Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyfeirnod: NLW MS 17520A
Roedd Llyfrau Oriau yn boblogaidd iawn yng Ngorllewin Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol. Cynhyrchwyd degau o filoedd ohonynt ac mae nifer wedi goroesi mewn llyfrgelloedd a chasgliadau preifat trwy'r byd. Trwy gyfrwng Llyfrau Oriau, gallai lleygwyr defosiynol ddilyn patrwm o addoli yn eu cartrefi yn seiliedig ar wasanaethau dyddiol yr eglwys, lle rhannwyd y diwrnod yn wyth rhan neu 'awr'. Pennwyd gweddïau penodol ar gyfer pob un o'r oriau, gyda chalendr yn nodi gwyliau a dathliadau arbennig. Roedd nifer o'r llyfrau yn hynod addurnedig gyda lluniau o seintiau, Y Forwyn Fair, a Christ.
Yn ôl pob tebyg, crëwyd y llawysgrif tua 1390-1400. Ceir tystiolaeth i gysylltu'r llawysgrif ag ardal Caernarfon gan fod dathliad cysegru eglwys Peblig Sant yn ymddangos yn y Calendr. Mae'n bosib mai'r perchennog cyntaf oedd Isabella Godynogh (bu f. 1413) y ceir nodyn am ei marwolaeth yn y llawysgrif ar gyfer 23 Ebrill. Mae'r llawysgrif mewn rhwymiad modern, ond mae'n cynnwys elfennau o rwymiad cynharach sy'n perthyn i'r 16eg ganrif. Ysgrifennwyd y llawysgrif ar groen, ac mae'n cynnwys 138 ffolio ac yn mesur 175mm x 121mm. Mae 15 llinell i bob tudalen, ac fe'i hysgrifennwyd mewn llaw litwrgaidd daclus, ond mae'r calendr mewn llaw wahanol a llai.
Yn ogystal ag 'Oriau y Forwyn', cynhwysa Llyfr Oriau Llanbeblig nifer o nodweddion gwerth sylwi arnynt, fel y ddelwedd brin 'Croeshoeliad y Lili' a'r dyddiadau Cymreig yn y calendr. Ceir saith mân-ddarlun, wedi'u rhestru isod, y gellir eu gweld ar wahân i brif gorff y llawysgrif:
Mae 'Croeshoeliad y Lili' yn Llyfr Oriau Llanbeblig yn unigryw mewn llawysgrifau, ond gellir ei weld mewn sawl cyfrwng arall, gan gynnwys nenfwd eglwys Sant Helen yn Abingdon, Swydd Rhydychen, (tua. 1390). Nid peth cyffredin yw gosod mân-ddarlun dros ddwy ddalen fel yn y llawysgrif hon. ' Dyma ddelwedd o 'Croeshoeliad y Lili.
Mae'r calendr mewn inc coch a du, ac yn cynnwys nifer o gyfeiriadau Cymreig. Enwir Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth), cysegru eglwys Peblig Sant (6 Mehefin), Gŵyl Peblig Sant (3 Gorffennaf), a Gŵyl Deiniol Sant, esgob cyntaf Bangor (11 Medi). Y mae'r llawysgrif yn dilyn Arfer Caersallog.