Yn nwylo’r hynafiaethwyr
Erbyn ail hanner yr 17eg ganrif, roedd y llawysgrif ym meddiant yr hynafiaethydd William Philips o Aberhonddu (f. 101v), fu farw yn 1686, ac fe’i hetifeddwyd gan ei fab o’r un enw. Ef a’i dangosodd i Edward Lhuyd (1659/60?–1709), a’i dalennodd, ac a ysgrifennodd ychydig nodiadau ynddi (ff. 2v a 6v). Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ystod y 1720au, copïwyd y llawysgrif ar ran Moses Williams (1685–1742), a’r copi hwnnw bellach yw LlGC, Llanstephan MS 75. Bryd hynny, ymddengys mai dwy ddalen yn unig oedd yn eisiau o’r llawysgrif, ac roedd testun y dail yn gyflawn. Diflannodd y gyfrol wedi hynny, cyn ail-ymddangos yn llyfrgell Cymdeithas Hanes Massachusetts yn ninas Boston erbyn 1831. Ni wyddom sut y bu iddi groesi’r Iwerydd, ond gellir dyfalu iddi gael ei chludo gan ymfudwyr.