Hanes Llyfr Offeren Sherbrooke
Roedd y llawysgrif yn perthyn i lyfrgell teulu Sherbrooke yn Oxton, swydd Nottingham o'r 16eg ganrif hyd at y 19eg ganrif, a dyna sut y cafodd ei henw. Oddi yno daeth i fod yn rhan o lyfrgell y cynllunydd, awdur a sosialydd William Morris (1834-1896). Yn Rhagfyr 1898 gwerthwyd y llawysgrif, ynghyd â dros fil o eitemau eraill o gartref Morris ym Mhlasty Kelmscott, Swydd Gaerloyw, mewn arwerthiant gan Sotheby’s. Prynwyd y llawysgrif gan Henry Yates Thompson (1838-1928), casglwr llawysgrifau mwyaf ei genhedlaeth o bosibl, a bu'n rhan o'i gasgliad ef hyd nes ei werthu gan Sotheby's ym Mawrth 1920. Fe'i prynwyd gan Miss Gwendoline E. Davies (1882-1951), dyngarwraig a noddwraig amlwg y celfyddydau yng Nghymru. Daeth hi'n enwog, ynghyd â'i chwaer Miss Margaret S. Davies (1884-1963), am hybu’r celfyddydau o’u cartref ym mhlasty Gregynog, ger y Drenewydd. Cyflwynodd Margaret Davies y llawysgrif i’r Llyfrgell Genedlaethol ym 1951.