Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: Peniarth MS 109

Lewys Glyn Cothi (fl. 1447-89)

Roedd Lewys Glyn Cothi yn un o Feirdd yr Uchelwyr a'i farddoniaeth yw'r unig ffynhonnell o wybodaeth amdano. Nid yw ei ddyddiad geni yn hysbys, ond ei waith cynharaf yw ei farwnad i Syr Gruffudd Fychan o Gegidfa, a ddienyddwyd yn 1447. Llywelyn, neu Llewelyn, oedd ffurf lawn ei enw, ond defnyddiodd amrywiaethau o'r enw 'Lewys (neu Lewis) Glyn Cothi' hefyd, yn ogystal â 'Llywelyn y Glyn'. Credir iddo gymryd ei enw barddol oddi wrth enw coedwig frenhinol Glyn Cothi, plwyf Llanybydder, ac mai Pwllcynbyd, un o 4 rhandir y goedwig honno, oedd ei gartref.

Yn wahanol i waith beirdd eraill o'r 15fed ganrif sydd wedi goroesi, mae'r mwyafrif o gerddi Lewys yn ei law ef ei hun. Ymddengys mai ef oedd y bardd cyntaf i gadw copïau o'i waith a'u trefnu mewn casgliadau. Priodolir tua 230 o gerddi iddo, gyda 76 ohonynt yn awdlau,  sy'n llawer mwy nag sydd wedi goroesi gan unrhyw fardd arall o'i gyfnod. Ysgrifennodd rai colofnau yn ‘Llyfr Coch Hergest’, a chredir ei fod wedi ysgrifennu'r rhan fwyaf o ‘Lyfr Gwyn Hergest’ a gollwyd mewn tân tua 1810.

Yn ogystal â barddoniaeth, ymddiddorai Lewys mewn achau a herodraeth hefyd, ac addurnodd nifer o’i lawysgrifau gyda darluniau o arfbeisiau teuluoedd uchelwrol. I ennill bywoliaeth, roedd Lewys yn ddibynnol ar uchelwyr am nawdd, ac un o'i noddwyr pennaf oedd Gruffudd ap Nicolas (fl. 1425-1456), fu’n Siryf Caerfyrddin yn 1436. Roedd Lewys yn fyw adeg Rhyfeloedd y Rhosynnau, ac efallai oherwydd ei gysylltiad â Gruffudd ap Nicolas, pleidiodd Lewys blaid y Lancastriaid, ond daliodd ati i ganu i uchelwyr a bleidiai i blaid Iorc. Yn ôl ei swm o gywyddau ac awdlau bu Lewys yn canu'n helaeth i fonedd siroedd Caerfyrddin, Aberteifi, a Maesyfed.

Ni wyddom lawer am fywyd teuluol Lewys Glyn Cothi, er y dywedir iddo briodi gwraig weddw o Gaer. Bu iddo fab, Siôn, a fu farw yn 5 mlwydd oed, ac mae gan Lewys farwnad enwog a theimladwy iddo, sef 'Marwnad Siôn o'r Glyn'. Ni ellir dyddio dim o'i waith wedi 1489, a chredir iddo farw cyn 1490. Yn ôl traddodiad claddwyd ef yn Abergwili.

Cynnwys y Llawysgrif

Mae'r gyfrol yn cynnwys 106 o gerddi a ysgrifennwyd gan Lewys Glyn Cothi yn ail hanner y 1470au, yn ogystal ag un gerdd gan y bardd Hywel Cilan. Mae rhai o'r cerddi'n anorffenedig, ac eraill wedi eu cwblhau yn ddiweddarach. Ceir un golofn o ysgrifen ar bob tudalen ac mae yna amryw ddarluniau o arfbeisiau teuluoedd uchelwrol Cymru, rhai ohonynt mewn lliw ac eraill yn anorffenedig. Credir fod Lewys wedi llunio'r casgliad hwn er anrhydedd i'r Arglwydd William Herbert (bu f. 1469) gan iddo gychwyn y gyfrol gydag awdl ar ei gyfer ef, ac un arall ar gyfer ei frawd, Rhisiart.


Darllen pellach

  • H. Meurig Evans "Lewys Glyn Cothi (c.1425-c.1489)" yn Y Traethodydd, 157 (2002), tt. 15-37
  • A. O. H. Jarman & Gwilym Rees Hughes (Gol.), A guide to Welsh literature, Cyfrol. 2, 1282 – c.1550 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997)
  • Dafydd Johnston, ‘Lewys Glyn Cothi (fl. 1447–1489)’, Oxford Dictionary of National Biography (Oxford:  Oxford University Press, 2004) [gwelwyd 18 Chwef. 2014]
  • Dafydd Johnston (Gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)
  • Dafydd Johnston, 'Lewys Glyn Cothi: bardd y gwragedd', yn Taliesin, 74 (1991) tt. 68-77
  • Dafydd Johnston, 'Lewys Glyn Cothi, clerwr Dyffryn Tywi', yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 3 (1996) tt. 9-20.
  • E. D. Jones (Gol.), Lewys Glyn Cothi (Detholiad), (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1984)
  • E. D. Jones, 'LEWIS GLYN COTHI neu LLYWELYN Y GLYN (fl. 1447-86)', Y Bywgraffiadur Ar-lein [gwelwyd 18 Chwef. 2014]