Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW Llyfr Aneirin, Cardiff MS 2.81

Cyfrol gymharol fechan o 38 tudalen ydyw, yn dyddio o’r Oesau Canol, ac yn cynnwys efallai destun cynharaf ein llenyddiaeth Gymraeg. Yn hanesyddol, gall dystio i gyfnod pan oedd siaradwyr y Gymraeg yn byw y tu hwnt i ffiniau presennol Cymru, a hynny yn ystod y cyfnod ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid.

Y llawysgrif

Ysgrifennwyd y gyfrol femrwn hon, sydd erbyn hyn yn anghyflawn, yng Nghymru, a hynny tua 1250-1300. Ar y pryd, ysgrifennid llawysgrifau Cymraeg mewn mynachlogydd, a mynaich yn ôl pob tebyg a luniodd y gwaith hwn. Roedd un yn copïo testun hynafol a luniwyd rhwng diwedd yr wythfed ganrif a’r unfed ganrif ar ddeg, a’r ail yn copïo fersiwn diweddarach, gan ychwanegu dwy gerdd at y gwaith. Gellir gweld llawysgrifen y mynach cyntaf mewn dwy lawysgrif arall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef llawysgrifau Peniarth 14 a 17. Ychydig iawn o addurn sydd yn y gyfrol, a chyfyngwyd hwnnw i briflythrennau coch a gwyrddlas.

Beth gopïwyd gan y mynaich?

Mae’n bosibl mai ym mynachlog Sistersaidd Aberconwy, yng Ngogledd Cymru y lluniwyd y gyfrol hon. Ysgrifennai’r mynaich yn ystod blynyddoedd olaf y Gymru annibynnol, mewn cyfnod o frwydro parhaus. Yn addas iawn, troesant eu golygon tuag at gerdd hir, neu gyfres o benillion, a luniwyd yn wreiddiol i gofio ymgais arwrol milwyr y Gododdin wrth iddynt geisio ail afael yn safle strategol Catraeth (?Catterick, swydd Efrog), tua’r flwyddyn 600.

Dehongliad Syr Ifor Williams

Mewn cyfrol arloesol, a gyhoeddwyd ym 1938, dehonglodd Ifor Williams y gerdd fel a ganlyn: wedi ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain yn y 5ed ganrif, sefydlwyd nifer o deyrnasoedd yng ngogledd ‘Lloegr’, teyrnasoedd lle siaredid Brythoneg neu ffurf o Gymraeg cynnar. Yn raddol, collasant eu tiroedd i’r Angliaid, pobl a siaradai Saesneg, ac a oeddent yn prysur symud tua’r dwyrain. Tua 590-600, anfonodd Mynyddawg Mwynfawr, brenin Brythonig Manaw Gododdin (ardal Caeredin bellach) ddetholiad o 300 marchfilwr i wrthsefyll yr Angliaid yn safle strategol Catraeth. Ysywaeth, roedd rhy chydig ohonynt, a lladdwyd ymron y cyfan mewn brwydr.

Talu am eu medd

Roedd Mynyddawg Mwynfawr wedi rhoi llety ac ymborth i’w osgordd am flwyddyn cyn iddynt deithio i Gatraeth, ac un o brif themâu'r gerdd yw i’r milwyr ‘dalu am eu medd’ gyda’u bywydau, gan ad-dalu’r ddyled i’w noddwr. Dyma ran o un pennill (neu awdl):

Gwyr a gryssyassant buant gytneit.

hoedyl vyrryon medwon uch med hidleit.

gosgord vynydawc enwawc ên reit.

gwerth eu gwled o ved vu eu heneit.

Pwy oedd Aneirin?

Un o’r rhai oroesodd frwydr Catraeth oedd y bardd Neirin (neu Aneirin), a dywedir mai ef a luniodd y gyfres hon o awdlau byrion, nid i bortreadu’r frwydr, ond yn hytrach i glodfori’r milwyr Brythonig dewr a fu farw’n deyrngar i’w harglwydd. Yn y man, defnyddiwyd enw’r llwyth fel teitl i’r gerdd, ac fel ‘Y Gododdin’ y cofnododd mynaich Aberconwy'r gwaith ymron i 700 mlynedd yn ddiweddarach. Dyma’r unig gopi cynnar o’r gerdd sydd wedi goroesi’r canrifoedd, a dadleuodd Ifor Williams i’w ffurf wreiddiol gael ei chyfansoddi 1400 mlynedd yn ôl.

Hanes diweddarach y llawysgrif

Yn ystod y 15fed ganrif, roedd Llyfr Aneirin ym meddiant y beirdd Cymraeg Dafydd Nanmor a Gwilym Tew, ac wedi cyrraedd Morgannwg. Ganrif yn ddiweddarach, roedd yn ôl yng Ngogledd Cymru, ac yn y man, ymgartrefodd yn llyfrgell Robert Vaughan yn Hengwrt, ochr-yn-ochr â thrysorau megis Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Taliesin. Yn ystod saithdegau’r ddeunawfed ganrif, cipiwyd Llyfr Aneirin o lyfrgell Hengwrt, a dychwelodd i Dde Cymru. Ymhen amser, daeth i feddiant yr hanesydd Thomas Price (‘Carnhuanawc’), ac wedi ei farw yntau fe’i gwerthwyd ym 1861 i’r casglwr rhyfedd hwnnw o lawysgrifau, Syr Thomas Phillipps o Middle Hill, swydd Gaerwrangon. Wedi cyfnod yn Lloegr, prynwyd Llyfr Aneirin gan Lyfrgell Rydd Caerdydd ym 1896. Fe’i trwsiwyd a’i hail-rwymo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1986, ac ers 2011 bu’r llawysgrif wreiddiol ar fenthyciad hirdymor yn Aberystwyth.

Defnydd o ddelweddau

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido a chyhoeddi Llyfr Aneirin gyda chydsyniad caredig Cyngor Caerdydd. Ceidw Cyngor Caerdydd hawliau’n ymwneud â defnydd o’r delweddau hyn: dylid sicrhau caniatâd cyn defnyddio copïau ar gyfer ymchwil masnachol, neu unrhyw ffurf o gyhoeddiad, a hynny oddi wrth:

Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Aes, Caerdydd CF10 1FL, yllyfrgellganolog@caerdydd.gov.uk