Y llawysgrif
Ysgrifennwyd y llawysgrif ar femrwn gan un ysgrifydd cyn diwedd y 15fed ganrif, a hynny, yn ôl pob tebyg, yng Ngogledd Cymru. Awgryma presenoldeb y delweddau i’r gyfrol gael ei chreu ar gyfer noddwr lleyg, ond collwyd tystiolaeth werthfawr yr ysgrifydd am amgylchiadau’r ysgrifennu o dan haen drwchus o fustl ar f. 106v. Ychwanegwyd nodiadau ac enwau ar ymylon nifer o’r dail yn ystod y 16eg ganrif, cyn i’r llawysgrif ddod yn rhan o gasgliad Robert Vaughan yn Hengwrt, sir Feirionnydd. Mae’n bosibl mai yn Hengwrt, yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, y cnowyd ymylon allanol uchaf y dail gan lygod. Rhwymwyd y llawysgrif o’r newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif.