Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: Peniarth MS 481D

Cynnwys

Ysgrifennwyd rhan gyntaf y llawysgrif gan Sais, a’i darlunio gan grefftwr o Fflandrys. Mae ynddi ddau destun, sef:

  • Cynghorion a diarhebion a ffurfiai werslyfr Lladin poblogaidd o’r enw Disticha Catonis (‘Cwpledi Cato’), gydag ychwanegiadau o aralleiriad Benedict Burgh mewn penillion rheiol Saesneg Canol (ff. 1-27);
  • Testun Lladin yr Historia de preliis Alexandri Magni (‘Hanes Brwydrau Alecsander’, fersiwn J1), yn seiliedig ar gyfieithiad Lladin Leo o Napoli, a luniwyd yn y 12fed ganrif, o destun Groeg (ff. 30-98).

Ysgrifennwyd ac addurnwyd ail ran y llawysgrif yng Nghwlen (ff. 99-167). Ceir ynddi destun yr Historia trium Regum (‘Hanes y Tri Brenin’), a ysgrifennwyd gan John o Hildesheim yn y 14eg ganrif, ac sy’n esbonio presenoldeb creiriau Tri Gŵr Doeth Efengyl Mathew yn ninas Cwlen yn yr Almaen.

Rhwymiad

Dyma un o’r ychydig lawysgrifau canoloesol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd yn ei rhwymiad gwreiddiol. Fe’i rhwymwyd mewn cloriau pren wedi eu gorchuddio â melfed rhuddgoch, ac mae ar y cloriau hefyd foglymau efydd, gorchuddion i’r corneli, a phinnau a bachau ar gyfer careiau. Yn ôl pob tebyg, cafodd y llawysgrif ei rhwymo yn Lloegr yn niwedd y 15fed ganrif.


Hanes y llawysgrif

Erys peth dirgelwch ynglŷn â hanes cynnar y llawysgrif. Bu’n eiddo i Syr John Cutts o Childerly, swydd Gaergrawnt (bu f. 1615) a’i gyfoeswr Thomas Gawdy o Snitterton, swydd Norfolk. Wedi hynny, mae’n bosibl iddi fod yn llyfrgell Syr Kenelm Digby (1603-1665), y bu i’w wyres briodi Richard Mostyn (1658-1735) o Benbedw, sir Fflint. Dengys y llyfrblat sydd ynddi fod y llawysgrif ym Mhenbedw ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac fe’i trosglwyddwyd wedyn yn sgil priodas i blasty Peniarth, Meirionnydd. Cafodd ei heithrio o werthiant llawysgrifau Peniarth i Syr John Williams ym 1904, ond fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan Miss Gwendoline a Miss Margaret Davies o Regynog, a’i cyflwynodd yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1921.


Darllen pellach

  • W.Ll. Davies, ‘Disticha Catonis’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf.2, rh.1, Haf 1941, 38
  • D.J.A. Ross, Alexander Historiatus: A Guide to Medieval Illustrated Alexander Literature (Llundain, 1963)
  • R. Telfryn Pritchard, The History of Alexander’s Battles: Historia de preliis – the J1 version (Toronto, 1992)