Dafydd ap Gwilym a'r beirdd
Gwaith Dafydd ap Gwilym (fl. 1320-70), yn anad neb arall, fu'n gyfrifol am boblogrwydd cynyddol y cywydd o ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen. Mae'n bosibl mai Dafydd ei hun a gopïodd un o'i gerddi yn Llawysgrif Hendregadredd (llsgr. NLW 6680B). Ymhlith y beirdd a fu'n cofnodi eu cerddi eu hunain neu waith beirdd eraill, gellir enwi Gwilym Tew (fl. 1460-80) yn llawysgrif Peniarth 51, Hywel Dafi (fl. 1450-80) yn llawysgrif Peniarth 67, a Huw Cae Llwyd (fl. 1455-1505) yn llawysgrif Peniarth 54. Nid gwaith hawdd oedd i ambell un, megis Dafydd Epynt (fl. 1456-1515), drin yr ysgrifbin, fel y dengys ansawdd ei lawysgrifen yn llawysgrifau Peniarth 54 a 55. Ond ar y llaw arall, gellir disgrifio Llywelyn Siôn (1540-?1615), copïydd llawysgrif Llanstephan 47, fel ysgrifwr proffesiynol. Aros yn anhysbys, fodd bynnag, a wna llawer o'r rhai a ddiogelodd farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, ac nid hawdd yw cynnig dyddiadau pendant i'r llawysgrifau hyn. Yn aml, gwelir o fewn yr un gyfrol, law mwy nag un copïydd, weithiau'n pontio ystod hir o flynyddoedd.