd â chysylltiadau â'r de-ddwyrain. Erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, roedd Llyfr Taliesin wedi cyrraedd Sir Faesyfed, lle y bu ym meddiant Hugh Myles o Evenjobb cyn dod i ddwylo ei gefnder, John Lewis o Lynwene. Cafodd Dr John Davies, Mallwyd, gyfle i'w chopïo rhwng 1631 a 1634, ac roedd hi yn llyfrgell enwog Robert Vaughan (c. 1592-1667), yn Hengwrt, Meirionnydd erbyn 1655 fan bellaf. Arhosodd y gyfrol yn Hengwrt tan 1859, pryd y daeth y llawysgrifau trwy gymynrodd yn eiddo i W. W. E. Wynne o Beniarth. Prynwyd casgliad Peniarth ym 1904 gan Syr John Williams a phum mlynedd yn ddiweddarach cyflwynodd yntau lawysgrifau Peniarth a Hengwrt, gan gynnwys Llyfr Taliesin, yn rhodd i'r Llyfrgell Genedlaethol a oedd newydd ei sefydlu.
Ceir disgrifiad manwl a chyfeiriadau pellach yn Marged Haycock, 'Llyfr Taliesin', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 25 (1987-8), 357-86.