Symud i'r prif gynnwys

Crëwyd gyda chaniatâd caredig Archives Nationales, Paris

 

Cafodd y llythyr ei gyfansoddi yn ystod synod yr Eglwys Gymreig ym Mhennal ym 1406. Mae’n rhoi cipolwg inni o uchelgais Glyndŵr a’i weledigaeth ar gyfer Cymru newydd a hunanymreolus, gyda’i heglwys annibynnol ei hun a dwy brifysgol.

Cyflwynodd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones gopïau o Lythyr Pennal i chwe sefydliad Cymreig yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2009.

Mae’r llythyr gwreiddiol yn yr Archives Nationales ym Mharis ac fe baratowyd y copïau gan staff y Llyfrgell Genedlaethol. Maent yn gopiau cywir o’r gwreiddiol ac wedi eu creu ar femrwn gan ddefnyddio technegau heneiddio arbenigol. Mae sêl Glyndŵr wedi’i hailgreu o fowldiau o’r gwreiddiol.

Y tro diwethaf y gwelwyd y Llythyr Pennal gwreiddiol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, oedd yn y flwyddyn 2000 ar gyfer Arddangosfa Owain Glyndŵr.